08/03/2007

Cliniaduron y Blaid

Pan glywais gyntaf am bolisi Plaid Cymru o gynnig cyfrifiaduron pen glin i bob plentyn ysgol roedd fy ymateb gyntaf yn un a phryderon Peter Black. Ond wedi cael amser i ddwys ystyried yr wyf wedi newid fy meddwl.

Pan oeddwn yn hogyn ysgol, amser maith yn ôl, doedd dim son am gyfrifiaduron. Roedd geiriaduron ar gael i blant ysgol, ac yr oeddwn fel fy nghyfoedion yn chwilio'r geiriaduron am eiriau budron. Roedd gwerslyfrau bywydeg ar gael a byddwn, fel bydd glaslanc, yn llygadrythu ar y lluniau yn yr adrannau am atgynhyrchu. Yn wir roeddwn hyd yn oed yn chwilio'r Beibl am ddarnau anweddus yn y gwersi ysgrythur.

Doedd neb yn y cyfnod cyn gyfrifiadurol yna yn awgrymu gwahardd glaslanciau nwydus rhag perchen ar lyfrau o herwydd y tebygolrwydd y byddent yn eu cam ddefnyddio.

Sgil effaith fy nghamddefnydd nwydus o lyfrau yn fy nglaslencyndod, yw fy mod; yn fy mhenwynni; yn eithaf hyddysg wrth ddefnyddio geiriaduron a gwerslyfrau ac yn fy ngwybodaeth Feiblaidd

Bydd cyfrifiaduron; er gwell, er gwaeth; yn chware rhan hanfodol ym mywydau ein plant. Os ydy'n plant am lwyddo yn y byd mawr technolegol sydd o'u blaenau mae'n angenrheidiol eu bod yn magu'r sgiliau cyfrifiadurol gorau mae'r gyfundrefn addysg yn gallu cynnig iddynt.

Yn ddi-os mae yna beryglon yng nghlwm wrth bolisi'r Blaid o roi gliniadur i bob plentyn ysgol. Yn ddi-os, gan mae plant yw plant, bydd nifer ohonynt yn gam ddefnyddio eu cliniaduron. Ond byddid ymateb i bolisi'r Blaid gydag agwedd Luddite yn gadael ein plant yn amddifad o allu, mewn byd sydd yn tyfu'n fwyfwy ddibynnol ar dechnoleg gwybodaeth yn feunyddiol.

Yr ymateb gorau yw croesawu polisi Plaid Cymru o gynnig gliniadur i bob plentyn ysgol, er mwyn i blant Cymru bod ar flaen y gad yn y frwydr dechnolegol. Ond ei groesawu wrth fynnu bod yr addysg sydd yng nghlwm i'r cynnig yn sicrhau bod pob plentyn yn hollol ymwybodol o beryglon cyfrifiaduron yn ogystal â'u manteision.

English Miserable Old Fart: Plaid's Laptop

4 comments:

  1. Fel person fawr TG, dwi'n anghytuno.

    Cychwynnodd f'addysg TG yn y babanod - oedd 6/7, gyda hen gyfrifiaduron Acorn. Dwi'n cofio'r achlysur pan gafodd f'ysgol yr argraffydd lliw cyntaf. Yn y cynradd, ges i ddim addysg TG o gwbwl. Yn yr ysgol uwchradd- chware o gwmpas gyda hen Windows 3.1, wedyn ymlaen at XP. Roedd rhai i bawb neud hanner TGAU yn TG - ges i C.

    Tydi'r addysg a ges i, ddim yn adlewyrchiad o fy ngwybodaeth. Y blwyddyn olaf ma, dwi di bod yn gyfrifol am holl TG cwmni ymbarél, sy'n edrych ar ôl gwasanaethau cwmnïoedd bychain eraill. Mae fy ngwybodaeth yn ddigonol, i beidio gorfod am unrhyw gymorth TG - gallu uwchraddio caledwedd, datrys problemau meddalwedd, adeiladu cyfrifiaduron, rhedeg rhwydwaith maint bach i ganolig.

    Yr unig addysg a gefais oedd sut i ddefnyddio Microsoft Office yn yr ysgol, a nes i ddim ond cael C yn y diwedd.

    Dysgais popeth trwy ddarllen a chware o gwmpas ac arbrofi.

    Rheswm mwya dwi'n erbyn hyn, yw fod plant y dyddiau yma prin yn gallu sillafu'n iawn, heb gwirydd sillafu; yn wan iawn gyda arithmetig ac yn wael yn gig o'r pynciau craidd.

    Dim ond yn y flwyddyn ola ma ges i gliniadur fy hun, a hynny i gyd fynd efo prifysgol.

    Mae gan y mwyafrif o dai teuluoedd cyfrifiadur yn barod, a mae wastad y gwasanaeth TG mae'r llyfrgelloedd yn ei ddarparu.

    Hefyd, mae copïau caled yn fwy dibynnol na data ar ddisg caled.

    ReplyDelete
  2. Rwy'n cytuno, i raddau efo'r hyn rwyt yn dweud.

    Pan oeddwn yn deunaw(ish) ac yn dechrau mynychu tai tafarnau roedd modd codi rownd o 5 neu 6 o ddiodydd ac roedd y barman yn defnyddio ei ben i weithio allan y cyfanswm. Dawn sydd wedi mynd ar goll bellach. Rŵan mae'n rhaid defnyddio'r cyfrifiannell sydd yn y til cyn cael pris rownd.

    Mi fûm ar banel penodi sbel yn ôl i benodi gweithiwr mewn ysbyty. Roedd yr ymgeiswyr oll wedi bod ar ymweliad anffurfiol cyn y cyfweliad a chafwyd adroddiadau ysgrifenedig gan dywysyddion yr ymweliadau i'r panel eu hystyried. Roedd tywysydd un o'r ymgeiswyr wedi defnyddio prosesydd geiriau a gwirydd sillafu i baratoi ei adroddiad. Yn anffodus fe anghofiodd gwirio'r gwirydd a chafwyd adroddiad bod "The candidate wore a suite a shit and tie for the visit" am un o'r ymgeiswyr. Gyda phob dim arall yn gyfartal roedd y ffaith imi gael pwl o chwerthin wrth ddarllen y fath adroddiad yn gweithio’n isymwybodol yn erbyn yr ymgeisydd dan sylw, er nad oedd y camgymeriad o'i wneuthuriad ef.

    Ond, o dderbyn bod cyfrifiaduron yn bod ac yn chware rhan hollbwysig yn y byd modern, yr wyf yn parhau o'r farn mae da yw unrhyw bolisi sy'n rhoi'r blaen ar allu cyfrifiadurol i blant Cymru.

    ReplyDelete
  3. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  4. Mi rydw i'n astudio Ffiseg yn y brifysgol. Os na fyswn i efo sgiliau arithmetig digonol, byse'r amser mae'n ei gymeryd i mi gyfrifio pethau yn cymyd llawer hirach. Mae'r ffaith fy mod yn gallu cofio fod Sin(30) yn 0.5 yn golygu, dwi'n hanneru ryw ateb, yn lle gorfod chware o gwmpas gyda cyfrifiadur.

    Rhaid cofio, fod Ffiseg fel pwnc yn defnyddio'r technoleg mwya blaenllaw. Pobl sy'n ymwneud â'r gwyddorau ffisegol fel mathemateg, ffiseg a thechnoleg gwybodaeth sy'n creu popeth chi'n ei weld o gwmpas. Strwythurau, peiriannau pelydr-x, deunyddiau, cyfrifiaduron. Does dim gobaith gwneud y fath yma o waith ar gyfrifiadur. Rhaid ei wneud gyda phapur a phensil, gwneud arbrofion, ysgrifennu dadansoddiadau. Wedyn, unwaith mae'r sylfaen yn ei le, gellir defnyddio cyfrifiadur i fodelu ryw ddigwyddiad ffisegol.

    Ni fyse hwn yn dwad mor bell, onibai fod gan pobl sgiliau ysgrifennu, boed yn ffurfio llythrennau yn glir, gramadeg a ehanger o eirfa, a gallu cyflwyno gwaith gall eraill ei ddeall.

    Mae fy chwaer yn athrawes ysgol gynradd (wedi gwneud gwaith llanw yn ysgol eich mab, dwi'n meddwl), a dwi'n clwed am bopeth mae hi'n ei ddysgu. Y moddion mae'r llywodraeth yn eu cynghori, yn 'learning outcomes', a fy nhad o hyd yn mynd ymlaen am 'chanting times tables' fel y cafodd ei ddysgu pan yr oedd yn yr ysgol. Dwi'n clwed ganddi fod X yn cael trafferthion ffurfio llythrennau, neu Y braidd yn araf gyda mathemateg.

    Yr oedd f'ewythr arfer a gweithio i Airbus ym Mrychdyn, a dywedodd dim ond tua 15% o ymgeiswyr oedd yn cael eu derbyn am swyddi, gan fod yn gweddill gyda safon sillafu a mathemateg mor wael.

    Sdim ond angen edrych ar y ffordd mae pobl yn sillafu pethau gyda neges destun. How R U? Coelia di neu beidio, dwi di gweld nifer o ebost a llythyrau ffurfiol wedi eu hysgrifennu yn y modd yma.

    Mae gliniadur ar gyfer pob disgybl yn wastraffus. Beth am un rhwng teulu? Rhaid cofio na nid y gost o brynu'r gliniadur fydd, ond y gost o dalu am meddalwedd arno, a chymorth pharhaol i bob peth bach sy'n mynd yn anghywir ar y peth.

    ReplyDelete