06/03/2007

Goleuni a byddardod

Mae llywodraeth Geidwadol Awstralia eisoes wedi cyhoeddi eu bod am anghyfreithloni bylbiau gwynias (y rhai hen ffasiwn). Does gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddim o'r hawl i ddilyn yn union yn ôl traed Awstralia ond mae Ceidwadwyr Cymru am fynd ar yr un trywydd trwy gynnig bylbiau ynni isel yn lle'r rhai gwynias.

Rhaid croesawu'r polisi yma gan Geidwadwyr Cymru ag Awstralia, fel ymgais i ffrwyno cynhesu'r byd. Ond mae gennyf broblem bersonol efo'r polisi.

Rwy'n ofnadwy o drwm fy nghlyw; rwy’n defnyddio lŵp i wrando ar y teledu, y radio a'r ffôn. Mae bylbiau ynni isel yn tarddu ar y lŵp mewn modd sydd yn ei wneud yn amhosibl ei ddefnyddio. Mae cloch fy nrws, fy larwm tân, cloch fy ffôn a fy nghloc codi'r bore oll yn gwneud i oleuadau'r tŷ fflachio. Does dim modd eu defnyddio efo bylbiau ynni isel.

Rwy'n croesawu pob polisi sydd am arafu cynhesu byd eang, ond hoffwn gael sicrwydd bod y bobl sydd yn arddel y bylbiau ynni isel yma hefyd am gefnogi ymchwil bydd yn sicrhau bod pobl drom eu clyw ddim yn cael eu hamddifadu o fywyd cyflawn a diogel o'u herwydd.

English: Miserable Old Fart: Light and Deafness

No comments:

Post a Comment