13/04/2007

Democratiaid Lloegr ym Mynwy

Diolch i Sanddef am fy atgoffa o fwriad Democratiaid Lloegr i sefyll yn etholiadau'r Cynulliad er mwyn hawlio Mynwy. Rhywbeth chwerthinllyd ar un olwg, ond o gofio hanes rhannu'r Iwerddon, yn gynsail beryglus tu hwnt.

Hen gragen yw'r lol bod Mynwy yn rhan o Loegr, un sydd heb unrhyw sail hanesyddol o fath yn byd. O edrych ar gofrestri plwyf i'r dwyrain i'r Fynwy gyfoes mae'n amlwg bod llefydd yn swydd Henffordd hyd at Rhos Gwy (Ross on Wye) wedi bod yn rhan o'r Fro Gymraeg hyd y 1700au.

Esgus Democratiaid Lloegr am sefyll ym Mynwy yw
The Nationality of Monmouthshire has been a matter of debate since 1284.
In 1960’s the then Labour and Conservative goverments conspired to put Monmouthshire into Wales, partly to dilute the growing Welsh Nationalism in Wales generally.

Lol botes maip. Hyd ddeddfau uno 1536 doedd gan Fynwy dim o'r hawl i ddanfon cynrychiolwyr i senedd Lloegr gan ei fod yn rhan o Gymru. Mae'n wir dweud bod Mynwy wedi bod yn rhan o Loegr ar ôl 1536, ond roedd Sir Gaernarfon a Sir Gaerfyrddin hefyd yn rhan o Loegr o dan yr un deddfau. Ond mae pob deddf Gymreig ers hynny o ddeddf cyfieithu'r Beibl ymlaen wedi cynnwys Mynwy fel rhan o Gymru.

Y gwir reswm pam bod yr ED yn sefyll ymgeiswyr yng Nghymru yw er mwyn talu pwyth yn ôl i Blaid Cymru am eu snybio. Yn 2004 cafodd Elfyn Llwyd, arweinydd seneddol y Blaid gwahoddiad i annerch cynhadledd yr ED ac i drafod cynghreirio rhwng yr ED, PC a'r SNP ar gyfer etholiad 2005. Gwrthodwyd y cais gan Elfyn oherwydd y ffaith bod ED yn wrthwynebus i'r Undeb Ewropeaidd tra bod PC ac SNP yn credu mewn annibyniaeth yn Ewrop.

Rwy'n credu bod Elfyn wedi gwneud camgymeriad. Mae'n fanteisiol i'r achos cenedlaethol Cymreig, Albanaidd a Chernyweg i feithrin yr achos cenedlaethol Seisnig. Mater i'r Saeson yw penderfynu, yn annibynnol i ni, eu perthynas ag Ewrop. Dyna, wedi'r cwbl, yw hanfod annibyniaeth.

Camgymeriad fwy byth oedd ymateb biwis Democratiaid Lloegr i sefyll ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad.

Mae ED yn sefyll ymgeiswyr mewn tair etholaeth: Mynwy, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd. Ond mae etholaethau Torfaen, Islwyn a Blaenau Gwent hefyd yn rhan o'r hen sir Fynwy - does dim son am ymgeiswyr ED yn yr etholaethau yma. Ar gost o £500 yr ernes, a dim ond 4 sedd ar gael mae yna 10 o ymgeiswyr ED ar restr y De Ddwyrain! Son am afradu arian. Pe bai 'r ED yn ennill 100% o'r Bleidlais yn y tair etholaeth a 100% o'r bleidlais ranbarthol byddent yn dal i golli rhywfaint o'u harian ernes.

Rwy'n gweld yr holl hanes yn pathetic. Mi fyddwn wrth fy modd yn gweld Democratiaid Lloegr yn cael llwyddiant etholiadol yn Lloegr. Pe bai'r arian ar amser mae'r ED yn afradu ym Mynwy wedi ei wario i gefnogi ymgeiswyr yn etholiadau cyngor Lloegr bydda fodd i'r blaid cael troed yn y drws trwy sicrhau ethol ambell i gynghorydd. Peth llawer mwy cadarnhaol i'r achos cenedlaethol yn gyffredinol nag afradu arian ac amser ar greu anghydfod di angen rhwng achosion cenedlaethol y ddwy wlad.

This post in English: Miserable Old Fart: The English Democrat Invasion

2 comments:

  1. Cofia HRF, fod y Blaid a'r SNP, hyd y gwyddwn, yn gefnogol i genedlaetholdeb Cernywaidd, ond nad yw'r ENP yn cydnabod Cernyw fel gwlad neu hyd yn oed ranbarth unigol

    ReplyDelete
  2. Yn union. Mae gan Plaid Cymru berthynas clos gyda Mebyon Kernow yng Nghernyw, ac yn 2003 fe wnaeth Simon Thomas siarad yn ei cynhadledd flynyddol.

    http://www.mebyonkernow.org/Public/Stories/122-1.shtml

    Er fod Democratiaid Lloegr erbyn hyn yn cefnogi "- greater autonomy for Cornwall.", maent o hyd yn ystyried Cernyw fel sir o Loegr, ac nid fel gwlad arwahan.

    ReplyDelete