12/04/2007

Fy Hoff Blog

Awgrymodd Blamerbell ychydig yn ôl bod modd creu cynghrair o flogiau Cymreig trwy gymharu nifer y dolenni i a'r sylwadau ar flogiau. Os felly rwy'n amau nad ydy fy hoff blog ymysg y deg uchaf, gwaetha’r modd

Dylid rhoi Wales World Nation ar restr darllen orfodol unrhyw Gymro gwladgarol gwerth ei halen.

Nid oes gennyf syniad pwy yw'r awdur, ond pwy bynnag ydyw mae ef neu hi yn haeddu medal am wasanaeth clodwiw i'r achos cenedlaethol.

Yn wahanol i'r mwyafrif o flogiau gwleidyddol Cymreig does dim gwenwyn gwleidyddol ar Wales Welsh Nation. Mae pob post yn dilyn fformiwla syml. Dyfyniad am yr hyn mae gwlad fach annibynnol wedi llwyddo ei gyflawni, a sylw parthed gallu Cymru i wneud yr un peth pe bai'r rhyddid ganddi.

Os nad yw Wales Welsh Nation ar eich rhestr RSS neu heb ddolen ganoch cynhwysed hi ar fyrder - cewch ddim mo'ch siomi.

I have posted an English version of this post here by mistake - sori Hedd

1 comment:

  1. Cymro di-Gymraeg o ardale Torfaen/Blaenau Gwent yn wreiddiol sydd nawr yn byw a gweithio yn y Ffindir yw'r awdur.

    Mae 4 person wedi tanysgrifio i dy borthiant drwy Bloglines

    ReplyDelete