20/04/2007

Gormes y Siopau Bychain

Bellach yr wyf wedi cael gafael ar rifyn Ebrill o Barn. Dyma'r erthygl o'm heiddo sydd yn ymddangos ynddi


Gormes y Siopau Bychain

Mae Sawl un wedi dadlau bod archfarchnadoedd yn bygwth dyfodol ein cymunedau. Ond mae casineb tuag at fusnesau mawrion yn ein dallu ni i rai o beryglon siopau lleol

Mae yna chwedl, sydd yn gyffredin ymysg y rhai sydd yn byw ym mhentrefi gwledig Prydain Fawr, bod yna rhai sefydliadau sydd yn angenrheidiol i barhad y bywyd gwledig. Swyddfa Post, Ysgol, Tafarn, Capel neu Eglwys a Siop y Pentref. Yn y Gymru Wledig mae parhad yr eiconau hyn o fywyd pentrefol yn bwysicach byth gan mae pentrefi gwledig, ysywaeth, ydy'r unig gymdeithasau Cymraeg sydd yn dal i fodoli. Yn ôl y chwedl, o golli un neu ragor o'r sefydliadau hyn mae bywyd pentrefol ar ei golled. Ac felly yng Nghymru mae'r Iaith Gymraeg hefyd yn cael ei cholli.

Chwedl, nid ffaith. Drwg chwedl y Brydain wledig yw mai chwedl y dosbarth canol ydyw. Drwg chwedl y Cymry gwledig yw ei fod yn troi'r iaith Gymraeg yn foethusrwydd na all y dosbarth gweithiol cynhenid Cymraeg ei fforddio.

Mae pawb yn gwybod, bellach, ei bod hi'n amhosibl i'r dosbarth gweithiol lleol brynu tai yn ardaloedd gwledig Prydain. Llai byth yw eu gallu i brynu busnes lleol. Mewnfudwyr yw perchenogion bron pob busnes.

Mae bod yn berchennog busnes yn hynod ddylanwadol. Mae tua 60% o gynghorwyr plwyf a thua 40% o gynghorwyr sir y DU yn hunan cyflogedig, mae'r ffigyrau yn uwch o lawer yn yr ardaloedd gwledig. Wrth brynu busnes mewn pentref gwledig mae'r mewnfudwr yn prynu enaid y gymdeithas hefyd

Rwy'n byw mewn pentref lle mae, yn ôl y cyfrifiad diwethaf, 55% o'r boblogaeth yn gallu'r Gymraeg. Ffigwr a,m syfrdanoddi, a ddweud y gwir, gan imi gredu fy mod yn byw mewn pentref a oedd i bob pwrpas yn uniaith Saesneg..

Un o'r rhesymau am y camargraff mae pentref Saesnig yw'r Llan hon yw'r ffaith mae Saeson sydd â'u gafael ar y pentref. Saeson biau trwyddedau'r ddau dafarn, Sais yw perchennog y modurdy, Sais biau'r Swyddfa Post a Sais biau'r Siop Bach. A Saeson llafar eu gwrth Cymreictod ydyw pob un ohonynt. Saeson llafar dylanwadol.

Oherwydd eu bod yn "ganolbwynt" y pentref mae'r Saeson llafar dylanwadol yn cael effaith ar bob dim arall. Nhw yw aelodau'r Cyngor Plwy. Efallai mai prin yw dylanwad Cynghorau Plwy y dwthwn hwn, ond digon dylanwadol i roi nawdd igylch addysg meithrin (Saesneg) heb holi am ddyfodol yr Iaith Gymraeg. Digon dylanwadol i roi nawdd i'r Sgowts ond nid i'r Urdd. Digon dylanwadol i gael presenoldeb ar Gorff Llywodraethol yr Ysgol. Digon dylanwadol i redeg Cyngor Plwyf yr Eglwys a Phwyllgor y Neuadd Goffa - gan sicrhau mae'r Saesneg yw brif iaith y sefydliadau hynny.

I bobl ddiwylliedig Cymreig i ddarllenwyr Barn, Golwg a'r Cymro - mae 'na ryw syniad hiraethus bod busnesau bach lleol yn amddiffyn y pentref. Ond onid y gwirionedd cignoeth yw mai Tesco, Asda a Morrisons yn gwneud llai o niwed na'r busnesau bychain?

Mae prisiau rhad y siopau mawr yn cynnig modd i fyw yn lleol i'r dosbarth gweithiol cynhenid, lle mae crocbrisiau'r siopau bach lleol yn eu cau allan. Mae modd pwyso ar y cwmnïau mawr i gael gwasanaeth Cymraeg, lle nad oes modd rhoi'r fath bwysau ar y siop leol. Os ydy siop y mewnfudwr yn cau o dan bwysau Tesco, bydd modd i Gymro lleol sefyll yn gyfartal a'r mewnfudwr ar gyfer etholiadau'r cyngor, llywodraethwr ysgol ac ati. Mae pentref Cymreig sydd o fewn dalgylch un o'r siopau mawr yn debycach o gadw ei Gymreictod nac ydy pentref sy'n ddibynnol ar siop fach leol y mewnfudwr.

Naw wfft i'r siopau bach - Tesco a'i pholisi iaith gadarnhaol o fewn deng milltir i bob tref a phentref Cymreig yw "YR UNIG ATEB"


Yr wyf wedi derbyn gwahoddiad i drafod cynnwys yr erthygl ar raglen Wythnos Gwilym Owen i'w darlledu ar Radio Cymru pnawn Lun nesaf

No comments:

Post a Comment