21/04/2007

IWJ & Wylfa B

Yn y 1880au symudodd fy hen, hen daid a'i dylwyth o Lanelltud, Dolgellau i Bontypridd. Nid er mwyn gweithio yn y pyllau megis y mwyafrif a ffodd i'r Sowth ond oherwydd ei fod y saer eirch. Roedd llawer, llawer mwy o waith i'w cael i'r rhai oedd yn dilyn y fath alwedigaeth yng nghymoedd diwydiannol y de nag oedd ar gael ym Meirion gwledig.

Mae cofio am fudo fy nheulu i Bontypridd yn atgof byw i mi o ba mor beryglus oedd gwaith yn y diwydiant glofaol. Roedd cloddio am lo yn swydd afiach a achosodd marwolaethau miloedd trwy ddamwain. Bu nifer o'r rhai a arbedwyd o farwolaeth ddisymwth mewn damwain yn dioddef o gystudd hir, cyn marw o blaen eu hamser ta waeth.

Rhywbeth oedd yn nodweddiadol o fy holl gysylltiadau yn y deheubarth yn ystod y cyfnod pan oedd y pyllau glo yn parhau i fod yn bwysig oedd yr awch, yr awydd, y gweddïo i arbed eu meibion rhag mynd lawr y pwll. Ond eto pan fu bygwth cau'r pyllau roedd y rhai nad oeddynt am weld eu meibion yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn ymladd nerth eu gallu i gadw'r diwydiant yn fyw.

Pam? O herwydd eu bod yn gwybod pe bai'r swyddi yn y lofa yn cael eu colli nad oedd dim oll ar gael i'w rhoi yn eu lle. Er mor frwnt, afiach a pheryglus oedd y diwydiant glo, rhwygwyd calon ag enaid y cymoedd o golli'r diwydiant

Digwyddodd peth tebyg yng Ngogledd Meirionnydd ar gau orsaf niwclear Traws. Daeth ardal lewyrchus yn ardal o dlodi ac anobaith o golli'r swyddi da oedd ar gael yn y pwerdy. Ydy'r sawl sy'n mwynhau cyfyng gyngor Ieuan Wyn Jones parthed Wylfa B, o ddifri am weld yr hyn a digwyddodd i'r cymoedd a'r hyn a digwyddodd i ogledd Meirion yn digwydd ym Môn hefyd?

Beth bynnag fo barn y lobi wrth niwcliar fe ymddengys bod y Llywodraeth Lafur am godi cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwcliar. O dderbyn hynny pa beth sydd orau, bod un ohonynt yn cael eu hadeiladu yn yr Wylfa gan ddiogeli swyddi, neu fod y cyfan yn cael eu hadeiladu yn Lloegr a bod teuluoedd Cymraeg eu hiaith yn symud i Loegr i chwilio am waith yn y gorsafoedd newydd?

Rwy’n methu derbyn y ddadl bod Ieuan Wyn Jones yn ddau wynebol neu wedi gwerthu ei egwyddorion am gefnogi'r syniad mae gwell yw adeiladu ail orsaf ym Môn os oes rhaid adeiladu gorsaf newydd yn rhywle. Does dim byd mwy dau wynebol yn ei safiad nag oedd yn safiad y sosialwyr deheuol a oedd yn pregethu bod ein plant yn haeddu gwell na phyllau budron ond a aeth ati yn ddygn i geisio achub y pyllau budron hynny pan oedd bygythiad i barhad y diwydiant glo Doedd y sosialwyr yna ddim yn ddiegwyddor gan eu bod yn gwybod nad oedd dim gwell yn cael ei gynnig.

Rwy'n credu bod pobl Sir Fôn yn haeddu gwell na pheryglon y diwidiant ynni niwcliar. Ond hyd, neu oni bai, bod rhywbeth gwell yn cael ei gynnig iddynt yr unig ddewis sydd gan wleidyddion yr ynys, boed IWJ, Albert Owen neu rywun arall, yw amddiffyn parhad swyddi da yn y diwidiant niwcliar am ba hyd y mae modd i'w cynnal.

This post in English: Miserable Old Fart: Ieuan Wyn Jones & Wylfa B

No comments:

Post a Comment