23/04/2007

Metron. Dim diolch!

Pob tro mae pwnc y gwasanaeth iechyd yn cael ei godi gellir gwarantu bydd rhywun yn awgrymu mae'r ateb yw dod a'r fetron yn ôl. Dyna oedd gri aelod o'r gynulleidfa ar raglen hustings a BBC neithiwr, dyna oedd ple'r Athro Dylan Jones-Evans yn ei araith ym mhrotest Achub Ysbyty Llandudno dydd Sadwrn, mae'r un un sylw yn cael ei ail adrodd tro ar ôl tro yn ystod pob ymgyrch etholiadol.

Nyrs oedd metron ysbyty yn arfer bod, rhywun wedi ei hyfforddi i ofalu am gleifion. Fel arfer nyrs gyda blynyddoedd o brofiad. Gwastraff llwyr o brofiad a hyfforddiant oedd rhoi person o'r fath mewn swydd weinyddol. Y person gorau i weinyddu ysbyty yw unigolyn sydd wedi ei hyfforddi i fod yn weinyddwr ysbyty nid nyrs.

Mi fûm yn gweithio fel nyrs cofrestredig am flynyddoedd. Pan ddechreuais nyrsio prin oedd y gweinyddwyr yn y gwasanaeth iechyd. Ond roedd digon o weinyddiaeth i wneud. Pryd hynny dyletswydd y chware nyrs oedd y gweinyddu a bydda chwaer nyrs yn gwario gymaint â 90% o'i diwrnod gwaith yn gwneud gwaith swyddfa, gwaith nad oedd hi wedi ei hyfforddi i wneud, a dim ond 10% o'i hamser yn gwneud ei gwaith priodol o nyrsio. Pan gyflwynwyd polisi o gyflogi clercod ward mewn ysbytai yng nghanol yr 80'au roeddwn yn ei groesawu fel cam da, polisi oedd yn caniatáu imi ofalu am gleifion yn hytrach nag ofalu am bapurach.

Hwyrach bod yna gormod o weinyddwyr yn y GIC, ond cyn cael eu gwared mae'n rhaid cael gwared â'r gwaith gweinyddol y maent yn eu cyflawni. Yn sicr digon nid ydwyf am weld y cloc yn cael ei droi'n ôl i'r dyddiau du pan nad oedd nyrsiaid yn cael amser i nyrsio. Nid ydwyf am weld y goreuon a'r mwyaf profiadol o nyrsiaid y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu troi yn metrons gweinyddol eto gan afradu cleifion o'u dawn a'u profiad fel gweithwyr iechyd proffesiynol.

No comments:

Post a Comment