26/04/2007

Protestio yn erbyn y Gymraeg ym Môn

Mae yna stori yn y Daily Post heddiw yn dwyn y penawd Welsh-only polling cards bring protest. Yn ôl y stori mae rhai o drigolion Ynys Môn wedi bod yn cwyno eu bod yn cael eu hamddifadu o'u hawliau democrataidd oherwydd y Gymraeg ar gardiau hysbysebu pleidlais a ddosbarthwyd gan y cyngor lleol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Mae'r pennawd yn gamarweiniol iawn. Dydy'r cardiau ddim yn uniaith Cymraeg, maent yn ddwyieithog. Yr hyn sydd wedi cythruddo Saeson yr ynys yw'r ffaith bod enwau'r gorsafoedd pleidleisio yn rhai Cymraeg. Llefydd fel Hen Ysgol Llandegfan, Ysgol Gynradd Henblas Llangristiolus, Neuadd Goffa Amlwch ac ati.

Yn ôl yr erthygl mae'r cyngor yn gwrido o herwydd y camgymeriad ac wedi ymddiheuro. Pam tybed? Enwau Cymraeg yn unig ddylid fod ar y fath sefydliadau mewn trefi a phentrefi Cymreig - does dim angen i'w bastardeiddio er mwyn hwyluso pobl dŵad, sydd yn rhy ddiog i werthfawrogi eu bod wedi symud i ardal Cymraeg, cael pleidleisio.

2 comments:

  1. Digwyddiadau fel hyn, er gwaetha'r modd i'r rhai sy'n ei wneud, sy'n fy nhynnu yn fwy fwy at yr asgell dde.

    Fydd hi'n dwad at bwynt ble fydd digwyddiad fel hyn yn cael ei godi, y fi'n gwylltio, ac yn troi i fyny gyda ryw syniad radicalaidd a all dim ond brifo pobol.

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:09 am

    ^^Dwi'n ysu am gael gwybod be di "syniad radicalaidd" Huw!

    Rhacsyn o bapur di'r Daily Post - wedi mynd yn debycach i dabloids Llundain ers talwm.

    ReplyDelete