08/04/2007

Pwy sydd am yfed o gwpan wenwynig?

Mae Numpti Morgan wedi dweud ei fod am ymadael a'i swydd fel arweinydd y Blaid Lafur yn y Cynulliad yn 2009 fan bellaf, ac os bydd canlyniad y Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad yn andros o wael mi fydd yn ymddiswyddo yn syth wedi'r etholiad. Dydy o ddim yn egluro yn union be fydd canlyniad gwael. Y canlyniad gwaethaf iddo, wrth gwrs, bydd colli ei sedd ei hun yng Ngorllewin Caerdydd - hwyrach bod ei ganlyniadau canfasio yn dweud rhywbeth wrtho nad yw am rannu gyda'r gweddill ohonom ar hyn o bryd :-)

Mae Chanticleer a Sanddef yn trafod pwy sy'n debygol o olynu Rhodri i'w uchel arswydus swydd. Carwyn Jones neu Leighton Andrews, fe ymddengys yw'r ffefrynnau. Rwy'n teimlo dros bwy bynnag sy'n cael y swydd, bydd arwain y grŵp Lafur wedi etholiad gwael ddim yn swydd hawdd neu lawen iawn, swydd dros dro am flwyddyn neu ddwy yn unig.

Pan oeddwn yn aelod o Blaid Cymru yn niwedd yr wythdegau, yr aelod o'r to ifanc ar y pryd oedd yn cael ei dipio i fod yn un o arweinwyr mawr y blaid yn y dyfodol oedd Alun Davies. Mae Alun bellach yn aelod o'r Blaid Lafur ac mae ganddo lygedyn o obaith o gael ei ethol i'r Cynulliad nesaf. O gael ei ethol a chael dipyn o brofiad, tybed a fydd Alun yn codi i fod yn arweinydd Llafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2011?

Mae'r Chanticleer a Sanddef hefyd yn awgrymu mai Wendy Alexander bydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yn yr Alban. Annhebygol medda fi - mae Wendy eisoes wedi cael ei fendithio fel hoff ymgeisydd pencadlys Llafur yn Llundain. Gan mae Llundain sy'n cael y bai am smonach Llafur gan aelodau'r blaid yn yr Alban prin bydd hogan dlos Llundain yn cael ei goddef ganddynt wedi'r etholiad.

2 comments:

  1. Carwyn bydd yn mynd a hi yn bendant fi'n credu. Ond gobeithio mae Leighton fydd yn ennill. Byddai hynny yn sicr yn hwb o Blaid Cymru ;-)

    ReplyDelete
  2. Anonymous8:04 pm

    Ond gobeithio mae Leighton fydd yn ennill. Byddai hynny yn sicr yn hwb o Blaid Cymru ;-)


    Pwynt da iawn, Hedd. Go Leighton!

    ReplyDelete