01/06/2007

Carwyn - Dim Deddf Iaith.

Yn ôl blog Vaughan cafodd Carwyn Jones ei benodi i swydd Diwylliant ac Iaith y Cynulliad er mwyn bod yn Gweinidog Plesio Plaid Cymru. Ei swyddogaeth ef byddai sicrhau bod aelodau'r Blaid yn cael eu bwydo digon i'w cadw rhag dymchwel y Llywodraeth. Rhyfedd o beth, gan hynny, bod Carwyn wedi defnyddio ei gyfweliad cyntaf ers ei benodi i dynnu blewyn o drwyn y Blaid.

Wrth siarad ar raglen Taro’r Post ar Radio Cymru y pnawn yma fe ddywedodd Carwyn nad oedd o'n credu y byddai deddf iaith yn gwneud dim lles i'r iaith. Aeth o ddim mor bell ag i ddweud ei fod yn gwrthwynebu unrhyw ddeddf ond yn sicr yr oedd yn hollol eglur nad oedd o'n ffafrio'r syniad.

Ar un olwg does dim syndod yn natganiad Carwyn, mae'r hyn ddywedodd yn barhad o'r hyn fu polisi'r Blaid Lafur ers wyth mlynedd bellach. Ond eto ffordd od ar y naw i ddechrau cyfnod o geisio llywodraethu trwy gonsensws ac estyn allan at y pleidiau eraill, chwedl Rhodri Morgan, yw taflu dwr oer ar un o'r polisïau oedd ym maniffestos y tair gwrthblaid, a hynny o fewn diwrnod o gael ei benodi.

Wrth gwrs bydd sylwadau Carwyn yn plesio un garfan yn arbennig, yr aelodau hynny o'r Blaid Lafur sydd yn gynhenid wrth Gymreig. Wedi ei bortreadu fel un o'r Llafurwyr sy'n agos at yr Nats hyll dros gyfnod y trafodaethau ar y gytundeb ydy Carwyn yn ceisio newid ei ddelwedd rhywfaint er mwyn cryfhau ei obeithion yn y ras am yr arweinyddiaeth?

English: Carwyn and the Nat Bashers

1 comment:

  1. Trwy sylwadau fel hyn gan Llafur mae'n dangos fod rhaid i'r clymblaid dod?! Ond o beth dwi di darllen y fydd yr Ceidwadwyr yn edrych ar ol yr Iaith Cymraeg.

    Fydd hyn yn waeth na Llafur?

    ReplyDelete