12/07/2007

Pôl y Blaid

Mae Plaid Cymru wedi ei phlesio mor arw gan ei phôl piniwn preifat diweddaraf, fel ei bod wedi penderfynu ei rhyddhau i'r wasg.

Dyma'r ffigyrau:
Llafur 45.2% fynnu 13 pwynt % ers yr etholiad
Plaid Cymru 24.3% fynnu dim ond 1.9 pwynt %
Ceidwadwyr 12.6% i lawr 11.8 pwynt %
Rhydd Dem 10.1% i lawr 4.9 pwynt %

Nid ydwyf yn or hoff o bolau piniwn Cymreig, yn bennaf gan eu bod yn gyson anghywir a hynny oherwydd brychau yn y ffordd y maent yn cael eu cynnal. Mae'r pôl yma yn cynnwys y brychau mwyaf amlwg. Yn gyntaf nid cwmni pôl piniwn mo Beaufort Research, cwmni ymchwil marchnata ydyw. Yr hyn mae’r Blaid yn gwneud yw talu Beaufort hyn a hyn y cwestiwn i'w gofyn mewn archwiliad masnachol cyffredinol. Mae pawb yn defnyddio papur tŷ bach, felly mae cwestiynau Beaufort am ba frand yr wyt yn prynu yn ddilys, ond nid pawb sydd yn pleidleisio felly dydy cwestiynau am dy hoff frand o blaid wleidyddol dim yr un mor ddilys.

Ond o gogio am funud bach bod y pôl yn dangos tueddiadau gwleidyddol cywir rwy'n synnu braidd bod y Blaid wedi ei ryddhau. Y bwriad oedd cyfiawnhau'r penderfyniad i glymbleidio a Llafur gan ddangos bod dwy blaid y glymblaid yn fwy poblogaidd nawr nag ydy'r ddwy sydd allan o'r glymblaid. Digon teg; ond pe bai ffigyrau'r pôl yn cael eu gwireddu trwy Gymru gyfan bydda'r Blaid mewn twll.

Os mae canlyniad y pôl oedd canlyniad cyffredinol "go iawn" Mai 3ydd bydda'r Blaid wedi methu ennill yng Nghonwy nac yn Llanelli. Mi fyddai, o bosib, wedi crafu un neu ddwy sedd ychwanegol ar y rhestr, ond mi fyddai'r Blaid Lafur wedi ei ddychwelyd efo mwyafrif clir iawn i'r Cynulliad heb angen cynghreirio efo Plaid Cymru na'r un blaid arall.

Yn hytrach na bod yn brawf o lwyddiant y Blaid wrth gynghreirio a Llafur, mae'r pôl yma yn brawf diamheuaeth bod y Blaid wedi gwneud camgymeriad dybryd. Mae'r pôl yn dangos yn glir mae'r Blaid Lafur sydd wedi derbyn y bendith mwyaf o'r clymblaid, gyda bron i dreuan mwy o gefnogaeth iddi rwan nag oedd ganddi ddeufis yn ôl!

1 comment:

  1. Ti'n cymharu'r pol efo canlyniad Mai 3ydd. Fel ddudis di dy hun dydi canlyniada polau Cymru ddim yn dangos sud eith etholiad. Ma Beaufort o hyd yn ffendio mwy o gefnogwyr Llafur a llai o Doriaid.

    Be ddylsa'r pol hwn gael ei gymharu efo ydi yr un pol adeg yr etholiad. Ma hwnnw yn dangos Plaid fyny rhyw 4%, Llafur fyny bach llai, a'r ddau arall i lawr.

    ReplyDelete