20/10/2007

Ysgolion Gwynedd

Mi fydd yn anodd ar y naw i Blaid Cymru cadw ei gafael ar Gyngor Sir Gwynedd ar ôl etholiadau mis Mai nesaf os ydy'n bwrw 'mlaen a'r cynllun addysg a gyhoeddwyd ddoe. Cynllun bydd yn cael effaith andwyol ar dros 80% o ysgolion cynradd y sir. Mae cyhoeddi cynllun o'r fath namyn chwe mis cyn etholiad megis gweithred o hunanladdiad gwleidyddol ac yn anodd iawn ei ddeall yn nhermau gwleidyddol, heb son am ei effaith ar addysg yn y sir.

Yn ardaloedd cryfaf y Blaid, Dwyfor a Meirionnydd, dim ond dwy ysgol arbennig sydd yn cael eu hamddiffyn rhag y fwyell!

Rwy'n ddeall mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad diwethaf a orfododd pob sir yng Nghymru i edrych ar strwythur eu hysgolion cynradd, felly tal hi ddim i ambell i gefnogwr y Blaid Lafur i lyfu gên yn ormodol am y sefyllfa. Ond wedi dweud hynny rwy’n methu yn fy myw a deall pam bod cyngor Plaid Cymru Gwynedd wedi penderfynu ymateb i orchymyn y llywodraeth Lafur mewn modd mor eithafol.

Mae rhai agweddau o'r polisi a gyhoeddwyd ddoe yn gwbl annealladwy. Pam bod y cyngor wedi penderfynu cau Ysgol y Clogau? Mae gan y Clogau 39 o ddisgyblion ar ei lyfrau (nid y 25 mae'r cyngor yn honni). Mae Ysgol y Ganllwyd, sydd ag 20 o blant, ac yn yn nes at ei hysgol gynradd agosaf nag ydyw Ysgol y Clogau am ei gadw ar agor fel safle addysgol. A'i geisio ennill y frwydr trwy osod ysgol yn erbyn ysgol yw'r diben? Does dim synnwyr yn y peth!

Mae dwy ysgol gynradd Dolgellau ymysg yr ysgolion cynradd mwyaf yng Ngwynedd. Gan eu bod ar draws y ffordd i'w gilydd hwyrach bod synnwyr yn y syniad o'u huno yn weinyddol, ond mae eu cau a'u huno a'r ysgol uwchradd er mwyn creu un ysgol 3-16 oed yn orffwyll ac yn ymylu ar fod yn anfoesol.

Mae'r syniad o fynd i'r ysgol fawr yn gam bwysig yn natblygiad plentyn, mae'n rhan o dyfu fyny a derbyn cyfrifoldeb. Mae'r cam yma i'w dynnu oddi ar blant Dolgellau (ac, o bosib, plant Harlech hefyd). Pe bawn yn dad i blentyn 3 neu 4 oed byddwn yn anfodlon a'r syniad bod y bychan am fentro i fyd addysg mewn ysgol oedd yn cynnwys plant mawr, cyhyrog, ffiaidd eu tafodau a llawn hormonau 16 oed. Pe bawn yn gwr ifanc 16 oed ar drothwy dod yn oedolyn ni fuaswn am fynychu'r un ysgol a babanod 3 oed.

Mae cynlluniau Gwynedd yn ddrwg i addysg ac yn wleidyddiaeth farwol i'r Blaid. Mae'n rhaid i'r Blaid yng Ngwynedd taflu'r cynllun hurt yma allan ar y cyfle cyntaf un.

1 comment:

  1. Nid hynny dwi yn gwneud ond y pwnt hollol deg bod "hypocrsy" enfawr yn gwynebu Plaid Cymru oherwydd sut mae nhe wedi ymgyrchu hyd yma dros ardaloedd gweledig. Mae cynghorau Llafur yn gwynebu cwestiynnau tebyg. Ond mae'r faith bod Plaid yn cynnig pecy fel hyn am gyrru nifer yn wallgo.

    ReplyDelete