07/12/2007

Am Glod i Gollwyr!

Enillwyr gwobr rhaglen AM-PM BBC Wales am ymgyrch gorau'r flwyddyn eleni oedd Chris Bryant AS a Leighton Andrews AC am eu hymgyrch i gadw ffatri Burberry y Rhondda ar agor. Llongyfarchiadau mawr i'r ddau ar eu gwobrau.

Ond, oni chaewyd y ffatri er gwaethaf pob ymgyrch? Oni chollwyd yr ymgyrch arbennig yma?

Os mae brwydr a gollwyd oedd ymgyrch gorau'r flwyddyn, ba glod sydd, o fod yn ymgyrchydd gorau?

2 comments:

  1. Siawns nad oeddet ti'n ymwybodol mai nid cadw'r ffatri ar agor ac achub swyddi oedd nod yr ymgyrch yn y lle cyntaf ond cael gwynebau'r ddau 'sosialydd' yn y papurau'n ddyddiol.

    Mae nhw hyd yn oed wedi llwyddo cael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion rhai misoedd yn ddiweddarach.

    'Result'

    Sylwadau difyr ar Aberdare Blog

    ReplyDelete
  2. "Mr Bryant said that the campaign had demonstrated that big international companies "can't have everything their own way when ordinary people campaign for something".

    Ond mae nhw wedi cael ffordd eu hunain ac wedi symud y ffactri i Cheina.

    ReplyDelete