15/07/2008

Sesiwn neu Olympiad?

Pan oeddwn yn noldrwms glaslencyndod; y dyddiau pan oedd creadur rhwng bod yn hogyn ac yn ddyn, ac yn dechrau lladd ar bawb a phopeth yn ei fro a dweud does dim byd imi yma, mae bywyd yn boring mi gefais fy rhwydo gan ddyn ifanc (nad oedd llawer yn hyn na fi) Ywain Myfyr, i wneud fy rhan wrth drefnu Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau.

Dwi ddim am frolio a dweud fy mod yn geffyl blaen yn yr achos, ond roeddwn yn rhan ohoni. Roedd bod yn rhan yn wefreiddiol. Pan oedd hogiau cyfoed trwy Gymru benbaladr yn cwyno nad oedd dim yma i ni, yr oeddwn yn rhan o greu y rhywbeth i ni yma yn Nolgellau. Profiad celfyddydol a gwleidyddol arbennig.

Daeth yr Ŵyl Werin Geltaidd i ben ac yn ei lle daeth y Sesiwn Fawr. Yr un byrdwn fu i'r Sesiwn: gallwn, gallwn gael y gorau i ganu yn Nolgellau. Afraid cwyno ar eraill am ddim byd yn digwydd, trwy ein gwaith ein hunain gallwn greu rhywbeth sy'n digwydd.

Teg yw nodi fy mod wedi cwyno yn groch am ambell i artist sydd wedi ymddangos yn y Sesiwn. Roedd Goldy Looking Chain yn ddim byd ond ffieidd-dra wedi ei lapio yn barchus mewn Ddraig Goch. Roedd clywed darpar brifardd yn malu efo'r band Genod Droog yn gwneud i ddyn i boeni am ddyfodol cerdd dafod. Er fy nghwyn roedd y Marian yn llawn ar gyfer yr erthyl grwpiau yma, a chefais lond ceg ar faes yr ŵyl ac ar Faes-e am fy nghwynion!

Er cwyno, cefais wledd llynedd. Yn nyddiau'r Ŵyl Werin bydda rywun, pob blwyddyn, yn sicr o grybwyll y Dubliners fel grŵp i'w gwahodd, a'r trysorydd yn dweud Na! Rhy Ddrud. Roedd bod ym mlaen y dorf yn clapio, dawnsio a chyd ganu a'r Dubliners yn Nolgellau llynedd yn gwireddu breuddwyd oes imi.

Mae'n bosib mae Sesiwn Fawr eleni, bydd y Sesiwn olaf un. Mae'r nawdd a'r grant a arferid rhoi i wyliau, fel y Sesiwn, bellach wedi ei glustnodi ar gyfer gemau Olympaidd Llundain. Mae'n debyg bod Wakestock, Y Faenol, Gwyl y Gelli a Pharti Ponti, hefyd o dan fygythiad, yn ogystal â channoedd o wyliau llai.

Dwi ddim yn wrthwynebus i Gemau Olympaidd Llundain fel y cyfryw. Os byddwyf fyw cyhyd, trwy ras Dduw, dyma fydd yr unig achlysur caf i fynychu gemau o'r fath. Ond a ydy lladd, am byth, nifer mawr o wyliau Cymru, megis y Sesiwn, yn bris teg i'w dalu am fis o chware yn Llundain?

No comments:

Post a Comment