22/08/2008

Anabledd yr Eisteddfod

Mae 'na gŵyn yn y rhifyn cyfredol o Golwg am ddiffyg darpariaeth i bobl sydd yn byw gydag anabledd yn yr Eisteddfod.

Mae Meri Davies o Lanelli wedi ysgrifennu at drefnwyr yr Eisteddfod i fynegi ei siom a'i rhwystredigaeth am y ddarpariaeth.

Hoffwn ategu fy nghefnogaeth i sylwadau Ms Davies. Mi fûm yn gwthio fy ngwraig mewn cadair olwyn yn yr Eisteddfod eleni ac roedd y profiad yn artaith.

Gallwn sgwennu deg blogbost cyn llawn fynegi fy rhwystredigaeth am y ddiffyg darpariaeth Eisteddfodol ar gyfer pobl sy'n byw ag anabledd a'r anhawesterau cyfarfum yn Ngharedydd eleni.

Mae'r Eisteddfod yn defnyddio'r un esgus eleni am ddiffyg mynediad i bobl sydd yn byw ag anabledd ac a ddefnyddiwyd y llynedd a'r flwyddyn cynt; sef eu bod yn ymgynghori a'r "Disability Access Group" lleol.

Sawl aelod o DAG Caerdydd a ymwelodd â Maes Eisteddfod cyn eleni?

Heb syniad o be ydi Eisteddfod a oes modd i DAG Caerdydd gwybod unrhyw beth am anghenion Eisteddfodwyr sy'n byw gydag anabledd?

Hoffwn awgrymu yn garedig i'r Eisteddfod eu bod yn creu eu DAG eu hunnain o Eisteddfodwyr Pybyr

- megis Meri Davies sydd yn ymweld â phob Eisteddfod mewn cadair olwyn, neu un fel fi sydd yn gwthio cadair olwyn y musus 'cw trwy bob eisteddfod -

yn hytrach na dibynnu ar y grwpiau lleol sydd yn gwybod rhywfaint am anabledd, bid siŵr, ond sy'n gwybod ff**c oll am Eisteddfota i'r anabl!

Ac, ol nodyn, os ydy'r DAGs lleol mor dda - pam nad yw yr un ohonnynt wedi sicirhau lwp yn y pafiliwn hyd yn hyn?

2 comments:

  1. Dwi'n gwybod bod hyn ychydig yn 'off topic' ond tybed beth fyddai'r drefn petai rhywun mewn cadair olwyn yn ennill y Gadair neu un o'r brif gystadlaethau - sut y byddai darparu ar eu cyfer mewn seremonïau o'r fath tybed?

    ReplyDelete
  2. Wyt ti wedi dweud wrth y Steddfod? Mae'n bwysig eu bod nhw'n cael gwybod.

    ReplyDelete