01/08/2008

Costau a gwisg ysgol?

I bob rhiant mae'r wisg ysgol yn gost ychwanegol sy'n brathu ar ddiwedd un o gyfnodau drytaf y flwyddyn sef diwedd gwyliau'r haf. Mae gan rhai ohonom blant mor afresymol ag i benderfynu cael hwb prifiant dros wyliau'r Nadolig hefyd!

Newyddion da o lawenydd mawr, felly yw clywed bod Asda yn cynnig Gwisg ysgol am ddim ond pedair punt.

Gyda M&S, Tesco ac eraill yn cynnig gwisgoedd ysgol am brisiau rhad mae'n debyg mae'r wisg ysgol bydd ateb 2008 i Ryfel Ffa 1996.

Ond, yn anffodus bydd nifer o rieni yn colli allan, gan fod eu hysgolion yn gwneud elw allan o fynnu bod rhaid i blant gwisgo dillad sydd yn cynnwys logo'r ysgol.

Bydd crys chwys glas yn costio punt yn Asda, bydd crys o'r un ansawdd gyda logo'r ysgol yn costio £15 o'r ysgol neu o siop sydd yn noddi'r ysgol.

Pam na all ysgolion gwerthu bathodynnau i'w gwnïo, neu hyd yn oed eu pinio, ar wisg ysgol rad yn hytrach na mynnu bod rhieni yn cael eu gorfodi i dalu crocbris am ddilledyn sydd yn cynnwys brodwaith o'r bathodyn?

3 comments:

  1. Dw i ddim o blaid gwisgoedd ysgol, yn arbennig i blant cynradd, ond dw i hefyd ddim yn licio'r syniad o wisgoedd am £4 - unai mae nhw'n cael eu gwneud gan bobl (neu blant hyd yn oed) o dan amodau gwaith gwael, neu mae'r siop yn eu gwethu ar golled er mwyn dinistrio busnes siopau llai.

    Er mai monopoli siop fach (lle bod rhaid i riant brynnu siwmper ohono) yr un mor anheg a monopoli yr archfarchnadoedd.

    Byddai bathodynnau gelli'r eu pwytho ymalen yn rhoi dewis teg i'r siopwr dw i'n cytuno - ar efallai'n annog rhai rhieni i ddysgu gwnio!

    ReplyDelete
  2. Anonymous1:05 pm

    Dwi'n cofio Tesco yn gwerthu bara am 5 ceiniog....tua 10 mlynedd yn ol. Lladdwyd sawl fusnes teuluol lleol. Dwi ddim yn clywed fod Tesco yn dal i wneud hyn.

    Rwy'n siwr y bydd yr archfarchnadoedd yn falch o dy hysbyseb.

    ReplyDelete
  3. Anonymous1:42 pm

    Yr oedd 'Boppers Boutique' yn ddrud pan yr oeddwn i'n yr ysgol hefyd.

    Tydi enw'r lle ddim yn swnio fel bod nhw'n gwerthu pethe rhad.

    ReplyDelete