18/08/2008

Leanne Wood, Comiwnydd neu Genedlaetholwr?

Papur ymgyrchu swyddogol Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr yw The Weekly Worker. Mae fersiwn o'r papur ar gael ar line. Pob wythnos mae'r papur yn cynnwys colofn sydd yn ddiolch i gefnogwyr y Blaid sydd wedi cyfrannu yn ariannol i'r cyhoeddiad.

Wrth Gwglo am wybodaeth am Blaid Cymru cefais hyd i rifyn Mai 22ain 2008 o'r cyhoeddiad sydd yn cynnwys y diolch rhyfeddol:

Our fighting fund received help from an unexpected source this week - Plaid Cymru Welsh assembly member Leanne Wood donated a handy £25

Be yn y byd mae aelod etholedig o Blaid Cymru yn gwneud yn ariannu plaid arall?

Onid oes yna reolau gan Blaid Cymru sydd yn gwahardd aelodau rhag cefnogi pleidiau sydd yn sefyll etholiadau yn ei herbyn?

Rwyf wedi credu ers talwm bod yr adain chwith yn niweidio'r Blaid trwy osod Sosialaeth o flaen cenedlaetholdeb, yn wir dyma'r prif reswm paham nad ydwyf yn aelod o'r Blaid bellach. Ond cefais sioc o ddarllen bod y gefnogaeth yma mor eithafol bod un o brif ladmeryddion adain chwith Plaid Cymru yn mynd cyn belled ag i ariannu'r Blaid Gomiwnyddol.

Mae'n hen bryd i Leanne penderfynu lle mae ei theyrngarwch - i genedlaetholdeb Cymreig neu i Gomiwnyddiaeth Prydain Fawr.

3 comments:

  1. Yn anffodus, dwi'n meddwl ei bod eisoes yn hysbys nad cenedlaethol mo prif flaenoriaeth Leanne Wood - ac nid hi mo'r unig ferch Plaid Cymru yn y cynulliad y gellid dweud hnyny amdani.

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:18 pm

    Ydi cenedlaetholdeb yn ideoleg wleidyddol sydd yn cystadlu yn uniongyrchol a sosialaeth? Os wyt ti'n credu ei fod o, yna digon teg. Ac os felly, dwi'n dy gyhuddo di o roi dy ddaliadau ceidwadol o flaen dy ddaliadau cenedlaetholgar.

    Yn bersonol, dwi ddim yn credu bod cenedlaetholdeb yn ddigon cydlynol i sefyll ar ei draed fel ideoleg gwleidyddol arwahan. Cynghrair o adar brith ydi'r mudiad cenedlaethol, laic it or lymp it.

    Mae'n amlwg i mi mai casineb personol tuag at sosialaeth gan rhywyn sydd a thueddiadau adweithiol sydd y tu cefn i'r ymosodiad yma.

    ReplyDelete
  3. I ddechrau Rhys, rwyt wedi cam ddeall y cwestiwn yn y post. Y cwestiwn yw:

    A ydy rhoi nawdd ariannol i Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr yn gydnaws a bod yn aelod o Blaid Cymru?!

    O ran dy ymateb, mae'n debyg dy fod yn credu bod aelod o un Blaid wleidyddol gofrestredig yn rhoi £25 i blaid gofrestredig arall yn dderbyniol.

    Da di'r gair adweithiol.

    Hoff air sosialwyr llawn theori ond heb ronyn o synnwyr cyffredin.

    Gair gwneud negyddol!

    Nid ymateb i ddadl ffôl sosialaidd yw unrhyw farn, ond adwaith - gweithio yn erbyn!

    Gweithio yn erbyn be? Diawcs dim byd ond naïfrwydd sosialaeth!

    Rwyt yn hollol gywir yr wyf yn casáu sosialaeth, yr wyf yn casáu sosialaeth gan mae byrdwn sosialaeth yw dibyniaeth ar y wladwriaeth - y llywodraeth ganolog yn rheoli popeth.

    Yr unig wladwriaeth y mae pobl Cymru yn gallu dibynnu arno ar hyn o bryd yw gwladwriaeth Prydain Fawr, mae sosialaeth, gan hynny, yn wrthun i genedlaetholdeb Cymreig.

    Mae'n rhaid dewis rhwng Sosialaeth Brydeinig neu Genedlaetholdeb Rhyddfrydol Cymreig.

    Yr wyf wedi dewis y safle gorau dros les fy ngwlad - piti bod Plaid Cymru yn fyrhoedlog o wneud y dewis cywir hefyd!

    ReplyDelete