25/10/2008

Harri Potter a'r Athro Poti

Mae The Half Blood Welshman yn tynnu sylw at gyhoeddiad diweddaraf Archesgob y Ffwndamentalwyr Seciwlar, Yr Athro Richard Dawkins. Mae'r athro am wneud ymchwil, yn ôl y Daily Telegraph, ar yr effaith andwyol mae llyfrau megis rhai Harry Potter yn cael ar blant. Gan nad yw'r hanesion am ddewiniaeth a hudoliaeth a adroddir yn llyfrau Harry Potter yn ffeithiol gywir mae'r hurtyn yn credu eu bod yn gallu bod yn beryglus i ddatblygiad plant.

Pe bai agweddau anoddefgar Dawkins i unrhyw farn ond ei farn gyfyng ei hun ddim mor beryglus, bydda ei ddatganiad diweddar yn hollol chwerthinllyd. Nid yn unig yn chwerthinllyd ond yn rhagrithiol hefyd.

Mae'r gyfres Dr Who yr un mor anwyddonol ag ydy cyfres Harry Potter, os ydy ei wylio yn andwyol i blant mae'r sawl sydd yn actio yn y gyfres yn euog o greu niwed i blant. Pobl megis yr actores Lalla Ward a chwaraeodd rhan Roana, Arglwyddes Amser mewn sawl rifyn o'r gyfres beryglus anwyddonol. Enw arall Lalla Ward yw Yr Anrhydeddus Mrs Richard Dawkins.

1 comment:

  1. Dydy "wneud ymchwil" ddim yr un peth â "credu eu bod nhw'n beryglus". Dydy Dawkins ddim wedi darllen llyfrau Rowlings, fel mae'n dweud yn yr erthygl, ond mae'r erthygl ei hunan yn wneud popeth mae'n gallu (heb actiwali cam-ddyfynnu'r Athro) i roi'r argraff bod Dawkins wedi dweud eu bod nhw'n beryglus i blant.

    Dydy e ddim wedi dweud "religion is a form of child abuse" chwaith, fel mae'r Half Blood yn honni, ond yn cymryd un agwedd o fagu plant o fewn cymuned crefyddol ac yn dweud bod hyn yn abiwsif.

    Dw i'n cytuno bod Dawkins yn gallu swnio'n "shrill" weithiau - mae e'n cyfaddau hyn mewn erthygl yn y Guardian ddoe - ond dwyt ti ddim yn helpu dy ddadl trwy chwarae sïon Tsiena dros y blogosffer fel hyn.

    ReplyDelete