28/10/2008

Y Gwir am Dr Tudur

Mae'r cyfaill Rhys Llwyd wrthi'n sgwennu hagiograffi o'r Dr Tudur Jones. Oherwydd ei oedran, cafodd Rhys mo'r cyfle o gyfarfod a thestun ei ymchwil. Yn anffodus ac, yn anffodus iawn, mi gefais i'r profiad trist o ddod ar draws y ffieiddyn.

Mae Rhys yn disgrifio Dr Tudur fel Efengylwr - twt lol botas - Enwadwr Cul Annibynia oedd Tudur.

Trwy driciau dan din fe orfododd Tudur ar i Gordon MacDonald, un o fawrion Wesleaeth Cymru, i ymadael a'i enwad er mwyn ffurfio eglwys efengylaidd annibynnol yn Aberystwyth, eglwys a ymosodwyd arni yn rheolaidd gan Tudur wedyn gan mae hen wesla oedd y gweinidog!

Enwad Seisnig fu'r Wesleaid yn draddodiadol. I ddod yn weinidog Wesla rhaid oedd cael hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn Lloegr mewn colegau megis Hansworth, ym Myrmigham.

Fel Cymro o genedlaetholwr am ddyfod yn weinidog Wesla cefais fy nanfon i Brifysgol Bangor ar gyfer fy hyfforddiant. Prawf bod modd dysgu gweinidog Wesla trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, yn ôl yr enwad.

Barn Tudur oedd bod caniatáu addysg Gymraeg i Wesla ym Mangor yr un fath a chanatau i Undodwr cael addysg grefyddol yn Aber, rhywbeth nad oedd ef am ganiatau. Cefais gwybod gan Tudur o'r ddiwrnod cyntaf nad oedd modd imi lwyddo. Cefais yr un sicrwydd o fethiant gan y Parch John o Goleg y Bedyddwyr. Pan adroddais yr enwadaeth ffiaidd yma yn ôl i fy mentor yn yr Eglwys Fethodistaidd y Parch Owie Evans, roedd o'n methu credu bod ei gyfeillion a'i frodyr yn gallu bod mor dan din, ei ddyfarniad oedd mai'n rhaid fy mod wedi cam ddeall eu sylwadau...!

Mi gefais fy niarddel o Brifysgol Bangor am fod yn anymwybodol trwy ddiod cyn codi ar gyfer ambell i ddarlith, am syrthio drosodd mewn ffwlbri meddwol yn ystod darlithoedd a mynychais, am fethu canolbwyntio ac am fod yn drafferthus.

Wedi fy niarddel cefais fy nghofrestru fel nyrs o dan hyfforddiant yn Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Gwynedd. O fewn mis cefais fy nanfon i'r meddyg gan y tiwtoriaid am yr un symptomau a chofnodwyd yn y Brifysgol. Canfuwyd fy mod yn dioddef o glyw’r digwydd - Epilepsi. Cefais bob cymorth gan Ysgol Nyrsio Gwynedd i ddod i ben fy nghyfnod hyfforddiant, er gwaethaf fy anhwylustod. Cymorth nad oedd i'w dygymod yn adran Ysgol Duwinyddiaeth y Dr Tudur ym Mangor.

Mi gyfarfyddais a'r Dr Tudur ymhen y rhawg a son mae salwch, nid medd-dod oedd y broblem. Ei ymateb - Epilepsi - esgus Satan!

Coc oen, Rhys, nid Sant oedd Tudur!

2 comments:

  1. Anonymous8:25 pm

    Wel, wn i ddim lle mae dechrau. Yn gyntaf, fel wyt ti'n nodi, wnes i byth gyfarfod Dr. Tudur. I ddweud y gwir tair ar ddeg oeddwn ni pan gaeodd ei lygaid yn 1998. Oherwydd hynny ac hefyd yn enw gwrthrychedd academaidd fyddai hi ddim yn addas i mi wneud sylwadau am yr ymosodiad ar ei gymeriad. Ond os yw dy adroddiadau di'n gywir, yn enwedig felly y sylwad bychanus am dy salwch yna mae hyn yn frycheuyn go sylweddol ar gymeriad Dr. Tudur. Ond ni fydd hyn yn effeithio ar fy thesis oherwydd traethawd yn trafod ei ddiwinyddiaeth gyhoeddus dwi'n gwneud ac nid sgwennu cofiant neu fuchedd sant fel wyt ti'n ei awgrymu!

    Ond carwn ymateb i'r pwyntiau diwinyddol rwyt ti'n ei godi. Yn gyntaf y cwestiwn a yw'n deg cyfeirio at Dr. Tudur fel “efengylwr”? Term annelwig ydy “efengylaidd” bellach felly rhaid wrth ei ddiffinio ac os ydw i am gyfeirio at Dr. Tudur yn fy thesis fel rhywun oedd yn dal y safbwynt efengylaidd (dwi ddim wedi penderfynu un ffordd neu'r llall eto gyda llaw). Y diffiniad gorau dwi wedi dod ar draws yw theori quadrilateral David Bebbington. Noda Bebbington mae dyma'r pedwar pwyslais sy'n arfer eu dal i ddiffinio dyn neu fudiad/eglwys yn “efengylaidd” (maddeuer y Saesneg):

    1. biblicism, a particular regard for the Bible (e.g. all spiritual truth is to be found in its pages)
    2. crucicentrism, a focus on the atoning work of Christ on the cross
    3. conversionism, the belief that human beings need to be converted
    4. activism, the belief that the gospel needs to be expressed in effort

    Yng ngolau y diffiniad yna felly dwi'n meddwl y gellid dadlau fod Dr. Tudur yn “efengylaidd”. Dyma rai pwyntiau ychwanegol: roedd Dr. Tudur am gyfnod yn Lywydd ar y Gynghrair Efengylaidd. Cyhoeddodd lyfran bach yn enw'r Gynghrair Efengylaidd ar y testun 'Pwy yw'r Bobl Efengylaidd?' Roedd yr ddarlithydd achlysurol yng nghynadleddau'r Mudiad Efengylaidd a does dim gwadu fod yna edmygedd tuag ato o dŷ gweinidogion dy genhedlaeth di o'r Mudiad Efengylaidd – Hywel M. Davies, Wayne Hughes, Dafydd M. Job etc... Hefyd, oni Dr. Tudur ordeiniodd wyr efengylaidd fel Hywel M. Davies a hynny mewn eglwysi annibynnol efengylaidd? OND rwy'n derbyn dy bwynt mae gwas (caethwas gellid dadlau hyd yn oed) i Enwad Undeb yr Annibynwyr oedd Dr. Tudur. Roedd yn dal safbwyntiau di wyro “efengylaidd” ar un llaw ond yn cyd-weithio gyda gwyr rhyddfrydol o fewn ei enwad ar y naill. Fel un a fagwyd yn eglwys Gordon McDonald gyda llaw alla i ddim a deall yr anghysondeb yna. Ond mae Dr. Pope fy nhiwtor yn mynnu fod rhaid deall Annibyniaeth Eglwysig Dr. Tudur os am ddeall yr hyn sy'n ymddangos yn anghysondeb o'i ran ar yr olwg gyntaf... dwi'n gweithio ar geisio deall hynny ar hyn o bryd!

    Mae llond dwrn o recordiau gyda mi lle maen ddigon parchus tuag at y Wesleaid. Roedd ei Nain yn Wesla dwi'n meddwl ac mewn un darlith dwi wedi gwrando arno roedd yn llawn edmygedd o sel (zeal) Wesleaid ei deulu a hyd yn oed yn awgrymu fod dos ohono ynddo ef.

    Diddorol byddai clywed dy ymateb. Ond i orffen carwn nodi mod i'n gwerthfawrogi rhinweddau o waith Dr. Tudur yn sylweddol fel y gwyddi di tra yn cydnabod ar y naill law mae dyn ei gyfnod ydoedd ac fel pob dyn arall roedd yn siŵr o faglu ambell dro.... ond aw ni ddim i drafod y ddiwinyddiaeth tu ôl hynny rwan!

    ReplyDelete
  2. Anonymous11:10 pm

    Diddorol neilltuol, Hen Rech Flin. Mae'n amlwg fod dy brofiadau di wedi peri gofid iti, ac wedi dy frifo. Diolch am fod mor ddewr i rannu'r stori.

    ReplyDelete