10/11/2008

Rheilffordd drwy Gymru?

Rwy'n ddiolchgar i'r Cynghorydd Gwilym Euros am geisio gwella cyswllt rheilffordd Dyffryn Conwy. Dyma bwnc o ddiddordeb i drigolion Conwy yn ogystal â thrigolion Gwynedd!

O'r herwydd fy mod yn dioddef o glyw’r digwydd (epilepsi) rwy'n methu dal trwydded gyrru. Mae'r wraig yn gyrru ac, fel arfer, yr wyf yn ddibynnol ar ei thacsi hi i fynd a dŵad.

Yn ystod y dyddiau nesaf rwyf am fynychu cynhebrwng yn Nolgellau. Yr unig ffordd imi fynd yno a dychwelyd adre mewn diwrnod yw trwy ddefnyddio car, does dim modd gwneud y daith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os yw Mrs HRF yn mynd a fi i'r gwasanaeth ac yn aros i ddod a fi adref bydd rhaid i'r plant colli diwrnod o ysgol yn ddiangen. Nid ydwyf am weld fy mhlant yn colli Ysgol yn ddiangen.

Mae polisïau'r Cynulliad, gan bob plaid, i'w gweld fel rhai sydd am gysylltu "Gogledd" a "De". Gwych i'r rhai sydd am fynd o un pwynt yn y Gogledd i bwynt arall yn y de. Fy mhroblem i yw fy mod am fynd o Lansanffraid Glan Conwy i Ddolgellau. Bydd rhai am fynd o Harlech i Lanelwedd, eraill o Flaenau i Ferthyr, neu o'r Drenewydd i Lambed.

Nid y daith hir o'r Gogledd eithaf i'r De eithaf yw problem trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru, ond y daith fer. Sut mae modd teithio o Gorwen i Gorris ac yn ôl yn hwylus?

Mae'r Cynulliad wedi gwario miliynau o bunnoedd ar adeiladu ambell i gysylltiad rheilffordd yn y deheudir.

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn rhedeg hyd at Drawsfynydd ar gyfer trafnidiaeth niwclear, er ei fod yn stopio yn y Blaenau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Be am ddefnyddio'r cledrau i Draws a'u hagor am ddeng milltir arall i Ddolgellau?

Be am bum milltir arall wedyn, i gysylltu â rheilffordd Bermo - Machynlleth? Cynllun bydd yn agor llawer mwy o gymunedau Cymru i daith rheilffordd fewnol na fydd thrydaneiddio linc o'r gogledd eithaf i'r de eithaf trwy ganolbarth Lloegr!

4 comments:

  1. Nid oedd rheiffordd uniongyrchol erioed rhwng Dolgellau a Thrawsfynydd. Yr oedd rhaid i drenau fynd trwy'r Bala a Chapel Celyn. Wrth gwrs bod dyrysbwnc gydag ail-adeiladu'r rheilffordd hwn. Efallai dylen ni ffrwydro'r argae. ;-)

    ReplyDelete
  2. Beth am Fangor - Porthmadog ac Aberystwyth - Caerfyrddin? Hoffwn i fod wedi mynd ar y trên yn hytrach na bws.

    ReplyDelete
  3. Diddorol iawn - ysgrifennais am y posibilrwydd o rheilffordd newydd dros Gymru yn yr haf

    http://dylanje.blogspot.com/2008/06/north-south-rail-links-new-approach_24.html

    ReplyDelete
  4. Anonymous12:14 pm

    Dwi wedi mwynhau darllen eich blog, a llongyfarchiadau gyda'i lwyddiant. Ond, dwi yn sylwi eich bod chi yn ffocysu ar faterion sydd yn ymwneud â Chymru.

    Baswn i'n ddiolchgar os buasech chi'n tynnu sylw aelodau a chyfranwyr at ein prosiect newydd. Mae'n gais di-elw i geisio creu fforwm ar gyfer Cymru gyfan lle mae barn pawb ynglŷn ag unrhyw beth Cymraeg neu sydd yn digwydd yng Nghymru yn gyfartal, lle gallent trafod heb sylwadau sarhaus a bygythiol. Nid ydym yn ffafrio unrhyw safbwynt gwleidyddol na'n rhoi lan gyda unrhyw anghwrteisi ( hyn yn beth cyffredin yn anffodus y dyddiau yma)

    Rydym yn croesawu pobl o bedwar ban byd, does dim gwahaniaeth ar eu ethnigrwydd, safbwyntiau crefyddol, crefydd neu rhyw. Os mae rhywbeth dechau ganddynt i ddweud, a'i fynegi wrth ystyried a pharchu eraill bydd wastad croeso ar Walesfforwm iddynt.

    Mae ein staff i gyd yn gwirfoddolwyr, a bydd y cymedrolwyr yn cadw safonau uchel wrth gymedroli'r safle heb unrhyw beias gwleidyddol sail eu penderfyniadau.

    Os rydych yn credu bydd hyn o unrhyw ddiddordeb i eich aelodau, a wnewch chi gyfeirio nhw at

    WalesFforwm.com . Bydd Croeso Cynnes iddynt.

    ReplyDelete