29/04/2009

Mae Mamau a Milwyr angen Ddeddf Iaith

Dydd Llun cafwyd trafodaeth ym Mhwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig San Steffan parthed yr LCO iaith.

Ymysg y tystion o flaen y pwyllgor roedd Wayne David AS, gweinidog yn Swyddfa Cymru ac un o gymwynaswyr mwyaf yr iaith (yn ôl ei dystiolaeth ei hun). Mae Mr David yn lled gefnogol i roi hawliau ddeddfu ar yr iaith i'r Cynulliad ond mae o'n gweld peryglon!

Un o'r peryglon y mae y gweinidog yn poeni yn ei gylch yw y bydd yr LCO fel y mae'n sefyll yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad deddfu parthed sefydliadau sydd yn bodoli o dan Siarter Brenhinol, megis y Lleng Prydeinig ac Undeb y Mamau.

Rhaid cydnabod nad ydwyf yn gwybod llawer am Undeb y Mamau. Tybiwn ei fod yn sefydliad sydd yn cynnig cymorth a chymdeithasu i rieni benywaidd. A oes yna unrhyw beth pwysicach na Mam yn trosglwyddo'r iaith i'w plentyn i amddiffyn yr iaith? Os nad oes gan Undeb y Mamau polisi iaith gynhwysfawr wirfoddol yn barod, mae angen gorfodi un arni trwy ddeddf.

Mae gan y Lleng Prydeinig cangen ym mron pob un dref yng Nghymru. Mae'n gwneud gwaith cyhoeddus megis trefnu gwasanaethau cadoediad. Mae'n ffynhonnell cymorth a gwybodaeth i'r miloedd o Gymry Cymraeg sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog dros y degawdau. Mae gan y Lleng clybiau cymdeithasol poblogaidd mewn cannoedd o drefi Cymreig. Mae awgrym Mr David bod corff mor amlwg yn cael ei hepgor o ddyletswyddau i barchu'r Gymraeg yn fy ffieiddio.

Mae'r ffaith nad oes gan sefydliad mor amlwg â'r Lleng Prydeinig polisi iaith yn brawf diamheuaeth o'r angen am ddeddfwriaeth gynhwysfawr yn hytrach nag esgus am gulhau'r LCO iaith, Mr David annwyl!

No comments:

Post a Comment