22/05/2009

Golwg a Byd y Blogiau

Ers rhifyn yr wythnos diwethaf mae fersiwn lladd coed Golwg wedi cynnwys colofn o'r enw Byd y Blogiau. Y rheswm pam bod Golwg yn cynnwys y golofn newydd, yn ôl yr is pennawd, yw oherwydd bod Y Blogiau'n Ddylanwadol.

Mae dylanwad y blogiau yn fater o farn, hwyrach, ond y farn sy'n cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn yw bod y blogiau'n ddylanwadol. Mor ddylanwadol bod angen i Golwg cyhoeddi yr hyn maen nhw'n ei ddweud.

Rwy'n ddiolchgar i awdur y golofn am roi sylw i ddylanwad blog yr Hen Rech Flin yr wythnos diwethaf (er mae at bost ar Miserable Old Fart roedd yr erthygl yn cyfeirio).

Nodwyd post gan Cynical Welshman yr wythnos diwethaf hefyd, er mae post gan y Cynical Dragon ydoedd. Yn y rhifyn cyfredol ceir cyfeiriad at bost gan Welsh Mam, sy'n wir gyfeirio at bost gan Valleys Mam.

Nid hollti blew yw nodi camgymeriadau y golofn. Nid camgymeriadau dibwys mohonynt.

Os ydy Golwg yn credu bod y blogiau'n ddylanwadol, ac yn teimlo bod angen i'w darllenwyr cael gwybod yr hyn y maent yn eu dweud, mae'n rhaid wrth gywirdeb i alluogi darllenwyr y cylchgrawn cael gafael ar y pyst gwreiddiol. Does dim modd dod o hyd i bost Mam trwy roi Welsh Mam i mewn i beiriant chwilio.

Peth hawdd ar y we yw rhoi ddolen i wefan arall. Does dim modd gwneud hynny mewn print. Ond bydda nodyn bach ar waelod y golofn yn nodi cyfeiriadau'r blogiau a gyfeiriwyd atynt yn gymorth.

e.e. Cyfeiriwyd at y blogiau yma yn y golofn:
http://miserableoldfart.blogspot.com
http://henrechflin.blogspot.com/
http://www.cynicaldragon.com/
http://merchmerthyr.blogspot.com/

1 comment:

  1. Dw i wedi sylwi ar y camgymeriadau yma. Roedd erthygl (diddorol iawn digwydd bod) am gyflwynydd radio ochrau Caernarfon oedd hefyd yn creu eitemau newyddion ar fideo drwy holi pobl ar y stryd am wahanol bynciau a'u gosod ar YouTube. Soniodd yr erthygl bod y fideos a 'U-Tube' (sic), ond wnaethon nhw ddim cynnwys ei URL (h.y. cyfeiriad y wefan) fel y gallai pobl wedyn fynd i edrych arnynt.

    ReplyDelete