24/07/2009

Trydanol!

Ar y cyfan mae’r newyddion bod rheilffordd Abertawe i Lundain am gael ei drydaneiddio wedi derbyn croeso gwresog.

Yn ôl adroddiadau newyddion y BBC mae’r fenter yn fuddsoddiad o biliwn o bunnoedd yng ngwasanaethau rheilffordd Cymru. Twt lol botas. Bydd y rhan helaethaf o’r buddsoddiad yn cael ei wario yn Lloegr. Dim ond tua chwarter o’r daith drydanol newydd bydd yng Nghymru ei hun. Ac fel mae Cadeirydd Plaid Cymru yn nodi bydd y fenter ddim yn drydaneiddio y cyfan o reilffordd y deheubarth yng Nghymru - i wneud hynny byddai’n rhaid ei ehangu i Gaerfyrddin.

Pe bai'r trydaneiddio yn cael ei ymestyn yr holl ffordd ar draws y de, yna byddai modd dadlau bod y gwasanaeth yn cynnig rhywfaint o wasanaeth i Gymru. Mae’r gwasanaeth a gyhoeddwyd heddiw yn cynnig dim i Gymru, mae’n wasanaeth sydd o fudd i Lundain a Lloegr yn benaf.

Mae’r Cynghorydd Gwilym Euros yn tynnu sylw at sylwadau George Monbiot a wnaed yn y Guardian ar Dachwedd 30 llynedd:

The infrastructure of a country is a guide to the purpose of its development. If the main roads and railways form a network, linking the regions and the settlements within the regions, they are likely to have been developed to enhance internal commerce and mobility. If they resemble a series of drainage basins, flowing towards the ports and borders, they are likely to have been built to empty the nation of its wealth


Mae’r cyhoeddiad heddiw yn enghraifft o honiad Monbiot o ddreinio gwerth a thalent o Gymru. Yn enghraifft o wneud Caerdydd ac Abertawe yn fwy fwy dibynnol ar Lundain yn hytrach na’u gwneud yn rhannau hanfodol o’r Gymru ehangach.

Mae blogwyr y Blaid, bron yn unsain, yn clodfori'r cyhoeddiad fel llwyddiant i’r Blaid ac yn llwyddiant i friff Ieuan Wyn fel gweinidog trafnidiaeth y Cynulliad. Er enghraifft mae Adam Price yn dweud:
The announcement itself is the culmination of more than thirty years of work on Plaid’s part (it became party policy in 1977), dating back to a time even before I joined the party.

Mae Welsh Ramblings yn gofyn:
Question for the One Wales sceptics - would this have happened if Ieuan Wyn Jones was not Transport Minister?

Hwyrach ei fod yn llwyddiant i Blaid Cymru ac i Ieuan. Ond a ydy‘n llwyddiant i’r achos cenedlaethol?

Oni fyddai buddsoddiad llai i ddatblygu rheilffyrdd mewnol Cymru yn gwneud llawer mwy i achos Cenedlaetholdeb Cymru na gwastraffu biliwn ar glymu Cymru i Brifddinas Britania?

12 comments:

  1. Alwyn

    Dwi'n credu fod e'n sicr yn lwyddiant i lywodraeth Cymru - y cwestiwn mawr yw a fydd yn cael ei ddilyn gyda trydaneiddio rheilffyrdd y Cymmoedd - rheilffordd fyddai'n elwa yn sylweddol iawn o'r fath buddsoddiad oherwydd amlder y gorsafoedd.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn9:49 am

    Alwyn,

    I oroesi fel cenedl annibynol, rhaid i Gymru gynnal masnach gyda'i chymdogion. Gan gynnwys Lloegr. Rhaid felly sicrhau cyswllt da yna. Dydi hynny ddim yn golygu na ddylid gwario o fewn Cymru. Ond a wyt ti wir yn disgwyl i Lywodraeth San Steffan wneud hynny?

    ReplyDelete
  3. rhydian fôn10:55 pm

    Alwyn - yn bellach i dy ddadl ar flog Gwilym, mae'n wir bod gen ti bwynt dilys yma. Ond mae dy resymeg di yn un o weld Cymru fel dioddefwr yn unig. Roedd Llundain yn ganolfan economaidd ymhell cyn i Eingl-Sacson lanio ar arfordir Sir Gaint. Mae Manceinion a Caer wedi bod yno ers y Rhufeiniad. Oedd, fe oedd undeb y Deyrnas yn ffactor yn nhrefn Cymru, ond mwy fyth oedd y ffaith fod y canolfanau economaidd yn rhedeg gorllewin-dwyrain. Y rheswm arall na fu ffordd De-Gogledd oedd fod y Eryri a'r Bannau Brycheiniog yn y ffordd a nid oedd yn werth cysylltu'r rhanbarthau gan fod gorllewin-dwyrain yn dal mwy o fudd economaidd.

    Nid oes unrhyw ddadl economaidd am y cysylltiad. Beth fyddai sail masnach mewnol Cymru? Mae'r cwestiwn ei hun yn hurt. Byddai'n costio biliynau i greu rhwydwaith sydd yn cysylltu'r De a'r Gogledd. Byddai defnydd llawer gwell i'r arian drwy adfywio cymunedau.

    A fyddai cysylltiad De-Gogledd o fudd i uno'r genedl? Efallai, a dyna pam nad wyf yn ei wrthod - er y gallaf feddwl am ffyrdd gwell a llai costus o uno'r genedl. Yr unig beth dwi'n ei wrthod yw dadl Gwil y byddai budd economaidd o'r linc. Nid wyf yn chwarddi ar genedlaetholdeb, ond mynegi ffeithiau. Os wyt ti rhy dwp i weld hynny, dy broblem di ydyw.

    Mae pob economi yn 'extractive' i rhyw raddau - mae'r budd yn cael i dynnu i'r Ganolfan mwy. Gyda linc De-Gogledd byddai'r budd yn cael ei dynnu o'r Gogledd tua Caerdydd. Mae argraff fod coridor M4 wedi cael ei ffafrio gan y Cynulliad ers 1999 - argraff cywir. A fydd pobl Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn yn teimlo'n agosach i'r De pan yn gweld Caerdydd ac Abertawe yn tyfu ar eu traul nhw. Fel dwi'n dweud, dwi ddim yn erbyn cyswllt De-Gogledd, ond mae dadlau amdano fel prosiect economaidd yn chwerthinllyd. Dwi ddim yn argyhoeddedig ei fod yn declyn da iawn i adeladu cenedl chwaith, ond rwyf yn agored i'r syniad os oes gen ti ddadl i'r gwrthwyneb.

    ReplyDelete
  4. Os nad oes dadl am economi mewnol Cymreig, os bydd rhaid i Gymru barhau byth bythoedd yn rhan o “orllewin Lloegr” a oes bwrpas i genedlaetholdeb?

    Yn ôl dy ddadl di waeth inni dderbyn ein bod yn rhan o’r DU (os nad Lloegr) a rhoi’r gorau i bob dadl dros unoliaeth Cymru fel gwlad ar wahân!

    Lle mae cenedlaetholdeb dy ddadl?

    ReplyDelete
  5. Rhydian, dyma’r bedwaredd neu’r bumed tro iti ymateb i fy marn gyda dy hoff frawddeg “Os wyt ti rhy dwp i weld hynny, dy broblem di ydyw.”.

    Ar wahân i’r ffaith bod sarhau rhywun sydd â barn amgen i dy farn di yn arwydd o golli’r ddadl, mae dy honiad yn un ffeithiol anghywir.

    Pwrpas dadl wleidyddol yw ennill cefnogwyr i dy achos d!

    Os ydwyf yn rhy dwp i ddeall dy ddal, a gan hynny yr wyt yn methu a’m mherswadio i gefnogi dy achos, nid fy mhroblem i fohono o gwbl! Dy broblem DI ydyw, gan dy fod yn methu cynllunio dadl bydd am ddenu cefnogaeth twpsyn fel fi i’r achos!!!

    Mae dy sylwadau yn rhai byddwn yn disgwyl eu gweld ar flogiau David Jones AS neu’r Stonemason !

    Os nad oes modd i Gymru cael undeb economaidd, fasnachol, cymdeithasol na diwylliannol;

    Os bydd raid i Ogledd Cymru dibynnu ar Lerpwl, y Canolbarth ar Firmingham a’r Deheubarth ar Fryste a Llundain am fyth bythoedd does yna ddim dadl genedlaethol!

    Mae dy ddadl yn ddweud, yn blwmp ac yn blaen, nad oes modd i Gymru cael hunain reolaeth gan ei fod yn wlad ar chwâl sydda(a bydd) yn ddibynnol ar wahanol barthau o Loegr am fyth bythoedd - yr unig obaith i lwyddiant Cymru yw parhad yr Undeb. Os wyt yn ceisio gwerthu'r neges yna mewn gwisg genedlaetholdeb mae gen ti llawer, llawer, mwy o broblemau na sydd gennyf i!

    ReplyDelete
  6. rhydian fôn9:49 am

    Alwyn, mae fy nadl i yn gywir. Does gen i ddim angen ennill dy gefnogaeth di o bawb er mwyn fy argyhoeddi fy mod yn gywir.

    Ffaith economaidd ydyw, a rhaid i genedlaetholwyr weithio o gwmpas y ffeithiau er mwyn adeiladu Cymru annibynol, nid anwybyddu'r ffeithiau amlwg oherwyd rhamant pur.

    Mynegi'r ffeithiau ydw i - nid ceisio dy ennill i fy achos.

    ReplyDelete
  7. Dydy dy ddal ddim yn gywir, mae'n hurt o anghywir. Pwrpas gwleidyddiaeth economaidd yw newid y status quo, dy ddadl di yw mai fel'na mae hi ac fel na fydd hi am fyth bythoedd Amen, ac mae unrhyw un sydd am newid pethau yn ffŵl gwirion.

    Os nad yw Plaid Cymru am weld newid er gwell i Gymru trwy gryfhau ei heconomi a thrwy wellau ei chysylltiadau mewnol gwaeth iddi roi'r ffidl yn y to, mae'r pleidiau eraill yn ddigon bodlon sicrhau bod pethau yn aros yr un fath fel yr wyt ti'n dymuno!

    ReplyDelete
  8. rhydian fôn11:06 pm

    Alwyn: Yn union, mae gwleidyddiaeth yno i newid y status quo. A sut mae gwneud hyn? Trwy argyhoeddi mwyafrif i gefnogi newid. A oes galw hynod am gyswllt De-Gogledd? A fydd pobl yn hapus i weld rhan mawr o gyllideb y Cynulliad yn cael ei wario ar gyswllt trafnidiaeth pan nad oes angen economaidd amdano?

    Hefyd, ni all gwleidydda ein symud drws nesa' i Ffrainc. Lloegr fydd ein marchnad mwyaf am y dyfodol gweladwy. Does dim ffordd o newid hyn. Mae'r ffaith yma yn creu goblygiadau economaidd na ellir eu anwybyddu, faint bynnag yr wyt ti eisiau gwneud hynny.

    ReplyDelete
  9. Rhydian bach, rwyt yn amlwg yn methu gweld tu hwnt i dy flincars pleidiol!

    Mae BILIWN o bunnoedd wedi eu clustnodi i wella cysylltiadau'r Deheubarth a Llundain - mae’r Blaid yn ceisio’r clod am sicrhau'r fath wariant.

    Os oes gan y Blaid y fath ddylanwad, paham o paham na ddefnyddiwyd y fath dylanwad i sicrhau biliwn i wella cysylltiadau mewnol Cymru?

    Y gwir yw, wrth gwrs, nad oedd gan Plaid Cymru Ff**- oll i wneud a’r penderfyniad, ac mae troelli dibwys syn’ niweidio’r angen am gysylltiadau mewnol Cymreig yw’r holl lol botas.

    ReplyDelete
  10. rhydian fôn11:09 am

    Alwyn, biliwn yn gyfangwbl - tua chwarter y lein sydd yng Nghymru.

    Mae'r Blaid wedi ymgyrchu am hyn fel buddsoddiad yn y De ers degawdau, felly pam na ddylem ddathlu?

    Dwi yn nodi nad wyt yn ymateb i fy nadleuon uchod.

    ReplyDelete
  11. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  12. rhydian fôn11:28 am

    I ddod yn ol ar dy sylw am "niweidio'r angen am gysylltiadau mewnol Cymreig", sut?

    Sut mae sicrhau fod cysylltiadau da i'n marchnad mwyaf yn niweidio'r angen am gysylltiadau mewnol? Byddai linc gwell i'r Iwerddon yn dda hefyd - fyddai hynny hefyd yn niweidio'r angen, neu linc awyr o Ynys Môn i Gaeredin? I fod yn wlad llwyddianus, mae angen cysylltiadau da yn fewnol ac yn allanol.

    ReplyDelete