18/08/2009

Llais Aberconwy

Gydag o leiaf pump o bleidiau yn gweld gobaith ennill neu wneud marc ar gyfer ymgyrchoedd y dyfodol yn yr etholaeth, mae Aberconwy yn cael ei drin fel isetholiad parhaus ar hyn o bryd. Yr wyf wedi cael mwy o ohebiaeth gan y pleidiau yn ystod y ddeufis diwethaf na chefais trwy gydol yr ugain mlynedd arall yr wyf wedi byw yn y cyffiniau.

Y daflen ddiweddaraf i'w glanio ar y mat yw un gan Blaid Cymru. Teitl y daflen yw Llais Aberconwy. Dewis diddorol. Mae etholaeth Aberconwy yn ffinio ac yn rhannu papurau lleol efo ddwy etholaeth Gwynedd. Mae gan Wynedd, wrth gwrs, Llais gwahanol, sydd wedi niweidio'r Blaid! Fel y ditectif Sherlock Holmes, nid ydwyf yn credu mewn cyd digwyddiadau! Ymddengys bod Plaid Cymru Aberconwy am sicrhau nad yw clwyf Gwynedd yn effeithio ar ei obeithion yma trwy ddwyn mantell y gwehilion o dros y ffin.

Camgymeriad yn fy marn i. Mae'n ymddangos yn dric tebyg i un Llafur cyn etholiadau cyntaf y Cynulliad o alw ei hun yn wir blaid Cymru. Drwg ymgais Llafur oedd ei fod yn hybu yn hytrach na ddilorni Plaid Cymru, a'r canlyniad oedd y canlyniadau gorau erioed i Blaid Cymru. Y neges sy'n cael ei gyfleu trwy daflen Phil Edwards yw bod angen Llais ar ardal. Ond, os oes angen Phil fel Llais Aberconwy, onid oes angen Gwilym a'i griw fel Llais Gynedd hefyd?

Cam gwag, mae arnaf ofn, Phil.

4 comments:

  1. Dwn i ddim am hynny Alwyn. Y gwir yw mai brandio Llais ... , ... Voice sy' di bod ar y rhan helaeth o bamffledi'r Blaid rhwng etholiadau ers 2001. Rhyw 20 o leisiau Grangetown wedi eu dosbarthu yn yr un cyfnod.

    ReplyDelete
  2. Cytuno efo Penderyn. Y gwir ydi hefyd dydi'r hyn sy'n digwydd ym Meirionnydd ddim wirioneddol yn berthnasol i fawr unman arall chwaith, felly dydi hyd yn oed tynnu sylw ar hyn sy'n digwydd yno ddim am effeithio ar bleidlais Plaid Cymru yn Aberconwy.

    ReplyDelete
  3. Mae Penderyn yn iawn. Ers blynyddoedd bellach, mae Plaid Cymru yn ganolog wedi bod yn annog canghennau i gynhyrchu taflen "Llais .....". Sydd yn dipyn o boen i ni yn Nyffryn Ogwen, gan mae Llais Ogwen ydi enw'r papur bro.

    ReplyDelete
  4. Rwy'n derbyn bod Llais Grangetown yn ddibwys parthed yr achos yng Ngwynedd, mae Llais Aberconwy yn agosach i'r achos!

    Mae'r hyn yr ydych chi'ch tir yn awgrymu yw y bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu yn Arfon efo daflen Llais Arfon ac yn Nwyfor efo Llais Dwyfor ac ym Meirion efo Llais Meirion, dych chi ddim yn credu bod hynny am dynnu gwynt o hwyliau'r Blaid trwy dynnu sylw at faner y gwrthwynebwyr?

    O dderbyn bod "Llais" wedi bod yn slogan i'r Blaid ers 2001, onid yw amgylchiadau gwleidyddol wedi newid i'r graddau bod angen newid y strategaeth, yn arbennig felly, yng ngogledd orllewin Cymru?

    ReplyDelete