12/08/2009

Mur Fy Mebyd

Dyma ail ran fy ymateb i sylwadau Cai ac eraill parthed Cenedlaetholdeb a phlwyfoldeb:

Mi gefais fy ngeni yn Ysbyty Mamolaeth y Bermo, ysbyty a chafodd ei greu gan gyngor tref y Bermo cyn dyddiau'r GIG. Gan nad oedd modd i bobl y Bermo cyfiawnhau ysbyty o'r fath i'w drigolion yn unig, roedd y cyngor yn cydweithredu a chynghorau plwyf eraill i gynnal y sefydliad. Fel cymwynas ffeirio sefydlodd Cyngor tref Dolgellau ysbyty cyffredinol bychan yn Nolgellau a oedd yn derbyn yr un cydweithrediad traws plwyfol: y Dolgelley and Barmouth General District Hospital. Roedd ysbyty Dolgellau yn un "go iawn" nid ysbyty bwthyn, roedd yn cynnwys theatr llawdriniaeth a chlinigau ar gyfer pob cyflwr.

O dan drefn ganolog y GIG caewyd ysbyty'r Bermo ac is raddiwyd ysbyty Dolgellau i ddim ond lle i roi TLC i'r henoed. Yn wir cyn dyfod tro ar fyd a mynd yn ôl i'r drefn o enedigaethau cartref prin oedd y babanod a chafodd eu geni ym Meirionnydd; roedd mamau Meirion yn esgor yn Wrecsam, Bangor ac Aberystwyth.

Cefais fy magu mewn tŷ cyngor yn Nolgellau. Tŷ cyngor a adeiladwyd gan Gyngor Trefol Dolgellau ac a reolwyd gan gyngor Dolgellau hyd adrefnu llywodraeth leol 1974.

Cefais fy addysg gychwynnol mewn ysgol a sefydlwyd fel ysgol bwrdd. Roedd y bwrdd yn cael ei hethol gan drigolion y plwy ac yn codi trethiant plwyfol ar gyfer cynnal yr ysgol.

Er mae am gyfnod prin ar y diawl (llai na chwe mis) y parhaodd ei hannibyniaeth rhag Cwnstablari Meirion, adeiladwyd swyddfa heddlu Dolgellau a chyflogwyd heddweision cyntaf y dref gan y gymuned leol. Trwy fodolaeth y Cader Idris Volunteers roedd hyd yn oed Y FYDDIN yn cael ei drefnu yn lleol!

O sefydlu'r Cynghorau Sir ym 1888 (ymateb i alwad am ddatganoli), trwy adrefnu'r siroedd ym 1974 a'u hail adrefnu ym 1996 a thrwy greu'r Cynulliad ym 1999. Y mae grymoedd y cyngor plwyf wedi eu lleihau a'u lleihau fel nad ydynt, bellach, ond yn gyfrifol am lwybrau cyhoeddus a chachu ci!

I ddweud y gwir roedd gan Cyngor Plwy Llanddinod fwy o nerth canrif a hanner yn ôl na sydd gan Y Cynulliad Genedlaethol heddiw!

Mae yna achos dros droi'r cloc yn ôl a rhoi fwy o rym i'r cynghorau plwyf. Nid ydwyf am awgrymu rhoi popeth yn ôl - roedd nawdd cymdeithasol yn achos lleol trwy'r wyrcws ar un adeg wedi'r cwbl! Ond paham na all cadw ysgol leol dod yn ddyletswydd leol eto, yn hytrach na ddyletswydd Sirol neu ddyletswydd genedlaethol?

Os ydy pobl Bontddu am gadw eu hysgol , iawn gad iddynt dalu, trwy dreth blwyfol, y swm uwchben y cyfartaledd i'w gadw ar agor. Os yw'r gost yn rhy uchel i ganiatáu i hynny digwydd gad i fwrdd yr ysgol penderfynu uno efo'r Bermo, y Ganllwyd, Llanelltud, Dolgellau neu Lesotho er mwyn cyfiawnhau cadw presenoldeb ysgol yn y Llan. Gad i bobl Bontddu, yn hytrach na swyddogion Caernarfon, penderfynu nad yw cadw ysgol y llan yn syniad cynaliadwy!

I fynd yn ôl i'r syniad o Lais y Llannau,; a oes modd creu mudiad cenedlaethol boed Cymreig neu Brydeinig sy'n creu achos gwleidyddol ar sail y ddadl o roi grym yn ôl i'r bobl yn eu cymunedau?

Oes! Mae'n debyg !

Y cwestiwn mawr yw pwy sydd am redeg efo'r batwn? Mae'n syniad ceidwadol, mae'n syniad gall Llais Gwynedd a Llais y Bobl arwyddo lan iddi.

I mi mae'n adlewyrchiad o wleidyddiaeth Milltir Sgwâr DJ neu Mur Fy Mebyd Waldo - agwedd mae'r Blaid wedi colli gafael arno trwy arddel sosialaeth ganolog ysywaeth!

5 comments:

  1. Angen ennill y tir yn ol oddiwrth y sosialwyr canolog. Dwi hefo chdi gant y gant ar syniadaeth, y broblem fydd gen ti hefo rhoi mwy o bwerau i gynghorau cymuned ydy 'postcode lottery' lle mae rhai rwan yn codi anferth o precept fel Wrecsam; Coedpoeth £85, Acton tua £6.
    Ond dwi yn hoffi'r syniad o gymunedau ariannu eu hysgolion lleol ei hunain, gawn ni weld wedyn pwy sydd a gwir ddiddordeb a pwy sydd yn cadw swn.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn10:41 am

    Alwyn: Does gen i ddim dadl gyda dy syniadau. Os ydi pobl eisiau eu ysgol pentref i aros ar agor, nhw ddylai dalu trwy dreth plwyfol yn hytrach na bod ysgolion mwy yn dderbyn llai adnoddau y pen gan fod ysgolion bach yn sugno'r arian.

    Ond, dydi'r math syniad ddim am ennill cefnogaeth yn San Steffan, felly ni fydd yn digwydd yn fuan.

    Gyda llaw, mae'r Blaid yn arddel sosialaeth ddatganoledig, nid sosialaeth ganolog.

    ReplyDelete
  3. Mae Sosialaeth ddatganoledig yn ocsimoron - yn bolisi o hurtrwydd celwyddog.

    Hanfod sosialaeth yw canoli er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yr un fath.

    Os wyt yn cynnig datganoli i ranbarth ar y sail ei fod yn defnyddio ei rymoedd datganoledig mewn ffordd sosialaidd yn unig, dydy o ddim yn datganoli, mae'n rheoli canolog! - Mi gei di'r rhyddid i wneud yr hyn yr wyf yn ei orchymyn yw hanfod cysyniad sosialaeth ddatganoledig

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:03 pm

    Ella bod yna 'milage' i'r syniad gwreiddiol o godi treth ychwanegol - dim ots gen i dalu mwy i gadw ysgol y pentref yma.
    Ond, cyn i mi dderbyn y bil hoffwn dynnu'r canlynol o dreth y cyngor:
    Cost llyfrgell
    Glanhau lonydd
    Clirio gwteri
    Tarmacio palmentydd
    Parciau chwarae
    Golau stryd
    Plismona
    Orielau
    Sinemau
    Grantiau busnes
    Warden parcio
    Warden baw ci
    Warden sbwriel
    Warden Cwn a phob warden arall
    Toiledau cyhoeddus
    Costau teithio i ganolfan hamdden, canolfan ailgylchu a phost.
    a chanran mawr o arian gwasanaethau cymdeithasol.

    Dwi'n meddwl y byddai hynna'n weddol deg!

    Drwy ychwanegu'r byrdwn uchod i drethdalwyr y trefi yn lle sybsideiddio addysg y pentrefi a vice versa.
    Beryg iawn y byddai pawb yn ol i ble mae nhw nawr beth bynnag!

    ReplyDelete
  5. Anonymous9:06 pm

    "Hanfod sosialaeth yw canoli er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yr un fath."

    Felly pa un ydi'r gorau?
    Gwario yr un faint y pen i rannu'r gost yn deg
    neu
    Rhoi'r un gwasanaeth i bawb, sef rhannu'r gwasaneathau yn deg

    ReplyDelete