16/09/2009

Cysur i Cai.

Mae Cai druan yn poeni am ei safle yn y blogosffer mawr. Ar hyn o bryd ef yw'r blogiwr gwleidyddol Cymraeg fwyaf poblogaidd yn y Byd i gyd a'r trydydd yng Nghymru fach ddwyieithog. Mae o'n poeni bod Simon am ei guro'r flwyddyn nesaf i'r ail safle o ran blogwyr mwyaf poblogaidd Cangen Caernarfon o Blaid Cymru.

Cafodd y rhestrau lleol eu tynnu allan o restr Prydeinig cynhwysfawr. Mae Guerilla Welsh Fare prif blogiwr Cymru ym mhell ar y blaen yn y rhestr Prydeinig ar rif 36. Mae Blog Menai yn rhif 53 o gymharu a rhif 251 salw Simon. Ond Mae'r ail yn y rhestr Gymreig (blog Saesneg fi) yn rhif 50 sydd yn awgrymu bod fy mwyafrif i dros Cai cyn deneued a mwyafrif Gwynoro dros Gwynfor yn Chwefror '74!

Rhif 146 yw fy mlog Cymraeg. Erbyn ertholiadau blogawl 2010 byddwyf wedi agor cannoedd o gyfrifon e-bost i sicrhau mae fy mlogiau i bydd y gydradd gyntaf trwy'r bydysawd i gyd.

Mae hynt a helynt y blogiau Cymreig eraill i'w gweld yma 1-100; 101 i 200, 201 i 300.

5 comments:

  1. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  2. A yw'r sylw uchod yn addas i'w gyhoeddi, HRF? Onid oes gennyt ti, fel yr un sy'n goruwchwylio'r blog yma, gyfrifoldeb i dynnu unrhyw sylwadau a allai fod yn enllibus? Fe fyddwn yn ystyried tynnu'r sylw di-enw uchod, petai wedi ymddangos ar fy mlog i.

    ReplyDelete
  3. Diolch Dyfrig - 'dwi'n siwr nad ydi HRF wedi gadael y neges yna'n fwriadol - mae'n tueddu i ymweld a'i gyfrifiadur yng nghanol y nos a dydi o heb ei gweld hi eto.

    'Dydw i ddim yn poeni'n arbennig, a dydw i ddim yn chwilio am gydymdeimlad chwaith - 'dwi'n cael y math yma o beth wedi ei adael ar fy mlog yn rheolaidd pan 'dwi'n cynhyrchu blogiad sy'n ypsetio un grwp gwleidyddol penodol. 'Dwi hefyd yn cael bygythiadau trwy e bost, ac mae fy rhieni oedranus yn cael eu haslo o bryd i'w gilydd. Bydd fy nghyflogwyr hefyd yn derbyn cwynion yn lled rheolaidd.

    A bod yn deg dim ond un aelod o'r cyfryw grwp sy'n dweud celwydd noeth (fel nifer o'r manylion yn y nonsens uchod). Mae enw, cyfeiriad a manylion hwnnw yn nwylo fy undeb llafur, ac maent yn ystyried mynd a'r mater gerbron ombwdsman llywodraeth leol.

    Weithiau mae dyn yn meddwl - pam y dyliwn drafferthu? Ond mae yna egwyddorion pwysig yn y fantol yma - hawl aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, yr hawl i fynegiant rhydd - ond yn bwysicach rhywbeth sydd wedi ei blanu yn dwfn yn DNA fy nheulu - yr argyhoeddiad na ddylai person gymryd ei fwlio - byth.

    ReplyDelete
  4. Mae'n ddrwg gennyf. Yr wyf wedi bod i ffwrdd am ychydig ddyddiau a heb gael cyfle ymweld â'r blog. Mae'r sylw wedi ei ddileu bellach.

    ReplyDelete
  5. Dim angen ymddiheuro Alwyn.

    ReplyDelete