01/10/2009

Heddlu Cudd yn Ysbio ar Cynhebrwng Gwladgarwr

Mae yna stori digon ffiaidd yn y Cambrian News heddiw am ymddygiad Heddlu Dyfed Powys ar ddiwrnod angladd y cenedlaetholwr Glyn Rowlands a fu farw ar Awst 22 eleni.

Yn dilyn y rali cafwyd rali Glyndŵr er cof am Glyn yn y Plas Machynlleth. Gofynnodd yr Heddlu am i gamerâu CCTV y plas i gael eu hail leoli er mwyn ffilmio'r rali a phan wrthodwyd y cais honno gofynnwyd am ddefnydd o ystafell er mwyn i heddlu cudd cael clustfeinio ar a gwylio'r rali.

Mae John Parsons, clerc tref Machynlleth wedi ysgrifennu at yr Heddlu ar ran y cyngor i gwyno am eu hymddygiad a’u diffyg sensitifrwydd ar adeg o alar.

1 comment:

  1. Anonymous9:07 am

    Doedden nhw ddim yn heddlu cudd iawn os oedden nhw'n gorfod gofyn i'r cyngor cymuned am ganiatad i ddefnyddio'r CCTV. Roedd yr heddlu cudd go iawn yna yn ffilmio. Y plods lleol yn trio bod yn glyfar oedd y rhein - a drychwch faint o lanast wnaethon nhw.

    ReplyDelete