17/12/2009

Be Ddigwyddodd i S4C2?

Diwedd mis Awst llynedd mi wnes ymateb i holiadur ar Wasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol a gomisiynwyd gan S4C er mwyn trafod y defnydd gorau o sianel S4C2.

Mi fûm yn un o'r ychydig prin a oedd yn gwylio darllediadau o'r Cynulliad ar S4C2 yn weddol reolaidd - oleiaf 2-3 gwaith yr wythnos. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, da oedd cael y sianel ar gyfer darllediadau byw o'r Babell Lên fel gefaill i ddarllediadau o'r Pafiliwn Pinc.

Mae fy ymateb i'r holiadur ar gael yma (dogfen pdf)

Yn fras fy ymateb oedd:
Er gwaetha'r ffaith fy mod yn un o wylwyr rheolaidd prin y sianel, yr wyf yn fodlon aberthu'r cynnwys yr wyf fi yn ei fwynhau er mwyn creu gwasanaeth amgen i blant a phobl ifanc.

Mae'r gwasanaeth i blant arfaethedig wedi ei greu (ond nid y gwasanaeth i bobl ifanc); ond mae'n cael ei ddarlledu fel rhaglenni Cyw ar S4C1 yn ystod yr oriau hynny cyn y pnawn pan nad oedd S4C yn arfer darlledu yn ddigidol o gwbl.

Ers yr wythfed o fis Awst, bron i bum mis yn ôl, yr unig beth sydd wedi ei ddarlledu ar S4C2 yw Tudalennau Gwybodaeth gyda llun o fwi môr a rhif ffôn y Gwifryn Gwylwyr. Yr oeddwn yn fodlon colli fy ngallu i wylio'r Cynulliad a'r Babell Lên ar gyfer creu lle i wasanaeth amgen a mwy poblogaidd, ond nid er mwyn ei golli am rif ffôn a llun gwirion!

Er mwyn darlledu'r Tudalennau Gwybodaeth, mae'n rhaid bod S4C yn parhau i dalu'n ddrud am y slot darlledu. Rwy'n gallu meddwl am gant a mil o ddefnyddiau ar ei gyfer yn ogystal a'r sianel i bobl ifanc a addawyd:

  • S4C + 1 - ar gyfer y rhai sy'n codi'n hwyr ar ol siesta'r pnawn

  • Sianel Amaethyddol, fel nad oes raid inni gael gymaint o faw gwartheg ar y brif sianel ar raglenni megis Cefn Gwlad, Ffermio a Fferm ffactor.

  • Sianel Chwaraeon er mwyn osgoi newidiadau i'r arlwy arferol gan fod gemau rygbi / pêl-droed / tidliwincs pwysig yn cael eu cynnal.

  • Sianel ailddarllediadau - i wneud lle i gynnwys rhaglenni newydd ar y brif sianel yn hytrach na dangos Fferm Ffactor pum gwaith yr wythnos

  • Pa bynnag defnydd a wneir o sianel S4C2, oni bydda rywbeth yn well na thalu am sianel wag?

    1 comment:

    1. Be am anfon ebost at Wifren Gwylwyr a phostio'r ymateb yma? Ma nhw'n reit dda am ateb ymholiadau fel arfer.

      Petai na ddim ailddarllediadau yno fydda na ddim lot o raglenni i'w dangos ar s4c! Dwi'n meddwl bod rhaid derbyn erbyn hyn, yn y byd digidol bod na ailddarllediadau yn mynd i fod. Mae'n ddigon teg o syniad fodd bynnag i drio cael nhw ar sianel ar wahan (fel mae eraill yn gwneud) ond bydda hynny'n golygu gorfod creu rhagor o gynnwys gwreidiol i S4C ei hun - sydd, dan y telerau a chyllidebau cynhyrchu presennol - yn amhosib. Byddai cynnwys y sianel yn troi mewn i filler parhaol, heb unrhyw arian i roi sylwedd iddo.

      Os dwi'n cofio'n iawn dydi S4C ddim yn talu unrhywun am y gofod ganm taw nhw sydd biau fo. Mae'n nhw gallu rhentu allan y donfedd i sianeli eraill pan does dim byd arno. Felly ella bod nhw'n elwa o gael dim byd on 'test card' fyny...dwn im - sa raid checkio ar hynny.

      A tisio symud rhaglenni mwyaf poblogaidd y sianel (h.y. chwaraeon + amaethyddol) i'r ail sianel? Hmmmm...

      ReplyDelete