29/05/2009

Mae'r blogiau'n Ddylanwadol!

Rwy'n falch o weld dylanwad blog Yr Hen Rech Flin ar golofnydd Byd y Blogiau yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.

Y mae o / hi wedi dilyn fy nghyngor i gynnwys URL y blogiau y cyfeirir atynt yn y golofn yr wythnos yma.

Da iawn Golwg!

22/05/2009

Pwy ond Lembit.....?

Stori ryfeddol ar flog Glyn Davies. Tra bod bron pawb yn yr ynysoedd hyn a thu hwnt yn gwylltio am y pethau mae aelodau seneddol wedi hel i'w tai ar bwrs y wlad, mae AS Maldwyn wrthi yn ffilmio ar gyfer y rhaglen "Cash in the Attic". Rhaglen lle mae pobl yn ceisio dod o hyd i gelfi di angen yn eu tai i'w gwerthu er mwyn codi arian.

Anhygoel!

This post in English

Golwg a Byd y Blogiau

Ers rhifyn yr wythnos diwethaf mae fersiwn lladd coed Golwg wedi cynnwys colofn o'r enw Byd y Blogiau. Y rheswm pam bod Golwg yn cynnwys y golofn newydd, yn ôl yr is pennawd, yw oherwydd bod Y Blogiau'n Ddylanwadol.

Mae dylanwad y blogiau yn fater o farn, hwyrach, ond y farn sy'n cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn yw bod y blogiau'n ddylanwadol. Mor ddylanwadol bod angen i Golwg cyhoeddi yr hyn maen nhw'n ei ddweud.

Rwy'n ddiolchgar i awdur y golofn am roi sylw i ddylanwad blog yr Hen Rech Flin yr wythnos diwethaf (er mae at bost ar Miserable Old Fart roedd yr erthygl yn cyfeirio).

Nodwyd post gan Cynical Welshman yr wythnos diwethaf hefyd, er mae post gan y Cynical Dragon ydoedd. Yn y rhifyn cyfredol ceir cyfeiriad at bost gan Welsh Mam, sy'n wir gyfeirio at bost gan Valleys Mam.

Nid hollti blew yw nodi camgymeriadau y golofn. Nid camgymeriadau dibwys mohonynt.

Os ydy Golwg yn credu bod y blogiau'n ddylanwadol, ac yn teimlo bod angen i'w darllenwyr cael gwybod yr hyn y maent yn eu dweud, mae'n rhaid wrth gywirdeb i alluogi darllenwyr y cylchgrawn cael gafael ar y pyst gwreiddiol. Does dim modd dod o hyd i bost Mam trwy roi Welsh Mam i mewn i beiriant chwilio.

Peth hawdd ar y we yw rhoi ddolen i wefan arall. Does dim modd gwneud hynny mewn print. Ond bydda nodyn bach ar waelod y golofn yn nodi cyfeiriadau'r blogiau a gyfeiriwyd atynt yn gymorth.

e.e. Cyfeiriwyd at y blogiau yma yn y golofn:
http://miserableoldfart.blogspot.com
http://henrechflin.blogspot.com/
http://www.cynicaldragon.com/
http://merchmerthyr.blogspot.com/

20/05/2009

Syr Siôn Trefor

Michael Martin yw Llefarydd cyntaf Tŷ’r cyffredin i gael y sach ers ddyddiau Syr John Trevor yn y 17eg ganrif.

Sydd yn gadael cwestiwn mawr ar wefusau pawb trwy'r byd. Pwy oedd Syr Siôn Trefor?

Dyma'r ateb o'r Bywgraffiadur:


Ail fab y John Trefor a fu f. tua 1643 oedd Syr JOHN TREFOR ( 1637 - 1717 ), ‘ Llefarydd’ Tŷ'r Cyffredin , a barnwr . Gan i'w dad f. ac yntau'r mab yn ieuanc, cafodd garedigrwydd gan ei ewythr Arthur Trefor, a'i paratôdd ar gyfer mynd i'r Middle Temple ( Tachwedd 1654 ); oddi yno galwyd ef i'r Bar ym mis Mai 1661 . Chwe blynedd yn ddiweddarach aeth gyda'i berthynas o'r un enw, a ddaeth yn ysgrifennydd y Wladwriaeth (bu f. 1672 ), ar neges lysgenhadol i Ffrainc .

Gwnaethpwyd ef yn farchog , 29 Ionawr 1671, ac yn 1673 aeth i'r Senedd , gan eistedd dros fwrdeistrefi poced yn Lloegr hyd 1681; methodd â chael ei ethol dros Drefaldwyn yn 1679.

Llwyddodd i gyfuno a'i gilydd gymorth gwenieithus i freiniau cynhenid y brenin (‘the royal prerogative’), ac amddiffyniad (heb gymorth neb arall) i'w gefnder amhoblogaidd a'i noddwr, Jeffreys, gyda chred Brotestannaidd filwriaethus a barodd iddo gael ei ddewis yn gadeirydd pwyllgorau megis y pwyllgor ar gynnydd Pabyddiaeth, 29 Ebrill 1678 (a ysbrydolwyd gan John Arnold ac a arweiniodd i ferthyrdod David Lewis a Phabyddion eraill yn Ne Cymru ), a'r pwyllgor yn delio â'r achwyniad (‘impeachment’) yn erbyn yr arglwydd Powis a'r arglwyddi Pabyddol eraill (Mai 1679).

Yr oedd yn byw yn Llundain gan mwyaf a phrynodd blasty yn Pulford, yn nes i lawr ar Ddyfrdwy na chartref y teulu, hyd nes y bu i farw ei frawd hyn ei wneuthur ef ei hunan yn aer i Bryncynallt, y mae'n debyg cyn etholiad seneddol terfysglyd y sir ym mis Mawrth 1681; yr adeg honno ailgyneuodd hen gweryl y teulu trwy gipio sir Ddinbych oddi ar y Myddeltoniaid, a oedd yn Chwigiaid ac yn llawer mwy nerthol yn herwydd eu heiddo tiriogaethol; heriodd y Myddeltoniaid ef i ymladd gornest am iddo alw Syr Thomas yn fradwr.

Daeth yn faer tre'r Hollt yn y flwyddyn ddilynol, ac yn 1684 dodwyd ef ar gomisiwn ymchwil tiroedd cudd y goron yn sir Ddinbych . Wedi i Iago II esgyn i'r orsedd, gwnaeth Beaufort (gw. dan Somerset ) ei hun yn gyfryngwr, ar awgrym y brenin a Jeffreys, gyda'r amcan o ddifodi'r cweryl; canlyniad hyn oedd i Myddelton gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad dros y sir a Trevor dros y fwrdeistref; gwnaethpwyd ef hefyd, ar unwaith, yn un o fwrdeiswyr tref Ddinbych . Llwyddodd Trevor i ddial ar ei elynion chwarter canrif wedi hynny pan fu'n cynorthwyo i beri drygu teulu Edisbury, a oedd yn fath o weision i'r Myddeltoniaid, trwy alw'n ôl yr arian a roesid yn fenthyg ar stad Erddig gan mai ef oedd yr un a fenthyciasai fwyaf o arian i'r stad.

Yn 1685 dewiswyd Trevor yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin (19 Mai), yn ‘ Master of the Rolls ’ (20 Hydref), ac ar 6 Gorffennaf 1688 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor; dewiswyd yr un pryd ddau Anghydffurfiwr er mwyn iddynt allu gwrthweithio ei ymlyniad di-ildio ef wrth yr Eglwys Anglicanaidd . Dewiswyd ef hefyd yn gyd-gwnstabl castell y Fflint ( 1687 ) ac yn ‘ custos rotulorum ’ sir y Fflint ( Rhagfyr 1688 ); parhaodd yn deyrngar i Iago II hyd yn oed pan ffoes hwnnw y tro cyntaf. O'r herwydd, collodd ei swyddi pan ddaeth y Chwyldroad, eithr dychwelodd i'r Senedd yn gynrychiolydd bwrdeistref boced ac ailgydiodd yn ei waith fel Llefarydd ( Mai 1690 ).

Gan iddo ennill ffafr William III trwy lwyddo i ‘drin’ y Torïaid, cafodd ei sedd yn y Cyfrin Gyngor yn ei hôl (1 Ionawr 1691); gwnaethpwyd ef yn gomisiynwr cyntaf y ‘Sêl Fawr’ yn ystod y cyfnod pan nad oedd geidwad, 1690-3 , ac ailddewiswyd ef yn ‘ Master of the Rolls ’ ar 13 Ionawr 1693 .

Yn 1695 , fodd bynnag, collodd ei swydd fel Llefarydd (12 Mawrth) a'i alltudio o'r Tŷ (16 Mawrth) am lwgrwobrwyo — ychydig o wythnosau wedi iddo fod bron â chael ei ddewis yn arglwydd-ganghellor.

Cafodd ei swyddi Cymreig yn ôl yn 1705. Bu f. yn Llundain , 20 Mai 1717 , gan adael ar ei ôl enw da oblegid ei wybodaeth o'r gyfraith a'i ddidueddrwydd fel barnwr — y ddeubeth hwn yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth ei barodrwydd, fel gwleidydd , i ymwerthu.


Hm! Sgotyn yw'r diweddaraf i deimlo esgid y gyffredin dan ei bart ôl, Cymro oedd y diwethaf. Teimlaf rant am wrth geltigrwydd yn magu!!!!

16/05/2009

Baw yn dy lygad Jac?

Mae Jac Codi Baw yn y cylchgrawn Golwg yn hoff iawn o dynnu blewyn o drwynau'r sawl dylid gwybod yn well, sydd ddim yn defnyddio'r Gymraeg ar bob achlysur priodol.

Mae'r Cymro yn cael chwip dîn haeddiannol ganddo yn y rhifyn cyfredol am gynnal cyfweliad am olygydd newydd yn uniaith Saesneg. Mae esgus y Cymro yn un ddoniol, gyda llaw Roedd yr ymgeisydd yn hapus i siarad Saesneg - fel petai'r ymgeisydd ym mynd i gwyno yn y cyfweliad os oedd o neu hi eisiau'r job!

Ond dydy cyflogwyr Jac ddim yn wynnach na gwyn eu hunain. Rwyf yn siomedig iawn bod dolenni Golwg360 i gyd yn Saesneg dyma'r ddolen i'r dudalen blaen:

http://www.golwg360.com/UI/Users/HomeView.aspx

Dyma gyfieithiadau i gynorthwyo Golwg
Users = Defnyddwyr
Home = Hafan
View = ??? methu cofio.

Mae yna bwynt difrifol yma. Roedd Alun Ffred yn cyfiawnhau ariannu Golwg360 yn hytrach na'r Byd oherwydd ei fod yn bwysig dangos i Gymru ifanc bod yna lle i'r Gymraeg yn y dechnoleg newydd. Mae doleni Saesneg Golwg yn gwanhau'r neges yna.

15/05/2009

Darogan Pleidlais Ewrop

Mae'r Hogyn o Rachub wedi gwneud cynnig arni. Mae Blog Menai wedi crybwyll y pwnc ond (hyd yn hyn) heb roi ei ben ar y bloc. Dyma fy ymgais i.

Y peth cyntaf i'w ddweud parthed Etholaeth Ewropeaidd Cymru yw bod y nifer o aelodau yr ydym yn eu hethol yn rhy fychan ar gyfer y system pleidleisio sydd yn cael ei ddefnyddio yn y DU. Efo dim ond 4 aelod mae disodli aelod yn anodd. Mae disodli rhagor nag un aelod bron yn amhosibl. Mae gan ambell i etholaeth Seisnig saith, wyth neu ddeg o seddi. Yn yr etholaethau hyn bydd cryn ymgiprys am y 2, 3, 4 sedd olaf.

Yng Nghymru dim ond un sedd o'r pedwar sydd yn y fantol, sef un y bedwerydd safle. Y Blaid Lafur sydd yn dal y sedd honno ar hyn o bryd. Os nad yw'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru yn dal eu gafael ar un sedd yr un bydd daeargryn o'r radd uchaf ar Raddfa Richter Gwleidyddol Cymru wedi digwydd.

Bydd angen daeargryn ar raddfa lai, ond daeargryn ta waeth, i Lafur colli eu hail sedd hefyd. Er mwyn i Blaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol ennill y sedd bydd rhaid i'r naill Blaid neu'r llall ennill mwy o bleidleisiau na'r Blaid Lafur. Dydy'r Blaid Lafur heb ddod yn ail yng ngwleidyddiaeth Cymru ers darfod dyddiau Lloyd George. Glaslanc oedd LLG y tro diwethaf i'r Ceidwadwyr dod i'r frig mewn etholiad Cymreig!

Yn 2004 Roedd gan y Blaid Lafur 127 mil yn rhagor o bleidleisiau na 'r Blaid Geidwadol a 138 mil o bleidleisiau mwy nag oedd gan Blaid Cymru - bwlch mawr i'w cau heb son am ei oresgyn

Cyn ystyried y posibilrwydd yna rhaid edrych ar obeithion plaid arall i gipio'r bedwaredd sedd.

Yn etholiad 2004, pe bai gan Gymru pumed sedd, byddai UKIP wedi ei gipio (gan Blaid Cymru!). Ond roedd UKIP yn parhau i fod dros 50,000 o bleidleisiau y tu ôl i addasiad pleidlais ail sedd Llafur. 500 pleidlais oedd rhwng UKIP a'r Rhyddfrydwyr ac roedd y Ceidwadwyr a'r Blaid ar eu sodlau am y bumed safle.

Dydy 50 mil ddim yn llawer dros Gymru Gyfan. Ond i UKIP neu'r Rhyddfrydwyr ennill y sedd mae'n rhaid iddynt dwyn y bleidlais yma yn unionsyth oddi wrth Lafur. Bydd dwyn pleidleisiau Ceidwadol neu Genedlaethol dim ond yn cryfhau gafael Llafur ar y bedwaredd sedd.

Mi fydd hi bron yn amhosib i UKIP na'r Rhyddfrydwyr ennill y bedwerydd safle os yw Llafur yn dod i frig y pôl eto.

Ond camarweiniol braidd yw cymharu 2009 hefo 2004. Roedd pleidlais 2004 yng Nghymru yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau cyngor sir, gan hynny gwnaeth llawer fwy o bobl pleidleisio yn 2004 na'r sawl a bleidleisiodd ym 1999. 41% yn 2004 o gymharu â 29% ym 1999. Hyd yn oed efo llawer mwy o bobl yn troi allan collodd y Blaid cryn nifer o Bleidleisiau rhwng 1999 (blwyddyn dda) a 2004 (blwyddyn wael uffernol) tra bod pob un blaid arall wedi cynyddu niferoedd eu pleidleisiau. Teg dweud, felly, bod y 160 mil a bleidleisiodd i'r Blaid yn 2004 yn bleidlais graidd gadarn. Pleidlais gall y Blaid dibynnu arni boed glaw neu hindda eleni.

O ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol rwy'n disgwyl i lawer llai na 29% i bleidleisio eleni. Y Blaid Lafur bydd yn colli fwyaf yng Nghymru o bobl yn sefyll cartref. Bydd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn dioddef o'r bleidlais dim diddordeb hefyd. Bydd gwerth pleidlais craidd y Blaid yn uwch o lawer nag ydoedd yn 2004. Ond dim yn ddigon uchel i gipio'r bedwaredd sedd. Bydd pleidlais UKIP hefyd yn aros yn ei hunfan o ran niferoedd ond gwerth llawer mwy fel canran.

Dyma'r ddarogan.

1 Plaid Cymru = 1 sedd
2 Llafur = 1 sedd
3 Ceidwadwyr = 1 sedd
4 UKIP = 1 sedd
5 Rhydd Dem = 0 sedd
6 BNP = digon uchel i beri cywilydd
7 Gwyrdd = 0 sedd
Gweddill = di-nod

13/05/2009

Croeso Amodol Arall i'r Strategaeth Iaith

Megis Blog Menai yr wyf yn rhoi croeso amodol i strategaeth addysg Cymraeg newydd y Cynulliad a gyhoeddwyd heddiw. Nid ydwyf wedi darllen dogfen y strategaeth eto. Mae fy sylwadau wedi eu selio yn gyfan gwbl ar yr hyn sydd wedi ei adrodd ar y newyddion.

Un o'r pethau a adroddwyd sydd yn derbyn croeso gwresog gennyf yw'r addewid i roi pwyslais ar ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.

Mae yna berygl inni roi gormod o bwyslais ar addysg Gymraeg ffurfiol fel modd i achub yr iaith (ac i ddelio efo llwyth o anghenion cymdeithasol eraill hefyd). Dim ond tua 5009 o oriau o addysg statudol mae dyn yn ei dderbyn (ychydig dan flwyddyn a hanner o'u cywasgu). Mae angen llawer mwy na hyn i blant dysgu sgiliau cyfathrebu ac i fagu hyder yn eu gallu ieithyddol.

Da yw gweld y Cynulliad yn cydnabod hyn. Rhaid disgwyl i weld pa mor flaengar, addas a llwyddiannus bydd y gweithgareddau sydd yn deillio o'r polisi.

Un cymal o'r adroddiadau ar y newyddion sydd yn peri pryderon imi yw hyn:
"Disgwylir i gynghorau sy'n cynnig addysg Gymraeg a Saesneg ar wahân ymchwilio'n fanwl i'r galw am addysg Gymraeg ymhlith rhieni plant sydd newydd eu geni."


Mae hyn yn awgrymu na fydd angen i Gynghorau Gwynedd, Môn na rhanbarth gorllewin Conwy ymchwilio i'w ddarpariaeth o addysg Gymraeg. Mae eu hysgolion hwy yn cael eu hystyried yn rhai naturiol ddwyieithog. Nid ydynt yn cynnig addysg Gymraeg ar wahân.

Mae polisi addysg yr hen sir Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd.
Mae yna gymunedau lle mae'r ysgolion yn llwyddo i sicrhau bod y mwyafrif llethol o ddisgyblion, beth bynnag eu cefndir, yn ymadael a'r ysgol yn Gymru Ddwyieithog rugl.

Mewn ardaloedd eraill mae yna fodd i blant dechrau yn yr Ysgol Feithrin yn dair blwydd oed ac ymadael ag addysg statudol yn 16 yn ddi Gymraeg i bob pwrpas ymarferol. Ond oherwydd y polisi o addysg naturiol ddwyieithog does dim modd i rieni yn yr ardaloedd gwan dewis addysg Gymraeg Rhydfelinaidd i'w plant. Maent yn cael eu gorfodi i dderbyn addysg ymarferol Saesneg.

Os yw'r adroddiad ar y BBC yn iawn bydd hyn ddim yn newid o dan y strategaeth newydd ac mae hynny'n siom.

Diweddariad:
Mae 'na ddadansoddiad manwl o'r Strategaeth ar flog Syniadau
Mae'r ddogfen ymgynghorol llawn i'w gweld yma

08/05/2009

Alun Di-Nerth

Un o'r pethau bach gwirion yna sy'n fy nhiclo i yw cyfeiriad swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Gogledd:

Ffordd Dinerth (cwbl di nerth!), Bae Colwyn.

Yn rhyfedd iawn mae Mam Alun Michael, Ysgrifenydd Cyntaf y Cynulliad yn ei fabandod, hefyd yn byw yn Ffordd Dinerth.

Druan o Alun, wedi darllen ei gyfraniad i ddathliadau deng mlwyddiant y Cynulliad ac wedi clywed ei sylwadau ar y radio a'r teledu - yr argraff rwy'n cael yw grawnwin surion sy'n dal i gorddi.

Mae degawd wedi mynd heibio, Alun bach, mae'r byd wedi troi, yr wyt ti'n ddeng mlynedd yn hyn. Rho'r gorau iddi - be di'r pwynt o ddal dig cyhyd?