01/01/2010

Darogan Etholiad 2010 A

Aberafan Yn y bag i Lafur.

Aberconwy
Yr unig beth sy'n sicr yma yw bod y Blaid Lafur am golli.

Er fy mod yn byw yn yr etholaeth rwy'n methu darogan gydag unrhyw fath o sicrwydd os mae'r Blaid neu'r Ceidwadwyr sydd ar y blaen. Yn ddi-os o bleidleisiau yn newid dwylo mae mwy o bobl a phleidleisiodd i Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005 am droi at y Blaid na sydd am droi at y Ceidwadwyr. Y drwg yn y caws yw'r Ceidwadwyr sydd wedi sefyll cartref yn ystod y ddau etholiad San Steffan diwethaf yn penderfynu pleidleisio eto.

Un o'r pethau sydd wedi sicrhau buddugoliaethau Ceidwadol yn ardal Llandudno yn y gorffennol bu perchnogion cartrefi preswyl yn defnyddio'r bleidlais post i bleidleisio o blaid y Ceidwadwyr ar ran eu trigolion. Mi glywais son bod pleidlais olaf Lewis Valentine, o bawb, wedi mynd i'r Ceidwadwyr o dan y fath drefn lwgr.

Pleidlais y cartrefi preswyl bu rhan o gwsg y Blaid Geidwadol yn yr etholaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Rwy'n ddeall bod y bleidlais yma yn dihuno, rhywbeth mae'n bwysig i'r ymgeiswyr, o bob Plaid ei wylio a'i gywiro!

O dan orfodaeth daragon, mae fy mhen yn dweud mai'r Cedwadwyr pia hi, mae'r galon yn mynd at y Blaid. Yr wyf am ddilyn y galon - y Blaid i gipio'r sedd o drwch blewyn!

Alyn a Glannau Dyfrdwy - yn y bag i Lafur, ar hyn o bryd, ond y fath o etholaeth lle ddylai'r Blaid defnyddio'r cerdyn Cenedlaethol efo C MAWR. A'i rhan o Gymru neu'n rhan o Gaer estynedig yw'r etholaeth? Mae BEA wedi cael miliynau o bunnoedd gan y Cynulliad i gefnogi ei fodolaeth trwy'r ffaith ei fod yng Nghymru, ond eto mae'n galw ei hun yn BEA Chester! Etholaeth lle ddaliai’r Blaid mynnu bod yr etholwyr yn sylwi ar ba ochor o'r dafell mae'r menyn y taenu!

Arfon - eisoes yn y bag i'r Blaid mwyafrif mawr i'r Blaid fe dybiwn. Y Blaid i ennill o leiaf 40% o'r bleidlais. Rwy'n methu dirnad sut bod y sedd yma wedi cael ei gyfrif fel sedd sy'n "eiddo" i'r Blaid Lafur, yn y lle cyntaf!!

7 comments:

  1. Wyt ti'n meddwl y byddi wedi cyrraedd W am Wrecsam erbyn dyddiad yr etholiad? Be ydy hyn? cystadleuaeth rhwng y chdi, Blog Menai a Hogyn o Rachub?

    ReplyDelete
  2. Arfon - eisoes yn y bag i'r Blaid mwyafrif mawr i'r Blaid fe dybiwn. Y Blaid i ennill o leiaf 40% o'r bleidlais. Rwy'n methu dirnad sut bod y sedd yma wedi cael ei gyfrif fel sedd sy'n "eiddo" i'r Blaid Lafur, yn y lle cyntaf!!

    Oherwydd bod llawer o bobl sy'n gogwyddo tuag at Blaid Cymru ym Mangor a Dyffryn Ogwen wedi pleidleisio'n dactegol i Beti yn 2005 'dwi'n meddwl.

    ReplyDelete
  3. I fod yn deg, yn hytrach na "phleidleisio tactegol", ardaloedd Llafur oedd Dyffryn Ogwen a Bangor. Dim ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf y maen nhw wedi troi yn ardaloedd sy'n gefnogol i Blaid Cymru - mae'n newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr ardal i bob pwrpas - nid yn annhebyg i ardaloedd fel Cwm Gwendraeth, mi dybiaf.

    ReplyDelete
  4. Wel, mae yna hen draddodiad o bleidleisio i'r Blaid mewn etholiadau lleol yn Nyffryn Ogwen - ond dydi hwnnw ddim yn cael ei adlewyrchu pob tro mewn etholiadau San Steffan.

    ReplyDelete
  5. Be ydy hyn? cystadleuaeth rhwng y chdi, Blog Menai a Hogyn o Rachub?

    Ia, ac am wobr sydd yn fwy gwerthfawr na jacpot y lotri

    ReplyDelete
  6. Anonymous5:12 pm

    Parthed Alyn a Glannau Dyfrdwy - rwyf yn cytuno'n llwyr ond, Duw a'n helpo, a oes gan Blaid Cymru cerdyn cenedlaethol gyda "C" mawr arno, bellach?
    Efrogwr, Abertawe

    ReplyDelete
  7. Guto Bebb10:01 am

    Sylw siomedig iawn (a di-sail) am dwyll gan berchnogion cartrefi henoed. Unrhyw dystiolaeth?

    Fe wn fod Llafur am chwarae'n fudur ond mae'r honiadau hyn am ddilysrwydd y bleidlais i'r Ceidwadwyr yn droelli o safon fyddai wedi plesio LLafur yn 1997. Fe wn dy fod yn frwd dros Blaid Cymru yn Aberconwy ond oes rhaid gwneud honiadau di-sail i egluro pam na fydd Plaid Cymru'n fuddugol yma?

    ReplyDelete