11/01/2010

Datganiad i'r Wasg gan Gyngor Gwynedd

Drafft A

Mae Plaid Cymru yn gwybod bod ysgolion bach lleol wedi bod yn gefn i fywyd ein pentrefi gwledig ers cenedlaethau. Ein dymuniad yw cadw cymaint ag sydd modd o'r ysgolion bach ar agor. Yn anffodus mae Llywodraeth Llundain, trwy'r ffordd y mae'n ariannu cyllideb addysg y Cynulliad, wedi ein harwain i sefyllfa lle nad yw'r arian ar gael i ni amddiffyn holl ysgolion y sir yn y modd y dymunem.

O dan orfodaeth allanol toriadau cyllido, nad oes modd i ni eu rheoli, mae'r Cyngor, yn groes i'w hewyllys, yn gorfod ystyried cau rhai o'n ysgolion llai. Mae cau unrhyw ysgol yn creu loes i ni, ac yr ydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw gymaint ag y gallwn o ysgolion ar agor.

Yn anffodus mae pob ymbil ar weinidogion y Cynulliad i gael cyllid ychwanegol o lywodraeth cannolog er mwyn cadw'r cyfan o ysgolion Bro Dyfi ar agor wedi eu gwrthod yn llwyr gan Llywodraeth Llafur Llundain. Gyda gofid dwys, yn wyneb diffygion cyllidol, does gan y Cyngor dim dewis ond i gau rhai o'r ysgolion.

Drafft B

Hwre a haleliwia dyna un yn llygaid Llais Gwynedd, gwych bod cau ysgolion Bro Dyfi wedi pasio trwy'r cyngor - ha! ha! ha!

 Pa ddrafft aeth i'r wasg tybed?

3 comments:

  1. Anonymous10:17 am

    Alwyn,
    Dyw 'run o'r ddau ddrafft yna yn adlewyrchu fy agwedd i at addysg gynradd yng Ngwynedd. Nid amgylchiadau ariannol allannol sydd yn ein gorfodi ni i gau ysgolion, ond yn hytrach y sylweddoliad mae drwy ad-drefnu heddiw y mae sicrhau tegwch i holl blant y sir, a threfn addysg wledig sydd yn gynaliadwy am genhedlaeth arall, a mwy. Dwi ddim yn gwadu bod 'na bobl yn anhapus gyda'r penderfyniad, ond dwi'n barchus anghytuno a'u safbwynt. Bydd y drefn addysg sydd yn cael ei llunio ar hyn o bryd yn gaffaeliad i'r sir gyfan.
    Dyfrig Jones

    ReplyDelete
  2. Ti yw'r cyntaf o aelodau Plaid Cymru i mi (o leiaf) ei glywed yn honni mae sicrhau tegwch i holl blant y sir, a threfn addysg wledig sydd yn gynaliadwy am genhedlaeth arall yw'r rheswm paham bod y Blaid am gau ysgolion yng Ngwynedd.

    Yr hyn rwy'n clywed gan gefnogwyr triw'r Blaid ym mharthau Dolgellau yw bod pleidleiswyr Llais yn rhy ff*** dwp i sylweddoli nad yw'r pres ar gael i gadw ysgolion megis Bontddu neu'r Ganllwyd ar agor. Dyna oedd sail fy ymgais i droilli gyfer Drafft A!

    Yr wyt yn cynnig rheswm amgen, a newydd, i gyfiawnhau ad-drefnu'r ysgolion. Yr wyt yn cynnig dadl sydd â chig ar ei hesgyrn, ac mae'n rhaid dweud pe bai'r Blaid wedi troelli dy gyfiawnhad o'r cychwyn cyntaf, mi fyddai ei ddadl yn un gref.

    Dadl rhy hwyr yn y dydd, ysywaeth, gan fod pawb yng Ngwynerdd, bellach, yn gwybod mae arian yw gwraidd y broblem a bod Plaid Cymru am gau ysgol bach ni er mwyn y geiniog, yn hytrach nag i drefnu addysg wledig sydd yn gynaladwy.

    ReplyDelete
  3. Anonymous10:25 pm

    Hels bels Alwyn, r'un peth ydy o.

    ReplyDelete