12/04/2010

Dim lle yn y gynulleidfa

Ar ôl gwahardd arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP, y Gwyrddion ac ati rhag cymryd rhan yn dadleuon yr arweinwyr ar gyfer Etholiad San Steffan, mae'n debyg bod y corfforaethau darlledu a'r tair plaid hunan pwysig wedi penderfynu gwahardd cefnogwyr cyffredin o bleidiau eraill rhag bod yn rhan o'r gynulleidfa hefyd.

Bydd y sawl sy'n gwneud cais am docyn i fod yn rhan o'r gynulleidfa yn cael eu gofyn i bwy y maent yn debygol o bleidleisio. Bydd nifer penodedig o'r rhai sydd yn nodi eu bod am bleidleisio i Lafur, y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr yn cael tocynnau, ynghyd ag 20% o bobl sydd yn nodi nad ydynt wedi penderfynu eto. Ond os ydych yn nodi eich cefnogaeth i'r Blaid, MK, y Gwyrddion UKIP neu unrhyw blaid arall bydd eich cais am docyn yn cael ei wrthod yn ddisymwth.

Yr esgus, mae'n debyg, yw er mwyn sicrhau nad yw eithafwyr o'r BNP yn herwgipio'r rhaglenni. Mae'r syniad y byddai aelod o'r SNP neu'r Blaid werdd yn herwgipio rhaglen ar ran y BNP yn enllibus o hurt. Mae'r syniad na all aelod o blaid eithafol cogio ei fod yn gefnogol i un o'r tair plaid fydd yno yn naïf o wyrion.

Unwaith eto mae tri hen blaid fethedig a'u cyfeillion yn y byd newyddiadurol yn dangos nad oes ganddynt gydsyniad o ddemocratiaeth yn perthyn iddynt.

1 comment:

  1. Hen newyddion. Cytunwyd rheolau'r dadleon ym mis Mawrth, yma.

    4. "recruit [audience] within a 30 mile radius of the host city."

    Felly, na fydd neb o'r Alban o gwbl, ond fe fydd rhai pobl o dde ddwyrain Cymru yn y rhaglen o Fryste (Sky, 22 Ebrill) ... efallai.

    6. "ensure around 80% of the audience is made up of voters who express a voting intention at the time of recruitment.

    7. These will be subdivided into ratios which reflect a ratio of 7 Labour, 7 Conservative, 5 LibDem. The political ratios will take precedence over the demographic in the final selection of the audience by ICM.

    8. Within the 80% (see point 6) the broadcasters retain the right to recruit some audience members who express an intention to vote for smaller parties."


    Ond does dim sicrwydd am hynny.

    ReplyDelete