13/04/2010

Rhaglen Etholiad 2010 S4C

Mae'n rhaid dweud fy mod i wedi siomi'n arw efo'r rhaglen gyntaf yn y gyfres Etholiad 2010 are S4C.

Roedd yr ugain munud gyntaf yn wastraff llwyr o amser, y cyflwynydd yn egluro fformat y rhaglen, wedyn digrifwr yn egluro ei fformat eto gan ddynwared y gwleidyddion a oedd i ymddangos. Cafwyd ffars o weld Dafydd Wigley, Ruth Parry, Beti Williams a Rod Richards yn dewis pa blaid arall yr oeddynt am eu holi. Ew 'na lwc mul bod neb wedi dewis ei blaid ei hun, a bod yr hen sefyllfa annifyr o Lafur yn holi'r Rhyddfrydwyr a'r Rhyddfrydwyr yn holi Llafur heb godi ynte?

Mae Dylan Iorwerth yn gallu bod yn sylwebydd craff a difyr, ond diwerth braidd oedd ei gyfraniad ef. Os oes senedd crog bydd y Rhyddfrydwyr democrataidd fel enllyn mewn brechdan (llun rhywun yn gwneud brechdan) " Waw! Pwy sa'n credu?

Roedd rhaid cael gair bach efo etholwyr cyffredin, ac yn ôl rheol rhaglenni o'r fath, does dim hawl i'r bobl gyffredin ffafrio'r un blaid, mae'n rhaid iddynt ddweud yr un hen ystrydebau: "dydy gwleidyddion ddim yn ceisio siarad efo'r to iau"; "dwi ddim yn deall y gwahaniaethau polisi" a "bydda nhw 'mond yn curo'r drws ar adeg etholiad". Pit na fasa'r stori am wleidyddion mond yn dod acw adeg etholiad yn wir yn y parthau hyn. Mae gymaint o wleidyddion wedi bod yn postio taflenni trwy a churo ar ddrws fy nhŷ yn ystod y flwyddyn diwethaf, fel bod carreg yr aelwyd yn dechrau drewi o wleidyddion.

Yr unig ran ddifyr o'r rhaglen oedd Dafydd Wigley yn holi'r Democratiaid Rhyddfrydol. Rhaid cyfaddef fy mod i ddim yn gwybod cynt ac wedi fy syfrdanu o ddysgu mae dim ond dau allan o 40 ymgeisydd y Rhydd Dems sydd yn gallu'r Gymraeg. Ond mor ddifyr oedd cyfraniad Wigley, fel nododd Rod Richards, cafwyd yr un hen fformat ar raglenni gwleidyddol Cymraeg 20in mlynedd yn ol.

Hoffi nhw neu beidio bydd y deugain AS a etholir ym mis Mai yn dylanwadu ar bethau pwysig bydd yn effeithio ar ein bywydau megis faint o bres bydd yn ein pocedi, ein gobeithion i gael neu i gadw swydd, safon byw'r henoed, hawliau a dyletswyddau sifil ac ati - dydy eu hethol ddim yn jôc nac yn ystrydeb. Mae etholwyr Cymru yn haeddu rhaglenni sydd yn rhoi'r ymgeiswyr o dan y chwyddwydr ac sydd yn eu holi yn galed am sut y byddant yn ein cynrychioli o gael eu hethol, doedd y rhaglen Etholiad 2010 heno ddim yn agos at y marc.

No comments:

Post a Comment