26/05/2010

Addysg Gymraeg yng Ngwynedd

Nid ydwyf yn gwybod digon am amgylchiadau unigol Ysgol y Parc i ddweud yn bendant mae da o beth neu ddrwg o beth yw ei chau. Os nad oes dim ond 18 disgybl yn yr ysgol o flwyddyn 0 i flwyddyn 6, tua dau ddisgybl y flwyddyn, rwy'n dueddol o gredu bod yr ysgol yn anghynaladwy.

Dydy addysgu dau bob blwyddyn ddim yn rhoi addysg gytbwys i blant man, dydy o ddim yn gwneud synnwyr ariannol, a phrin y gellir dadlau'n rhesymegol bod rhoi addysg i ddim ond dau Gymro ifanc lleol, pob blwyddyn, yn rhoi asgwrn cefn i'r Gymuned Cymraeg chwaith.

Wedi dweud hynny rwy'n deall y protestio yn erbyn cau'r ysgol a'r diffyg ffydd yn y Blaid sydd yn codi o'i herwydd. Wedi darllen rant Dyfrig Jones sy'n erbyn y protestwyr, fy ymateb oedd be ddiawl yr oeddet yn disgwyl Dyfrig?

Petai Plaid Cymru yn wrthblaid ar Gyngor Gwynedd, gyda chlymblaid enfys o bob Twm Dic a Harri yn rheoli'r Sir oni fyddai'r Blaid ei hun yn galw cau Ysgol y Parc yn frad ar raddfa Tryweryn a'r Streic Mawr? Dyna sy'n digwydd yng Ngheredigion a Chaerfyrddin a phob cyngor sirol lle mae'r Blaid yn rhan o'r wrthblaid!

Mae'r Blaid yn cwyno am gau ysgol o ddeunaw yng Ngheredigion wledig, tra'n annog cau ysgol o'r un faint yng Ngwynedd wledig yn hurt potes maip! Mae'n gwneud i'r Blaid ymddangos yn ddauwynebog, yn dweud y naill beth mewn gwrthblaid ond y gwrthwyneb mewn llywodraeth!

Rhan o'r ateb i bicl y Blaid yng Ngwynedd byddai rhoi'r gorau i'r ffug honiad bod pob ysgol yng Ngwynedd yn naturiol ddwyieithog a derbyn bod y mewnlifiad wedi creu ysgolion sydd yn naturiol Saesnig, megis o bosibl, yr ysgolion bydd plant y Parc yn eu mynychu ar ôl i'r ysgol leol cael ei gau! Hwyrach bod angen i Gyngor Sir Gwynedd defnyddio ysgolion Cymraeg, megis Ysgol y Parc ac Ysgol y Clogau i greu cnewyllyn o ysgolion Cymraeg go iawn, yn null y Cymoedd, fel ymateb i Seisnigeiddio cynyddol ysgolion trefol megis Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Gynradd Dolgellau!

1 comment:

  1. Rwy'n cytuno 100%. Mae'n bryd sefydlu ysgolion Cymraeg yn ardaloedd gwledig yr hen Ddyfed hefyd. Mae'r cynghorau sir wedi cuddio'r tu ôl i fasg 'naturiol Gymraeg' yn rhy hir.

    Y ffaith yw, mae mewnlifiad y genhedlaeth ddiwethaf i'r ardaloedd cefn gwlad hyn wedi creu ardaloedd lle mae mwyafrif llethol y plant mewn nifer o ysgolion 'naturiol Gymraeg' yn Saeson.

    Mae jobyn di-ddiolch gan yr athrawon sy'n ceisio eu troi nhw'n Gymry tra hefyd yn gorfod ymdopi â dysgu'r lleiafrif o Gymry Cymraeg yn eu mamiaith. Ar ben hyn oll, mae nifer o'r staff eraill yn yr ysgolion hyn yn ddi-Gymraeg erbyn hyn. Felly, ni cheir cymuned Cymraeg cyfoethog, hyd yn oed oddi fewn i furiau'r ysgol.

    Caewch yr ysgolion bychain i gyd. Gwnewch rhai yn ysgolion penodedig Gymraeg a'r gweddill yn gategoi B gyda gymaint o Gymraeg â sy'n bosib o dan yr amgylchiadau lleol.

    Twt lol i'r nonsens yma o 'o leiaf 70% o'r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg'. Yng ngymoedd ôl-Gymraeg y De Ddwyrain, mae'r ysgolion Cymraeg yn gwneud yn union be ma nhw'n awgrymu ar y bocs, sef dysgu'r cyfan oll yn Gymraeg.

    ReplyDelete