28/05/2010

For Welsh use English

Be sy'n digwydd i ddewis iaith ddigidol S4C?

Ar flychau teledu digidol, boed Sky neu Freeview mae modd dewis iaith. Yn amlwg, fel Cymro Cymraeg, yr wyf wedi dewis Welsh fel fy newis iaith.

Ar un adeg roedd dewis Welsh fel iaith fy mocs yn sicrhau, os oeddwn yn gwylio rhaglen chwaraeon, lle bo ddewis iaith sylwebaeth; mae'r Gymraeg byddai iaith ddiofyn fy ngwylio. O wylio darllediadau o'r Cynulliad roedd dewis y Gymraeg, fel iaith fy mlwch, yn golygu nad oeddwn yn derbyn troslais cyfieithydd pan oedd aelod neu dyst yn siarad y Gymraeg.

Yn niweddar mae fy nheledu wedi bod yn sylwebu yn y fain ac mae'r cyfieithydd i'w glywed yn y Cynulliad, er gwaetha'r ffaith mae Welsh yw ddewis iaith fy mlwch.

Mewn rhwystredigaeth mi ffoniais Gwifren Gwylwyr S4C!

Yr ateb oedd i dderbyn gwasanaeth Cymraeg diofyn, rhaid imi newid dewis iaith fy mlwch i English!

Y rheswm, mae'n debyg, yw bod cynifer o bobl wedi prynu blychau newydd ers i Gymru droi'n ddigidol sydd efo'r Saesneg fel iaith ddiofyn; mae haws oedd rhoi'r Saesneg fel iaith ddiofyn S4C na disgwyl i Gymry Cymraeg mynd i fol y peiriant i newid eu hiaith ddiofyn i'r Gymraeg ar gyfer un sianel allan o gannoedd.

Rwy'n ddeall eu rhesymeg, ac ar un lefel yn cytuno a hi. Pam ddylwn i fel Cymro Cymraeg yng Nghymru gorfod mynd i grombil fy mheiriant er mwyn sicrhau gwasanaeth Cymraeg ar S4C?

Roedd yna wendid yn y drefn newid i ddigidol bod blychau sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru heb eu gosod efo dewis iaith glir rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, roedd yna wendid yn yr hysbysebion newid i ddigidol am beidio a hysbysu gwylwyr am y drefn dewis iaith.

Ond mae ymateb S4C bod angen dewis English er mwyn cael gwasanaeth Cymraeg ond dewis Welsh i gael gwasanaeth Saesneg yn hynnod ddryslyd ac yn beryglus i ddyfodol y Sianel. Pa wyliwr di-Gymraeg o'r sianel sydd am ddeall mae'r modd i ddewis sylwebaeth Saesneg ar raglenni pêl-droed rhyngwladol S4C yw dewis yr opsiwn Cymraeg?

I osgoi unrhyw ddryswch:

Dewisiwch English am wasanaeth Cymraeg S4C!

Dewiswch Welsh am wasanaeth Saesneg!

Cwbl glir ontydi?

3 comments:

  1. Anonymous4:31 am

    Mi wnes i ddarganfod hynny yn ddiweddar hefyd. Eitha dafft ond tydi.

    ReplyDelete
  2. Geraint W11:25 am

    Gas gennyf gorfod optio fewn i wasanaeth Gymraeg ar S4C o hyd. A cytuno am y Cynulliad, os mae rwyn yn siarad Cymraeg mae'r cyfieithydd yn siarad dros y person felly mae'n amhosib clywad be mae o neu hi yn dweud yn y Gymraeg wreiddiol. Hyn ar S4C o bob man, mae'r peth yn warthus a hollol annerbyniol.

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:40 pm

    Ma hwn wedi fy nghythruddo i hefyd, ac o ganlyniad dwi'n croesawu torriad o £2miliwn i gyllid S4C. Os maent efo ddigon o bres ac adnoddau i roi wasanaeth Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg, maent yn derbyn gormod o bres. S4C sydd wedi tynnu'r peth ar ben eu hunain.

    Sut all S4C gael unrhyw hawl i gwyno am y torriad o £2miliwn pan eu bod gyda digon i wneud peth eu hunain, yn ogystal ag ailadrodd yr hyn mae'r BBC yn ei wneud hefyd?

    ReplyDelete