30/06/2010

Problemau Brifysgol

Rwyf wedi fy nrysu'n llwyr gan ddatganiad Leighton Andrews parthed Addysg Uwch heddiw. Am yr ychydig ddyddiau y bûm yn efrydydd mewn prifysgol dim ond un brifysgol oedd yng Nghymru - sef Prifysgol Cymru.

Dim ond tair blynedd yn ôl, yn 2007, penderfynwyd bod angen i Golegau Prifysgol Bangor, Aber ac ati i ddyfod yn Brifysgolion annibynnol er mwyn iddynt ennill mwy o arian ymchwil, myfyrwyr tramor ac adnoddau allanol ac ati.

Heddiw mae Leighton Andrews yn dweud bod angen i Brifysgolion uno er mwyn denu'r un dibenion.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch dros annibyniaeth y colegau fel Prifysgolion ar wahân. Yr Athro Merfyn Jones oedd arweinydd ymgyrch annibyniaeth Coleg Bangor.

HEFCW, yn ôl Mr Andrews, sydd yn gyfrifol am yr ymgyrch newydd i uno'r prifysgolion ac mae Merfyn wedi ei benodi fel ymgynghorydd ar uno!

Hwyrach fy mod yn rhy dwp i ddeall problemau brifysgol gan nad ydwyf wedi fy mendithio ag addysg o'r fath. Ond os nad oedd Prifysgol Unedig yn gallu denu cyllid ymchwil digonol, ac os nad yw nifer o fan brifysgolion yn denu digon o gyllid ymchwil, onid oes angen ymateb gwell i'r broblem denu cyllid nag ail adrefnu prifysgolion o fewn tair blynedd i'r adrefnu diwethaf?

Hyd y gwelaf i, y broblem fwyaf sydd gan Prifysgolion Cymru yw methiant Glyndŵr i sefydlu Prifysgol Hynafol yn y 15fed ganrif, a bod yr ymgyrch i greu prifysgolion ers y 19ed ganrif wedi bod yn un rhyddfrydol o gyfartaledd pob coleg.

Yr hyn sydd gyda ni yng Nghymru o'r herwydd yw 14 o Brifysgolion canolig-cyffredin.

Yn hytrach nag uno a chynghreirio, onid yr ateb yw dethol dau neu dri o'r Colegau - Aber, Caerdydd a'r Ffederal, dywedir a cheisio eu codi i lefel prif gynghrair yn hytrach na cheisio ail strwythuro, eto, i geisio cael gwell addysg brifysgolion cyfartal cyffredin ym mhobman?

No comments:

Post a Comment