26/07/2010

Be am ohirio'r refferendwm presennol er mwyn cael refferendwm sylweddol yn 2012?

Yr wythnos diwethaf, cefais wahoddiad i fod yn rhan o grŵp ffocws a gomisiynwyd gan y Comisiwn Etholiadol er mwyn casglu barn am eiriad y cwestiwn ar gyfer y darpar refferendwm ar Bwerau'r Cynulliad.

Roedd tua 20 o bobl yn y grŵp - pobl o gefndiroedd a barn wahanol. Roedd rhai ohonom yn gefnogwyr brwd i'r Cynulliad ac eraill am weld diddymu'r sefydliad. Ond roedd y cyfan o'r grŵp, ar wahân i fi, o dan yr argraff bod y refferendwm yn ymwneud â rhoi i'r Cynulliad yr un pwerau ac sydd gan Senedd yr Alban yn awr. O egluro eu bod yn anghywir, mae'r cyfan oedd y refferendwm yn trafod yw'r dull y mae'r Cynulliad yn caffael ar bwerau deddfu, a bod modd i'r Cynulliad, dros gyfnod, ennill yr holl hawliau - hyd yn oed pe bai 100% yn pleidleisio NA - roedd y grŵp cyfan yn credu bod y refferendwm yn wastraff llwyr o amser ac arian.

Roedd aelodau'r grŵp i gyd yn ddig eu bod wedi dod i'r cyfarfod gyda barn gref ar wrthwynebu neu gefnogi datganoli, dim ond i ganfod bod y drafodaeth parthed chwarae o gwmpas yn weinyddol yn hytrach na dim byd o sylwedd.

Oherwydd bod y llywodraeth bresennol yn awyddus i gysoni faint etholaethau San Steffan fydd rhaid diwygio Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan fod y ddeddf honno yn mynnu bod yn rhaid i etholaethau'r Bae a rhai San Steffan cael yr union un ffiniau.

Gan fydd rhaid gwella deddf 2006 yn fuan, beth am ychwanegu gwelliant i roi pwerau atodlen 7 i'r Cynulliad rŵan - heb yr angen am refferendwm, a chael refferendwm sylweddol mewn blwyddyn neu ddwy o amser i roi Pwerau'r Alban go iawn i'r Cynulliad, sef yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl, o ddwy ochr y ddadl, yn meddwl yw bwriad y refferendwm arfaethedig beth bynnag?

No comments:

Post a Comment