17/09/2010

Wrecsam i'r Blaid yn 2011?

Llongyfarchiadau Mawr i'r cynghorydd Marc Jones ar gael ei ddewis fel ymgeisydd y Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Wrecsam. Mae Marc yn gyfrannydd rheolaidd i flog Plaid Wrecsam.

Mae'n hynod annhebygol y bydd Marc yn cael ei ethol yn aelod Cynulliad yr etholaeth, wedi dweud hynny yr oedd ei ethol yn gynghorydd yn annhebygol hefyd!

Mae'r Blaid i'w weld yn gwneud yn well na'r disgwyl yn ardal Wrecsam yn niweddar, yn rhannol oherwydd yr hyn a elwir yn Chesterfication, sef trin Wrecsam fel swbwrb o Gaer yn hytrach nag un o brif drefi Cymru.

Mae gan y Blaid cwestiwn cryf i ofyn i bobl y dref – a ydych chi am i Wrecsam barhau i fod yn un o brif drefi Cymru, neu a ydych chi am iddo fod yn faesdref Seisnig i Gaer? Dim ond bleidlas gref i Blaid Cymru bydd yn rhwystro Chesterfication ac yn cadw hunaniaeth Cymreig Wrecsam!

Mae modd i'r Blaid gwneud yn dda yn etholaeth Wrecsam. Yn wir o gymharu rhifau cafodd Elystan Morgan 6,500 pleidlais bitw yn Wrecsam ym 1959. Dim ond 5,633 cafodd yr enillydd Llafur yn 2007! Mae modd i'r Blaid curo yn Wrecsam, mae'n rhaid trin Wrecsam fel etholaeth sydd o fewn gafael, dyna'r unig fodd i'r Blaid ennill mwyafrif yn y Cynulliad, ac os ydy Marc yn colli o drwch blewyn bydd ei ymgyrch yn ategu at bleidlais rhestr y Blaid.

Cefnogwch ef!

Efo gwynt teg MAE modd i Marc ennill Wrecsam, rhowch eich cefnogaeth, ysbrydol, ariannol ac ymarferol iddo!

I'r sawl sy'n weplyfrio dyma dudalen ei gefnogwyr. Ymunwch!

3 comments:

  1. "Mae'n hynod annhebygol y bydd Marc yn cael ei ethol yn aelod Cynulliad yr etholaeth, wedi dweud hynny yr oedd ei ethol yn gynghorydd yn annhebygol hefyd!"

    Dyna be di pleidlais o hyder! Mi wnai ngore i dy syfrdanu. Diolch am y plyg.

    ReplyDelete
  2. Mae'r cynllun o "Gaer-eiddio" ardal y gogledd-ddwyrain yn un y mae Plaid Cymru wedi ei anwybyddu llwyr ac mae'n warth ei bod wedi gwneud. Gobeithio y bydd yn rhoi mwy o sylw iddi - er mwyn ei dyfodol hi ei hun cymaint â Chymreictod yn y gogledd-ddwyrain.

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:40 pm

    Fel dywedodd Hogyn o Rachub, mae Plaid Cymru rywsut ddim yn gwybod dim, neu ddim isio gwybod. Y rhai aelodau o'r Blaid sydd yn ymwybodol o 'Gaer-eiddio' y gogledd dwyrain, maent yn ymddeol neu'n taeru fod yr holl beth allan o'u dwylo a na fedrant gwneud dim!

    Petai Plaid Cymru yn gwneud y pwnc yma'n un o rai graidd, byse lot o gefnogaeth yn dwad, hyd yn oed gan bobl annisgwyl. Mae hyd yn oed mewnfudwyr wedi cychwyn cwyno am y mewnfudwyr newydd. Yn dweud lot!

    ReplyDelete