20/10/2010

Rysáit Cymraeg: Humble Pie!

Un o'r pethau sydd yn nodweddiadol o'r Blaid Geidwadol yw ei allu i dal dig a thalu'r pwyth yn ôl blynyddoedd wedi achos yr anghydfod gwreiddiol.

Yn ddi-os roedd gan yr ymosodiad ar y glowyr ym 1984 gymaint, os nad mwy, i'w wneud efo talu pwyth am ddymchwel llywodraeth Ceidwadol deng mlynedd ynghynt, ac ydoedd yn ymwneud a pholisi ynni ac economi'r dwthwn.

Er bod ambell i Geidwadwr wedi hawlio clod am greu'r Sianel Gymraeg, does dim ddwywaith mae bygythiad ympryd Gwynfor oedd sylfaen y Sianel.

Dros ei chrogi troi nath y ledi dros sianel teledi (chwedl DI).

Rwy'n cofio cartŵn o un o bapurau mawr Llundin y cyfnod yn dangos llun o Willie Whitelaw yn bwyta llond ceg o humble pie a slogan yn cyhoeddi rhywbeth tebyg i Gwynfor Evans isn't the only one who won't be starving now!.

S4C oedd un o'r prin esiamplau o Fagi yn methu cael ei ffordd ei hunan. A yw'r bygythiad i S4C yn engraifft arall o'r Ceidwadwyr yn dal dig? Ydy'r blaid a orfodwyd i fwyta humble pie yn ôl ym 1980, bellach am gael dial?

Os ydy Jeremy Hunt (efo C) yn credu bod modd iddo wireddu ei ddial oherwydd bod Gwynfor wedi marw a bod Cymry Cymraeg yn gallu bod yn feirniadol o S4C, mae o wedi gwneud camgymeriad mawr.

Fel aelod o'r genhedlaeth sy'n cofio'r dyddiau cyn bodolaeth y sianel, rwy'n gweld beirniadaeth negyddol (a diffyg gwylwyr) i ambell i raglen Gymraeg fel rhan o gryfder a phrifiant teledu Cymraeg.

Does dim rhaid i'r gwyliwr teledu Cymraeg cyfoes clodfori unrhyw cach yn yr Iaith Gymraeg er mwyn cyfiawnhau hanner awr o deledu yn ein hiaith bellach! Does dim rhaid inni gogio mae Shane wedi ei dybio'n wael yw'r ffilm gorau inni ei weld erioed. Yr ydym wedi dod i arfer ar wylio'r gwachul a'r gwych yn y Gymraeg, ac mae digon ohonom ar ôl sydd am roi'r un ymrwymiad a rhoddodd Gwynfor i'r achos dros sicrhau bod hynny'n parhau.

Mae'r rysáit am humble pie ar gael o hyd, mae'n deisen efo plas cas. Wyt wir am ei brofi Jeremy?

Mae Mr *unt yn blogio, os hoffech gadael sylw, na chaiff ei gyhoeddi, dyma ei flog gyfeiriad.

No comments:

Post a Comment