25/10/2010

Siom Welsh Knot

Mi wyliais raglen David Williams, Welsh Knot, ar y BBC neithiwr, ac ar ôl ei wylio fy nheimlad oedd fy mod wedi gwastraffu awr brin o fy mywyd am ddim byd.

Ar ôl trafod dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar yr iaith fe ddaeth y rhaglen i'r casgliad terfynol od bod pobl sydd â theuluoedd a chydnabod rhugl eu Cymraeg yn dueddol o ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy aml yn gymdeithasol na'r sawl sydd heb deulu a chyfeillion Cymraeg eu hiaith! Canfyddiad sydd ddim yn peri'r ymateb Wow! Pwy sa’n feddwl?

O weld rhag hysbysebion y rhaglen yr oeddwn yn disgwyl llawer mwy. Mae yna gwestiynau am broblemau newid iaith sydd yn dyfod o blant o deuluoedd di Gymraeg yn cael addysg Gymraeg na chawsant eu crybwyll yn y rhaglen.

Mae fy nhad yn Gymro Cymraeg iaith gyntaf, yn ymylu a bod yn uniaith Gymraeg. Cymraes di Gymraeg o Bontypridd yw Mam. Saesneg oedd iaith fy magwraeth mewn cymdeithas Cymraeg yn Sir Feirionydd (ar y pryd).

O herwydd yr amgylchiadau magwraeth a dros hanner canrif o arfer, Saesneg byddwyf yn siarad efo fy nhad. O herwydd eu magwraeth mae fy meibion yn siarad Cymraeg efo fi ac yn siarad Cymraeg efo fy nhad, ond mae sgyrsiau tair cenhedlaeth yn anghyffyrddus iawn. Rwy'n siarad Saesneg efo Dad. Mae Dad yn siarad Saesneg efo fi, mae'r plantos yn ansicr o ba iaith i ddefnyddio ond mae Dad a Fi yn flin os ydynt yn siarad Saesneg. Cawl annifyr cymhleth na chrybwyllwyd yn rhaglen Mr Williams!

Fe aeth cefnder i Mam yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Rhydfelen yn y 60au. Fe ymbriododd a chyd disgybl, ond er gwaethaf eu haddysg Gymraeg, Saesneg oedd iaith eu cartref. I Ysgol Rhydfelen aeth eu plant fel disgyblion o gartref di Gymraeg. Mae rhai o'u gwyron, ac yn wir, eu gor-wyrion yn ddisgyblion i ddau cyn disgybl Rhydfelen yn Ysgol Gartholwg bellach ond eto yn ddisgyblion o gartrefi Saesneg.

Pedwar cenhedlaeth yn danfon eu plant i Ysgol Cymraeg, ond dim yn magu eu plant yn Gymry Cymraeg. Pam? Cwestiwn pwysig na chodwyd yn rhaglen Mr Williams.

Yn yr 80au yr oeddwn yn aelod o Senedd Mudiad Adfer, roedd cyfneither imi hefyd yn aelod o'r Senedd. Er gwaetha'r ffaith ein bod ni'n dau yn aelodau o fudiad a oedd yn hyrwyddo Un Iaith i'r Fro, yr oeddem yn siarad Saesneg a'n gilydd, o herwydd arfer. Roedd yn amlwg i ni’n ddau fod angen torri'r arfer er mwyn dilysrwydd ein hymrwymiad i'r mudiad, ond roedd yn beth anodd ar y diawl i'w wneud.

Roeddwn yn gweithio efo'r hogan a daeth yn wraig imi am ddwy flynedd cyn dechrau canlyn, heb sylwi ei bod hi'n Gymraes Cymraeg. Dim ond wrth ddechrau canlyn a chael hi'n ymddiheuro am siarad Cymraeg a'i Mham cefais wybod fy mod wedi bod yn gwastraffu fy Saesneg arni cyhyd. Ond erbyn hynny yr oeddem wedi dod i'r arfer a chyfathrebu yn y Fain a'n gilydd. Byddem, bellach, yn sgwrsio'n achlysurol yn y Gymraeg - ond wastad yn ffraeo yn y Saesneg!



Er gwaethaf pob addysg, mae newid iaith yn anodd, mor anodd fel mae ychydig sydd yn llwyddo. Piti bod rhaglen Mr Williams wedi bod mor arwynebol, yn hytrach nag yn ymdrin â gwir broblemau newid iaith!

4 comments:

  1. Arglwydd mawr Alwyn - mae fy mhen i'n troi wrth geisio deall hynna i gyd.

    ReplyDelete
  2. Cedwyn Aled11:01 am

    Swno mwy fel fersiwn Gymraeg o'r Gordian Knot..

    ReplyDelete
  3. Ti'n nodi sawl scenario yma, sydd yn swnio'n reit cymhleth, ond yn ddigon cyffresin o fewn Cymru heddiw mae'n siwr (ac maen cymdeitrhasau dwy/aml ieithog wraill mae'n siwr), ond tuedd y di-Gymraeg ydy gweld popeth mewn du a gwyn. Mae hefyd yn ei wneud yn haws i ninnau ddeall pam a sut bu newid iaith o fewn teuluoedd Cymraeg genedlaethau'n ôl.


    Mae fy ngwraig i wedi dysgu Cymraeg i safon ble mae hi'n rhugl i bob pwrpas, ond gan i ni gwrdd yn Saesneg, mae'n anodd newid iaith ein perthynas. Mae'n hawdd pan mae 3ydd person yn ein cwmni sy'n siarad Cymraeg. Ni ar fin dod yn rieni, felly yd dyn diddorol gweld sut hwyl gawn ni'n magu'r plentyn yn Gymraeg, sef ein bwriad.

    Bues yn gwetio i Fenter Iaith yn y Cymoedd, a sylwi fel roedd cynhedlaeth A (rhieni d-Gymraeg) wedi danfon eu plant i ysgolion Cymrag yn y '70au a'r '80au ond i'r plant (Cenhedlaeth B) beidio parhau i siarad yr iaith. Mae hwythau rwan yn rieni, ond yn dal i ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg ond eu magu'n Saesneg. Ambell waith, mae cenhedlaeth A yn dysgu Cymraeg wedi ymddeol, ac os ydynt yn dod reit rhugl ac wedi dysgu'r iaith cyn i'r wyr/wyres (cynhedlaeth C) ddechrau siarad, yna mae nhw'n siarad Cymraeg a'u gilydd. Gwelais ambell enghraifft o hyn, sy'n gaolnogol ac yn dangos bod gwrth dysgu Cymraeg i bobl hyn sydd eisoes wedi magu plant.

    Diflas oedd gweld mewn arolwg bwrdd yr iaith diweddar mai mond 80% o gyplau ble roedd y DDAU riant yn gallu siarad Cymraeg oedd yn magu'r plant yn Gymraeg. Mwy fel 1910 na 2010 myn uffar.

    ReplyDelete
  4. Anonymous2:22 pm

    Y senario dwi'n weld ddigon amal, ydi'r un oedd on Ysgol Dyffryn Ogwen - pobol prin yn sylwi pan mae rhywun yn siarad saesneg (ond yn deallt Cymraeg). Mae'r sgwrs wedyn yn cario 'mlaen yn Gymraeg...

    ReplyDelete