01/10/2010

Y Blaid yn cipio sedd gan Llais

Synnu nad yw BlogMenai wedi ei nodi eisoes, ond dyma ganlyniad isetholiad Cyngor Sir Gwynedd ward Bowydd a Rhiw:

Plaid Cymru 338,
Llais Gwynedd 246.

Canlyniad etholiad 2008 Llais Gwynedd 341, Plaid Cymru 247, Y Blaid Werdd 117.

Plaid Cymru yn cipio'r sedd gan Llais yn weddol gyfforddus. Llongyfarchiadau i'r Cyng. Paul Eurwel Thomas ar ei fuddugoliaeth.

2 comments:

  1. Ahem - dwi wedi nodi'r ffaith neithiwr alwyn.

    ReplyDelete
  2. Mae'n ddrwg gennyf Cai, am ryw reswm wnaeth fy narllenydd ffrwd ddim codi dy neges am y canlyniad, dim ond yr un statporn iti ei gyhoeddi ychydig funudau wedyn. Posib nad ydy Bloglines yn hoffi pyst o'r unlle yn cael eu gyrru yn rhy agos at ei gilydd. Bydd rhaid imi ail afael yn yr arfer o ddarllen blogiau yn y cnawd yn hytrach na thrwy ddarllenydd ffrwd.

    ReplyDelete