26/10/2010

Yr Welsh Gordian Knot

Bu ymateb diddorol i fy mhost diwethaf ar raglen David Williams, Welsh Knot. Roedd Cai yn meddwl ei fod yn neges mor gymhleth fel bod ei ben yn troi wrth geisio ei ddeall. Cafwyd sylw tebyg gan Cledwyn Aled yn awgrymu bod fy hanes o anawsterau'n dyfod yn ddwyieithog ymarferol yn debyg i Gordian Knot; sef cwlwm rhy anodd ei ddatod.

Dyna'r union bwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud; mae defnyddio ail iaith yn ymarferol gymhleth, yn llawer mwy cymhleth na'r ddu a gwyn yr oedd rhaglen David Williams yn ei awgrymu.

Mae'n amlwg bod Rhys Wynne, sydd wedi cael profiad tebyg, yn ei dallt hi. Fy unig anghytundeb efo sylw Rhys yw ei honiad mae tuedd y di-Gymraeg ydy gweld popeth mewn du a gwyn. Mae sylwadau Cai a Cledwyn yn awgrymu bod y Cymry naturiol Gymraeg yn gweld yr achos yr un mor ddu a gwyn a'r di Gymraeg, bod rhai o garedigion penna'r iaith ddim am gydnabod y cymhlethdodau oherwydd eu bod yn torri ar draws eu polisïau hawdd yw datrys er mwyn ail adfer yr iaith Gymraeg.

Mae cyfrannydd dienw yn cyfeirio at yr hogyn o Fethesda yn y rhaglen a oedd yn deall pob gair o'r Gymraeg yr oedd yn ei glywed ond eto yn ymateb yn y Saesneg, ond dydy di enw, na David Williams dim yn gofyn pam? Mae'n amlwg bod yr hogyn yn gwbl rugl yn y Gymraeg, ond eto'n gyndyn i ddefnyddio'i Gymraeg. Dyna'n union sut oeddwn i yn 16 oed, sut mae rhoi hyder i'r hogyn yna?*

Roedd ceisio newid Cymru o fod yn wlad uniaith Gymraeg i fod yn wlad uniaith Saesneg yn weddol hawdd, yr hyn oedd ei angen oedd disodli'r hen iaith a mabwysiadu iaith newydd. Ond methiant syfrdanol bu'r ymgyrch hawdd. Ry' ni yma o hyd! chwedl DI!

Peth llawer mwy cymhleth yw creu gwlad ddwyieithog lle mae nifer mawr o'r boblogaeth yn dewis defnyddio'r ddwy iaith yn gyfartal neu'r iaith frodorol uwchlaw iaith eu magwraeth.

Yn ôl yr hyn yr wyf yn ddeall mae bron pob Gwyddel yn y Gweriniaeth yn gallu defnyddio'r Gwyddelig ond dim ond 5% sy'n dewis gwneud hynny - a'i dyna berwyl addysg Gymraeg?

Mae mynd o addysg Gymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn hynod gymhleth, ond mae'n cymhlethdod mae'n rhaid i garedigion yr iaith ymdopi ag ef os ydym am weld dyfodol llewyrchus i'n hiaith.

*Dafydd El 'nath rhoi'r hyder imi trwy nodi nad oedd modd imi ddyfod yn AS Rhyddfrydol Gymreig oni bai fy mod yn ddigon hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg ar y cyfryngau. Er cymryd ei gyngor rwy'n dal i ddisgwyl yr enwebiad! A dau ddi-Gymraeg wnaeth dwyn fy sedd edling!

3 comments:

  1. Un pwynt bach:

    Yn ol cyfrifiad 2002 roedd yna 1,570,894 o siaradwyr Gwyddelig yn Iwerddon a 2,180,101 nad oeddynt yn siarad yr iaith.

    ReplyDelete
  2. Bwlch2:15 am

    Y ffaith ydi o gwmpas 400,000 sydd gallu siarad yn rhugl. Mae ffigyrau fel 1.5 miliwn yn llwyr swbriel. Ffaith dwi gallu dweud Bonjour neu ole ddim rhoi hawl i mi ticio bocs ieithoedd ewrop i gyd a'r y ffurflenni!!! Tyda ni gyd yn gwybod fod y Gwyddelod yn synnu faint mor gryf ydi'r gymraeg yn Nghymru cymharu a Gaelic yn Iwerddon!!!

    ReplyDelete
  3. Bwlch, mae'n dibynnu i raddau ar paham dy fod yn defnyddio geiriau fel Bonjour neu Ole, a'i er mwyn cymryd y piss allan o ieithoedd Ewrop, neu a'i am dy fod am eu clodfori a'u parchu?

    Mae yna dipyn o wahaniaeth rhwng Sais sydd yn wir gynnig y llwnc destun Iechyd Da, a'r un sy'n watwar efo’i ieci doh!

    ReplyDelete