26/11/2010

Pwy Faga Blant?

Difyr yw gweld bod cefnogwyr pob plaid, gan gynnwys ei blaid ei hun, wedi condemnio'r cyn AS a'r darpar Arglwydd Geidwadol Howard Flight am wneud y sylw bod torri Budd-dal plant i'r cyfoethocaf yn mynd i greu system lle mae'r dosbarth canol yn cael eu hannog i beidio bridio oherwydd ei fod yn rhy ddrud, ond bydd cymhelliad ar gyfer y rhai ar fudd-daliadau i barhau i blanta.

Pwrpas gwreiddiol Budd-dal Plant oedd gwneud yr hyn y mae Mr Flight yn ei grybwyll - i annog pobl i gael rhagor o blant. Fe'i cyflwynwyd yn wreiddiol ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod yna pryderon y byddai merched a oedd wedi cael blas ar waith yn parhau yn y gweithle yn hytrach na dychwelyd i'w rhôl draddodiadol o aros adref i fagu plant. Byddai hynny yn ei thro yn creu problemau diweithdra i filwyr a oedd yn dychwelyd o faes y gad ac yn achosi problemau demograffig gan na fyddai'r gwragedd yn peryglu eu swyddi trwy syrthio'n feichiog. Ar ben hynny roedd angen i ferched cael mwy o blant er mwyn llenwi'r bwlch a chreasid gan golli dwy genhedlaeth yn y ddwy gyflafan.

O gondemnio sylwadau Howard Flight yr hyn mae'r holl sylwebyddion yn gwneud yw cydnabod nad yw'r budd-dal bellach yn cyflawni ei wir bwrpas. Os yw sylwadau Mr Flight yn orffwyll, yn gas ac yn ansensitif, mae'n rhaid bod talu'r budd-dal i famau hefyd yn orffwyll, yn gas ac yn ansensitif.

Os nad yw'r tâl yn gwneud ei briod waith bellach ac os yw crybwyll ei briod waith yn wirion, rhaid gofyn pam ei bod yn dal i gael ei dalu i unrhyw un, boed cyfoethog neu dlawd? Onid yw hi'n hen bryd i gael gwared â'r budd-dal fel un sydd heb bwrpas yn y byd modern?

ON
Cyn i neb ddweud fy mod i mor anystyriol o anghenion y tlawd ac ydy'r bonheddwr Ceidwadol dylid nodi nad yw'r tlawd yn cael unrhyw fendith o'r budd-dal. Mae Budd-dal Plant yn cael ei hystyried fel incwm ar gyfer pethau megis Credyd Treth a Chymorth Incwm, gan hynny mae ei werth yn cael ei ddiddymu o'r taliadau hynny.

No comments:

Post a Comment