27/02/2011

Cwestiwn dyrys am ferched posh

Wrth chwilota trwy Wicipedia (Cymraeg) cefais hyd i erthygl ar Gapel Celyn. Yn yr erthygl gwelais fod cyfrannydd o'r enw Pwyll, wrth son am yr ymgyrch i gadw'r cwm rhag y dŵr wedi cyfeirio at ferch DLlG fel yr Arglwyddes Megan Lloyd George, mae hyn yn anghywir, rhaid oedd ei gywiro Y Fonesig Megan Lloyd George sy'n gywir!

Ond wrth ei gywiro, roedd gwneud y fath gywiriad yn fy nharo fi fel peth od ar y diawl i'w wneud!

Ar y cyfan dydy'r Cymry ddim yn rhoi fawr o bwys ar radd gymdeithasol!

Yn ôl stori apocraffal yr wyf wedi ei glywed (rhywbeth wnaeth Wil, frawd y cyn Brif Weinidog, dweud wrth fy nhaid, yn ôl y son), fel Lloyd yr oedd DLlG yn cael ei adnabod yn blentyn, yn hytrach na David. Roedd gweision sifil Llundain yn ffieiddio at y ffaith bod pobl Cymru mor hy ag i gyfarch y gweinidog fel Mr Lloyd (enw cyntaf) a George (cyfenw) yn yr un modd a byddent yn cyfarch Robart Jones fel Mr Robart Jones; fel eu bod wedi troi Lloyd-George yn enw dwbl! Gwir neu beidio mae bodolaeth y stori yn dangos cred cyffredinol am agwedd y Cymry tuag at statws.

A dyma'r dryswch, o dderbyn pa mor ddi-hid ydym tuag at statws, pam fod y Gymraeg yn gwahaniaethu wrth gyfieithu'r gair Lady i wanhaol raddau?

Lady - Aelod benywaidd o Dy'r Arglwyddi, neu wraig i aelod o Dy'r Arglwyddi yw'r Arglwyddes.

Lady - Teitl cwrtais i ferch Ardalydd neu Iarll yw Y Fonesig.

Lady, gwraig i Farchog "Syr" – Y Ledi.

Pam bod rhaid i ni fod mor barticiwlar, pan nad oes ots gan y Saeson, sydd yn cyfrif statws yn beth llawer pwysicach, gwahaniaethu o gwbl rhwng y wahanol raddau o Ladys?

1 comment:

  1. Anonymous4:18 pm

    Efallai ei fod yn beth od i rai Cymry drafod, ond yn dwysig wrth ystyried fod aelodau o'r Cynulliad â theitla a bod gan prif Was (Forwyn?) Sifil Cymru DBE.

    Yr o'n i'n meddwl byddai gwraig Marchog (enu Barwnig, am hynny) yn cael eu galw'n Fonesig (ee. Y Fonesig Aimee Parry-Williams), ond gall hynny arwain at ddryswch gyda gwragedd sydd â DBE neu LG

    ReplyDelete