07/04/2011

Mae Seisnigrwydd y Gyffordd yn Hanesyddol - sioc!

Yr wyf wedi derbyn ymateb gan Cyngor Conwy parthed fy nghwynion am arwyddion stryd uniaith Saesneg sydd wedi ymddangos yn niweddar yng Nghyffordd Llandudno dyma fo:

Diolch i chi am eich neges e-bost yn ddiweddar am yr arwyddion stryd newydd sydd wedi eu gosod ar hyd Conway Road.

Mae’r arwyddion stryd newydd y cyfeiriwch atynt yn cael eu gosod yn lle’r hen rai fel rhan o gynllun i wella strydwedd yr ardal mewn ymgais i gefnogi’r gwaith o adfywio Conway Road. Mae’r arwyddion hyn yn cael eu newid i adlewyrchu’r hyn a oedd yno gynt ac mae enwau’r strydoedd yn enwau swyddogol sydd wedi bodoli ers adeg creu’r strydoedd. Mae enwau swyddogol strydoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn gymysgedd o enwau Cymraeg yn unig, Saesneg yn unig, ac weithiau dwyieithog. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi sylwi mai enw Cymraeg yn unig sydd ar yr arwydd enw stryd newydd yn Ffordd Maelgwyn wrth i chi adael Cyffordd Llandudno tuag at gylchfan y Black Cat.

Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn annog defnydd o enwau Cymraeg traddodiadol ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardal os ydynt yn briodol, ac mae’n ffafrio enwau sy’n adlewyrchu cymeriad yr ardal. Gellir gweld enghraifft o hyn ar Conway Road, lle mae enw stryd o dai newydd wedi’i henwi’n ffurfiol yn Gwel yr Afon’. Rydym yn ymwybodol fod camgymeriadau wedi ymddangos ar yr arwydd enw stryd newydd ar gyfer Gwel yr Afon, ond gallwn eich sicrhau y bydd hyn ac unrhyw bryderon eraill sy’n ymwneud ag arwyddion yn cael eu datrys yn syth.

Hefyd, fel rhan o’r Cynllun hwn, bydd yr arwyddion croeso, byrddau gwybodaeth am y gymuned, ac arwyddion cyfeirio newydd yn gwbl ddwyieithog yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg.

Gobeithiaf fod hyn o gymorth i egluro’r sefyllfa.

Yn ddiffuant
Tim Pritchard

Gwêl yr Afon, gyda acen sy'n gywir nid Gwel yr Afon Tim!

Mae'n ymateb cwbl hurt - mae defnyddio CONWAY ROAD mewn llythyr Gymraeg yn brawf braidd o ba mor hurt ydyw. Mae'n gwbl amlwg mae Ffordd Conwy dylid ei ddefnyddio wrth gyfeirio at y lôn yn y Gymraeg (a Conwy Road yn y Saesneg hefyd mae Conway wedi hen chwythu ei blwc)!

Mae dadlau mae enwau hanesyddol yw Nant y Gamer Road, a bod Ffordd Nant y Gamer yn annerbyniol yn awgrymu nad oedd Cymry Cymraeg y Gyffordd yn ymwybodol mae Ffordd yw'r gair Cymraeg am Road!

Mae gwneud yr esgus bod enwau strydoedd wedi bodoli ers adeg creu’r strydoedd sef adeg pan oedd y Gymraeg yn cael ei ddilorni ac adeg pan oedd pobl am weld y Gymraeg yn cael ei ladd yn un warthus!

A hyd yn oed os yw dyn yn derbyn dadl Tim mae Osborne Road yw enw hanesyddol swyddogol Ffordd Osborne, ydy o, wir yr, yn disgwyl i ni dderbyn mae Car Park yw enw hanesyddol y Maes Parcio sydd yno?

No comments:

Post a Comment