24/04/2011

Pasg Anghydffurfiol Cymreig

Dyma Ddydd y Pasg, y diwrnod pwysicaf yn y calendr Cristionogol, ac un o'r ychydig ddyddiau pan fydd neges Gristionogol yn cael ei nodi ar y newyddion.

Er gwaetha'r ffaith nad yw Cymru wedi bod yn wlad Gatholig ers yr unfed ganrif ar bymtheg a bod datgysylltiad Cymru a'r Eglwys Anglicanaidd wedi mynd heibio ei nawddegfed penblwydd, mae'n debyg bydd newyddion Cymru heddiw yn nodi neges y Pasg gan y Pab a chan Archesgob Caergaint, siawns bydd Archesgob Anglicanaidd Cymru yn cael mensh (er mwyn cydbwysedd Cymreig); ond bydd dim siw na miw yn cael ei adrodd gan arweinwyr yr anghydffurfwyr Cymreig.

Bydd y BBC, unwaith eto eleni, yn anghofio'r datgysylltu a fu rhwng gwlad ag eglwys yng Nghymru ym 1920, ac yn anwybyddu neges Pasg yr Annibynwyr, Y Bedyddwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd.

Yn niffyg neges swyddogol gan eraill dyma neges Pasg Wesleaidd - mwynhewch yr ŵyl yn ôl eich arfer, gan gofio bod gennych yr allu i ddewis yr Iesu fel eich Gwaredwr os mae dyna’ch dymuniad.

1 comment:

  1. Wrth gwrs, mae'r dewis hwnnw'n amodol ar y ffaith y dewisodd Duw chi yn gyntaf. Pasg Hapus i bawb, gan gynnwys y Morganitiaid.

    ReplyDelete