11/04/2011

Pleidlais i Lafur = Pleidlais i Middle England yn y Bae?

Mae gan Will Paterson post diddorol sy'n tynnu sylw at y ffaith bod yna tebygon amlwg rhwng darllediadau gwleidyddol y Blaid Lafur ar gyfer Senedd yr Alban, Cynghorau Lloegr a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Nid y darllediadau ydy'r unig bethau sydd yn debyg rhwng yr ymgyrchoedd yn y tair gwlad. Prif fyrdwn dadl Llafur yn y tri etholiad yw bod bleidlais i Lafur yn fodd i amddiffyn yr Awdurdod lleol / Yr Alban / Cymru rhag ymosodiadau Llywodraeth San Steffan; sydd yn nonsens llwyr wrth gwrs. Prin yw gallu Cyngor Sir i amddiffyn ei hetholwyr rhag Llywodraeth Canolog; a heb rymoedd ariannol does dim modd i Lywodraethau Cymru a'r Alban i amddiffyn eu trigolion chwaith.

Yn wir mae record Llywodraeth y Bae o amddiffyn Cymru rhag toriadau San Steffan hyd yn hyn wedi bod yn rhestr hir o fethiannau llwyr: S4C, Swyddfa'r Trwyddedau Teithio, Sain Tathan ac ati ac ati; nid fy mod i'n beio Llywodraeth glymblaid Llafur/PC yn y Bae am y fethiannau hyn - does gan y Cynulliad dim mo'r grym i wrthsefyll toriadau canolog y ConDems; ond celwydd creulon a thwyllodrus yw honni bod pleidlais i Lafur yn Etholiadau'r Cynulliad mynd i newid y sefyllfa!

Y trydydd peth sydd yn debyg yn y tair ymgyrch yw'r penderfyniad i drin y tri etholiad fel refferendwm canol tymor ar fethiannau Llywodraeth San Steffan. Ymosod ar yr anghenfil tinflewog Torïaidd / Thatcheraidd (gan anghofio bod Llafur wedi parhau i ddilyn polisïau Thatcheraiddd a hyd yn oed wedi clodfori Thatcher yn ystod ei dymor o Lywodraeth Brydeinig ddiweddar) a chysylltu eu gwrthwynebwyr eraill a'r Torïaid.

Mae cysylltu'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r bwystfil yn dacteg amlwg. Mae'r polisi o gysylltu'r SNP hefyd yn gwneud rhywfaint o sens; mae llawer o lwyddiannau llywodraeth leiafrifol yr SNP wedi deillio o gefnogaeth seneddol gan y Blaid Geidwadol (er bod nifer o'i fethiannau i basio mesurau wedi deillio o'r ffaith bod Llafur wedi pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr i'w trechu). Ond mae dilyn yr un trywydd yng Nghymru yn chwerthinllyd. Iawn dydy'r Blaid heb ddweud Na! Na! Nefar i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr ond y mae'r rhan fwyaf o'i lefarwyr wedi dweud bod hynny yn hynod annhebygol A phwy mae'r Blaid wedi bod yn bropio fynnu mewn llywodraeth am y pedair blynedd diwethaf?

Mae'n gwbl amlwg nad yw Llafur am gael ymgyrch ar gyfer budd Sir, neu er bydd yr Alban, nac er bydd Cymru. Mae'r ymgyrch Lafur yn un Prydeinig er budd y Blaid Lafur Prydeinig. Diben Llywodraeth Lafur yng Nghymru bydd i adsefydlu Lafur y DU gyfan, nid lywodraethu Cymru er budd Cymru - sefyllfa digon pwdr ynddo'i hunan! Ond os mae pwrpas Llywodraeth Lafur yn y Bae yw adfer rhywfaint o grediniaeth i Lafur Prydeinig, oni fydd yn rheoli Cymru mewn modd sydd yn gweithio - nid at fuddiannau Cymru - ond at ddant y cyn pleidleiswyr Llafur a gollwyd yn Middle England yn 2010?

No comments:

Post a Comment