10/06/2011

Ieuan y Cenedlaetholwr - o'r Diwedd?

Er gwell - er gwaeth, mae gan bobl eu llaw-fer o grisialu'r hyn yr ydynt yn credu eu bod pleidiau gwleidyddol yn sefyll drosti.

Mae pawb yn gwybod mae plaid y gweithwyr a'r difreintiedig yw'r Blaid Lafur. Er bod tystiolaeth lu sy'n profi nad yw hynny'n wir bellach mae pob ymdrech gennym ni sydd yn wrthwynebus i'r Blaid Lafur i nacau'r fath gred wedi profi yn anodd ar y diawl.

Mae pawb yn gwybod mae plaid y bosus, y mewnfudwyr a'r rhai sydd am ormesu'r werin datws yw'r Blaid Geidwadol. Mae Nick Bourn a'i griw wedi chwysu bwcedi dros y degawd diwethaf i geisio dad wneud y llun yna o Geidwadaeth; wedi ceisio creu Plaid Geidwadol Werinol Gymreig, heb fawr o lwyddiant!

Mae Pawb yn Gwybod bod Plaid Cymru yn sefyll dros annibyniaeth, yn casáu'r Deyrnas Gyfunol ac yn gwrthwynebu'r Teulu Brenhinol!

Un o'r pethau sydd wedi gwneud imi deimlo'n rhwystredig iawn efo Plaid Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf yw anfodlonrwydd y Blaid i amddiffyn a choleddu'r achos dros annibyniaeth. Pob tro mae unoliaethwr yn ymosod ar y Blaid trwy sôn am annibyniaeth mae'r Blaid yn ymateb trwy osgoi'r pwnc yn hytrach na chyflwyno achos cryf dros annibyniaeth, mae'n gwneud i'r Blaid edrych yn wan ac yn ddauwynebog. Mae peidio coleddu'r achos dros annibyniaeth mae pawb yn gwybod bod y Blaid yn ei gefnogi yn gwneud i'r Blaid edrych yn hurt.

A dyna sy'n peri dryswch imi parthed sylwadau'r sylwebyddion gwleidyddol parthed y ddrwg honedig mae absenoldeb Ieuan Wyn o'r sbloets Brenhinol yn y Bae echdoe am greu i'r Blaid!

Pwy sy'n pleidleisio i Blaid Cymru ar sail "cefnogaeth" y Blaid i'r achos Brenhinol?

Neb, rwy'n gobeithio!

Sawl cenedlaetholwr sydd wedi pechu gan y Blaid am iddi gow-towio i'r Brenhiniaeth a methu amddiffyn achos y genedl ac o'r herwydd wedi dewis peidio pleidleisio i'r Blaid yn y blynyddoedd diwethaf o'r herwydd? Miloedd Lawer - digon i roi sedd i UKIP yn hytrach nag ail sedd i'r Blaid yn etholiad Ewrop!

Mae'n debyg mae damweiniol oedd absenoldeb Ieuan, yn hytrach na snub bwriadol i'r Cŵin , ond mae'r ffaith bod Ieuan wedi ymddangos yn ddryw i'r hyn mae pawb yn gwybod yw agwedd y Blaid i'r frenhiniaeth yn rhoi argraff o ymrwymiad i'r achos, o fod yn driw i egwyddor ac yn debygol o wneud mwy o les nac o ddrwg i Blaid Cymru na all ohebwyr y Bîb a'r wasg eu dirnad!

2 comments:

  1. Anonymous11:27 am

    Beth wyt ti'n meddwl o eiriau Vaughan Roderick ar y matter hwn? Wyt ti wedi ei weld. Hefyd, mi wnaeth e gysylltu gyda rhaglen chwerthinllyd (y dydd hwnnw) J Mohammed ar y radio.

    ReplyDelete
  2. Anonymous1:27 am

    Dwi'n sylwi nad wyt ti'n medru deutha ni tros bwy ma'r Dems Rhydd i fod i sefyll.

    ReplyDelete