18/02/2012

Sut Guto?

Rwy'n ddiolchgar i Guto Bebb AS am ei ymateb i ran o fy mhost diwethaf.

Yn y post mi ddywedais:

Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.

Deud da, ond sut mae mynd ati?

Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!

Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?

Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?

Ymateb Guto oedd:

Fe fu i mi sefydlu siop lyfrau (sy'n dal i fasnachu er i mi werthu) efo £3,000, tafarn efo £800 ag menter ymgynghorol gyda gorddrafft o £1000. Rŵan oes 'na honiad for hynny yn swm gormodol?

Am bymtheg mlynedd fe fu i mi gynnal cyrsiau busnes yn fisol trwy Wynedd, Môn a rhannau o Bowys a Chonwy. Rhwng y nawdegau cynnar a 2010 fe syrthiodd niferoedd y Cymry Cymraeg oedd yn mynychu o tua 50% i lai na 15%. Gan amlaf yr oedd y buddsoddiad dan sylw gan yr unigolion yn ymestyn o £200 neu lai i fawr mwy na £5,000. Ydi hynny'n amhosib i Gymry Cymraeg?

Wrth gwrs, yr oedd y staff oedd yn cynnig grantiau, asesu grantiau, datblygu strategaethau ayyb oll yn Gymry iaith gyntaf ac oll, yn naturiol ddigon, yn gweithio i'r sector gyhoeddus.

Dowch fois - hyder!

Nid ydwyf yn amau geirwiredd Guto, yr wyf wedi clywed straeon tebyg o fentro ychydig yn troi allan i fod yn llwyddiannau mawr yn niweddar. Yn ôl rhaglen deledu ddiweddar gan fuddsoddi £30 ym 1970 (tua £500 heddiw) y cychwynnwyd yr archfarchnad Iceland sydd bellach werth biliwn a hanner o bunnoedd.

Ar y radio yn niweddar roedd sôn am hogyn ysgol 11 oed a brynodd bocs o felysion o gyfanwerthwr efo'i bres poced deng mlynedd yn ôl, sydd bellach yn berchen ar gwmni gwerthu melysion byd eang sy'n troi miliynau o bunnoedd pob blwyddyn.

Fel gormod o ddynion canol oed trist byddwn wrth fy modd gwario ymddeoliad cynnar fel perchennog tafarn. Os oeddwn yn gwybod sut i wneud hynny am £800 byddai fy enw uwchben drws rhyw dafarn bach gwledig cyn pen y mis.

Mae yna dafarn ar werth yn fy mhentref ar hyn o bryd. Chwe Chan Mil amhosibl yw pris y gofyn nid Wyth Gant!

Pe byddwn yn gwybod sut mae modd i fy mhlant buddsoddi eu pres poced mewn busnes bydd yn arwain at greu cwmni rhyngwladol llwyddiannus byddwn yn atal eu pres poced ac yn eu cloi yn y twll dan staer hyd iddynt gytuno i fuddsoddi eu harian yn y fath fenter!

Nid diffyg mentergarwch, na diffyg hyder, na swydd fras yn y sector breifat, na diogi, na moethusrwydd byw ar y wlad sy'n rhwystro Cymry fel fi rhag cychwyn busnes ond diffyg gwybodaeth.

Os oes modd cychwyn busnes llwyddiannus am £200, fel mae Guto yn honni, mae modd i'r tlotaf yn ein cymdeithas benthyg hynny o Undeb Credyd. Efo'r wybodaeth briodol, prin yw'r di waith yr wyf i'n eu hadnabod na fyddent yn neidio at y fath gyfle!

Mae'r cwestiwn yn sefyll "Sut Guto"?

3 comments:

  1. Er gwybodaeth, cododd Canolfan Gymraeg Wrecsam £50,000 cyn agor y Saith Seren fis dwytha - heb y pres hynny byddwn ni ddim wedi medru talu am gegin newydd, adnewyddu'r bar, staffio a stocio bwyd a diod. Rydan ni'n lesio'r adeilad ac mae'n gambl go iawn.
    Sut ar y ddaear y gwnaeth Guto Bebb hynny i gyd am £800?

    ReplyDelete
  2. Anonymous8:03 pm

    Tybed os mai trwy godi ffi ar ei ddisgyblion fel busnes "go iawn" neu drwy odro grantiau Ewropeaidd bras drwy law cyrff megis Menter a Busnes yr oedd Guto yn ennill ei fywoliath pan yr oedd yn Ymgynghorydd Busnes?

    Gallai ddychmygu fod swyddogion grantiau Ewropeaidd wrth eu boddau efo pitch "I created a successful business with only £800 and you could too" a hynny gan guru busnes Cymraeg ei iaith fel Guto.

    ReplyDelete
  3. Annwyl Hen Rech,

    Sori am fod mor hir yn ymateb. Prysurdeb gwaith. Do, fe fu i mi sefydlu tafarn ar y gost o archeb gyntaf (go sylweddol). Mae y syniad fod angen prynu tafarn yn ffwlbri llwyr. Mae modd denu tenantiaeth tafarn am swm llai na £5,000 a hynny hyd a lled y gogledd er fod menter o'r fath yn anodd iawn ar hyn o bryd.

    Mae cefnder fy ngwraig yn cyflogi hanner dwshin ac yn gwneud elw blynyddol o bell dros £50,000. Ei fenter? Peintiwr ac addurnwr ddaru lansio ei fusnes gyda £40 yr wythnos dan y cynllun lwfans menter, gyda fan gwerth £600 a brwsh neu ddau. Tu hwnt i Gymry Cymraeg?

    Yn syml iawn tydi sefydlu busnes ddim yn golygu ffortiwn. Mae Technoleg Draig, sef busnes IT ym Mangor yn ymfalchio yn eu gwasanaeth Cymraeg. Lansiwyd y busnes o garej ym Mhorthaethwy gydag un laptop. Ar un adeg cyflogwyd 22 er fod hyn lawr i 12 ar hyn o bryd. Y buddsoddiad? Dim.

    Pam fod mentro fel hyn mor anodd i'w ddeall gyfeillion?

    Guto

    ON - un cwsmer o blith nifer oedd Menter a Busnes ac daeth stop ar y cytundebau pan fu i mi ymuno gyda'r Ceidwadwyr yn 2001. Rhyfedd fod fy musnes wedi llwyddo am ddegawd wedi hynny! Yn rhyfeddach fyth fy nghyswllt o fewn Menter a Busnes trwy'r cyfnod y bu i mi weithio iddynt oedd Adam Price. Er ei rol fel guru economaidd Plaid Cymru gwell oedd gan Adam sicrwydd swydd na gweithio'n llaw rhydd. Ffeithiau Mr di-enw ond wrth gwrs, haws 'di taflu ensyniadau.

    ReplyDelete