15/02/2012

Tynged yr Iaith a Thynged yr Economi

Rwyf wedi mwynhau cyfres y BBC o raglenni parthed hanner canmlwyddiant Tynged yr Iaith yn arw; un o'r cyfraniadau mwyaf difyr bu cyfraniad fy AS lleol Guto Bebb.

Roedd Taid Guto a Saunders yn gyfoedion ac yn gyfeillion ac yn cyd gyfrannu at yr achos Genedlaethol o allu gweld Cymru o du maes i'r ymerodraeth Brydeinig. Cyn i Ambrose Bebb syrthio allan gyda chefnogaeth Saunders i'r Almaen yn ystod yr ail rhyfel byd roedd y ddau o'r un anian wleidyddol hefyd. Dewis da, gan hynny, oedd dewis Guto fel cenedlaetholwr asgell dde i draddodi un o ddarlithoedd dathlu Tynged yr Iaith.

Mae darlith Guto i'w glywed ar yr I-Player am ychydig ac mae testun ei ddarlith i'w gweld am gyhyd a bydd modd ar wefan y BBC.

Rwy'n cytuno a llawer o'r hyn mae Guto yn ei ddweud. Yn sicr mae'n rhaid i'r Gymraeg bod yn iaith gwaith er mwyn goroesi, ac yn sicr mae angen dirfawr ar waith sector breifat yn y bröydd Cymraeg, nid jest jobs ar y Cyngor.

Rhan o broblem dadl Guto a dadl Saunders yw bod dadleuon y naill fel y llall wedi ei selio ar eirwiredd dyfyniad gan R W Lingen ym Mrad y Llyfrau Gleision Whether in the county or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale. Ym 1847 roedd yna bobl Cymraeg eu hiaith ar ben y raddfa gymdeithasol. Yn y cyfnod yma bu Syr Robert Williams Vaughan yn AS Ceidwadol a'r olaf o bendefigion Cymru i gyflogi bardd a thelynor llys. Bu David Davies Llandinam y dyn cyntaf i gyfnewid siec am filiwn o bunnoedd, a bu Gwenynen Gwent yn hybu'r Gymraeg yn ardal Llanofer. Mae dadl sydd wedi ei selio ar nonsens, boed gan Gomisiynwyr Addysg, Saunders neu Guto am fod yn nonsens!

Mae Guto yn lladd ar y "Sector Cyhoeddus" sydd wedi gwneud bywydau bras Cymreig gan Gymry i'w hunain, heb lawn ystyried gwir natur gwasanaeth cyhoeddus.

Prin fod pawb yn y gwasanaeth cyhoeddus yn y dosbarth canol. Mae glanhawyr ysbytai, pobl hel sbwriel, gweinyddion cinio ysgol ac ati yn cael eu cyflogi gan wasanaethau cyhoeddus, mae nifer ohonynt yn Gymry Gymraeg mewn swyddi lle mae'r Gymraeg yn angenrheidiol / dymunol, ond prin eu bod yn weithwyr dosbarth canol hunanol!

Ac wrth gwrs pan draddodwyd darlith Saunders ystyrid nyrsiaid, heddweision, athrawon, clercod cyngor ac ati yn dosbarth gweithiol.

Mae yna rywbeth gwrthun yn y ffaith bod aelod o'r blaid sydd wedi ceisio perswadio'r aelodau yma o'r dosbarth gweithiol eu bod yn uwch na hynny yn condemnio cefnogwyr y Gymraeg yn y sector gyhoeddus am wneud yr Iaith yn iaith dosbarth canol Pan fo'r un blaid wedi ceisio "creu" y ddosbarth y mae'n condemnio!

Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.


Deud da, ond sut mae mynd ati?

Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!

Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?

Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?

2 comments:

  1. Anonymous10:44 am

    Sut fedr rhywun o gefn gwlad prunnu busnes neu hyd yn oed dir/adeilaid ar gyfer busnes pan rydym yn cystadlu gyda pobl sydd wedi gwerthu ty digon cyffredin am yn aml £1000,000 neu ragor? Bydd rhaid i'r bordorion sticio at weithio yn y syctor gyhoeddus.....neu cael eu cyflogi gan y mewn-ddyfodiaid cefnog.

    ReplyDelete
  2. Da clywed I ti fwynhau.

    O ran dy gwestiwn a sylw hurt braidd Mr Di-enw -ffydd hogia!

    Fe fu I mi sefydlu siop lyfrau (sy'n dal I fasnachu er I mi werthu) efo £3,000, tafarn efo £800 ag menter ymgynghorol gyda gorddrafft o £1000. Rwan oes na honiad for hynny yn swm gormodol?

    Am bymtheg mlynedd fe fu I mi gynnal cyrsiau busnes yn fisol trwy Wynedd, Mon a rhannau o Bowys a Chonwy. Rhwng y nawdegau cynnar a 2010 fe syrthiodd niferoedd y Cymry Cymraeg oedd yn mynychu o tua 50% I lai na 15%. Gan amlaf yr oedd y buddsoddiad dan sylw gan yr unigolion yn ymestyn o £200 neu lai I fawr mwy na £5,000. Ydi hynny'n amhosib I Gymry Cymraeg?

    Wrth gwrs, yr oedd y staff oedd yn cynnig grantiau, asesu grantiau, datblygu strategaethau ayyb oll yn Gymry iaith gyntaf ac oll, yn naturiol ddigon, yn gweithio i'r sector gyhoeddus.

    Dowch bois - hyder!

    ReplyDelete